Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gideon yn gorchfygu’r Midianiaid (Gwasanaeth o’r gyfres ‘Helo Sgryffi’)

gan the Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio'r syniad mai dim ond ychydig o bobl ufudd y mae Duw ei angen i gyflawni pethau gwych.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pecyn o gardiau fflach symiau lluosi.
  • Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl yn y rhan o Lyfr y Barnwyr, pennod 7, sy’n adrodd yr hanes am yr adeg y gwnaeth Gideon orchfygu’r Midianiaid trwy ddilyn cyngor Duw.
  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

    Amser te dydd Gwener oedd hi, ac fel arfer pan fyddai Liwsi Jên yn cyrraedd adref o’r ysgol fe fyddai hi’n rhedeg ar draws y buarth i’r stabl i weld Sgryffi gyda gwên fawr ar ei hwyneb. Ac fe fyddai’n dweud, 'Dim ysgol am ddau ddiwrnod. Hwre! Beth gawn ni wneud, Sgryffi?'

    Ond ddim heno. Roedd hi’n teimlo’n drist. 'Fe wnaeth yr athrawes roi prawf tablau i ni bore heddiw, ac roeddwn i’n cael llawer o’r atebion yn anghywir,’ meddai hi wth Sgryffi. ‘Dim fi oedd yr unig un ychwaith, ac fe ddywedodd yr athrawes bod rhaid i ni ddysgu’r tablau dros y penwythnos. Wedyn mae hi’n mynd i roi prawf arall i ni dydd Llun. Mae Mam yn dweud bod eisiau i mi ymarfer ar ôl te, felly fydd hi ddim yn bosib i ni fynd am dro heddiw. Sori, Sgryffi!' 'Hi-ho, hi-ho!' meddai Sgryffi’n dawel.

  2. Erbyn y bore, roedd gwell hwyliau ar Liwsi Jên. Safodd Sgryffi wrth y bwrdd picnic ar y buarth a gwylio Mrs Bryn yn gosod pac o gardiau fflach ar ganol y bwrdd. Fesul un fe ddangosodd hi’r cardiau i Liwsi Jên, a oedd yn gorfod ceisio rhoi ateb i’r s?m. Os byddai hi’n cael y s?m yn iawn, roedd hi’n cael cadw’r cerdyn. Ond os oedd yr ateb yn anghywir, roedd y cerdyn yn mynd yn ei ôl i waelod y pac.

    Dywedwch wrth y plant, 'Fe allwn ni chwarae gêm Liwsi Jên.' Defnyddiwch y symiau lluosi mae’r plant yn eu gwybod. Bydd y plentyn cyntaf i roi ateb cywir yn cael cadw’r cerdyn. Cadwch y gêm yn fyr a chyflym. Ar ôl cyfnod, dewch â’r chwarae i ben gan ddweud, ''Da iawn, bawb.'

    'Da iawn, Liwsi Jên!' meddai ei mam wrthi pan gafodd y cardiau i gyd o’i blaen. Roedd ei mam mor falch bod Liwsi Jên wedi ateb mor dda, fe ddywedodd y gallen nhw fynd â phicnic gyda nhw i’r traeth. 'Hwre!' gwaeddodd Liwsi Jên. Ac fe ymunodd Sgryffi hefyd, wrth gwrs, gan ddweud 'Hi-ho, hi-ho!'

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Gadewch i ni wrando nawr ar stori o’r Beibl sy’n dangos bod rhifau bach yn gallu gwneud pethau mawr gyda help Duw.

    Gideon yn gorchfygu’r Midianiaid

    Dim ond dyn ifanc oedd Gideon, ond roedd yn dechrau meddwl ei fod yn well am ddelio â rhifau na Duw ei hun hyd yn oed!

    Roedd Duw wedi gofyn iddo ymladd yn erbyn y Midianiaid, felly fe gasglodd ynghyd fyddin fawr o 32,000 o ddynion. Fe allwch chi ddychmygu ei syndod pan ddywedodd Duw wrtho, 'Mae gen ti ormod o bobl er mwyn i mi drechu’r Midianiaid. Rhaid i bawb sy’n teimlo’n ofnus fynd yn ôl adref!' Aeth 22,000 o ddynion adre’n llawen.

    Faint wnaeth aros ar ôl felly? Pwy sy’n gallu gwneud y s?m fawr hon?

    32,000 - 22,000 = ?

    Roedd Duw’n dal i fod yn anfodlon. 'Mae gormod o ddynion gen ti o hyd,’ meddai wrth Gideon. ‘Dos â nhw i lawr at yr afon i gael diod o ddwr, ac fe ddywedaf i wrthyt ti pwy arall ddylai fynd adref a phwy ddylai aros gyda thi.'

    Gwyliodd Gideon wrth i 300 o’r dynion godi dwr i’w yfed gyda’u dwylo gan edrych o’u cwmpas drwy’r adeg. Fe benliniodd y lleill a rhoi eu hwynebau yn y dwr. 'Anfon y dynion hyn sy’n penlinio ac yn rhoi eu hwynebau yn y dwr adref,’ meddai Duw.

    Ydych chi’n gwybod pam? Pwy sy’n gallu gwneud y s?m nesaf?

    10,000 - 9,700 = ?

    Nawr roedd Duw’n fodlon. 'Gyda dim ond 300 o ddynion, fe wnawn ni orchfygu’r Midianiaid.'

    Oedd Gideon yn ei gredu?

    Y noson honno, dywedodd Duw wrth Gideon am godi a mynd. Meddyliodd Gideon am gynllun clyfar iawn. Fe rannodd ei 300 o ddynion yn dri grwp.

    Ydych chi’n gwybod faint oedd ym mhob grwp, felly?

    Fe roddodd Gideon ffagl i bob un o’r dynion, ac utgorn, a jar gwydr hefyd.

    'Dilynwch fi,' meddai. 'Rydyn ni’n mynd i gyrraedd gwersyll y Midianiaid o dri chyfeiriad, a phan fyddwn ni’n cyrraedd, fe fydd fy ngrwp i’n chwythu ein hutgyrn, yn malu ei jariau ar y llawr ac yn chwifio ein ffaglau yn uchel. Yna, fe fyddwch chithau i gyd yn gwneud yr un fath.'

    Wel dyna swn dychrynllyd a lanwodd y nos wrth i’r utgyrn ganu’n swnllyd, a’r jariau’n torri, a’r goleuadau’n ymddangos fel pe bydden nhw’n dod o bob cyfeiriad! Fe wnaeth y Midianiaid ddeffro mewn braw ac, oherwydd bod yno gymaint o swn, roedden nhw’n meddwl eu bod wedi cael eu hamgylchynu gan filoedd o ddynion, nid dim ond gan ychydig o gannoedd. Felly, fe wnaeth y  Midianiaid ffoi mor gyflym ag y gallen nhw oddi yno.

    Ac felly, fe wnaeth Duw helpu Gideon i drechu’r Midianiaid gyda dim ond 300 o ddynion a oedd wedi cael eu dewis yn ofalus.

Amser i feddwl

Ydych chi’n wynebu rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei wneud heddiw sy'n teimlo'n amhosibl?

Mae Cristnogion yn credu y gall Duw ein helpu gyda’r materion mawr hyn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am stori Gideon, a ddangosodd i ni ei bod hi’n bosib i ddim ond nifer fach o bobl wneud rhywbeth mawr gyda dy help di.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon