Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Heddwch yr Adfent

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar yr angen i wneud amser yn ein bywydau i fod yn dawel ac yn llonydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen jar mawr gyda chaead arno, wedi ei lenwi hyd at tua thri chwarter gyda dwr o bwll. Gofalwch ei fod ychydig yn fwdlyd, a chydag ychydig o ddarnau bach o frigau mân neu ddail bach ynddo.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen cannwyll fawr a matsis.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o garol Nadolig fel ‘I orwedd mewn preseb’ neu ‘Dawel nos’, a’r modd o’i chwarae yn ystod y cyfnod ‘Amser i feddwl’ yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant sylwi beth sy’n digwydd wrth i chi ysgwyd y jar.

    Wrth i’r dwr setlo, fe fydd y darnau bach i’w weld yn troelli o gwmpas. Ymhen amser, fe fydd y dwr yn setlo a’r gwaddod yn disgyn i’r gwaelod.

    Nodwch ei bod yn anodd gweld yn glir pan fydd pethau’n brysur a’ch bywyd yn troelli’n gyflym.

    Eglurwch fod ein bywyd ni fel hyn weithiau. Ambell dro, fe fyddwn ni’n brysur iawn, iawn, yn cadw at ein hamserlenni, gwaith cartref angen ei wneud, clwb neu weithgaredd i fynd iddo, a ffrindiau i’w gweld.

    Mae’r un peth yn wir am oedolion hefyd. Yn achos ein rhieni a’r rhai sy’n gofalu amdanom, mae gwaith golchi a sychu dillad, prydau bwyd i’w paratoi, galwadau ffôn i’w gwneud, ac mae angen mynd i siopa. Efallai bod bws neu drên i’w ddal, negeseuon e-bost i’w darllen a’u hateb, gwaith i’w orffen, a therfyn amser i’w gyrraedd ynglyn â thasgau neilltuol, yn ogystal â phob math o gyfrifoldebau eraill yn y cartref.

    Yn aml iawn, mae ein bywyd yn gallu bod fel y dwr mwdlyd hwn sy’n troelli rownd a rownd yn ddi-stop yn y jar.

  2. Goleuwch y gannwyll.

    Gofynnwch i bawb eistedd a gwylio’r gannwyll hon yn dawel am funud.

  3. Ar ddiwedd y munud, holwch, 'Sut y gwnaeth y cyfnod tawel yna i chi deimlo?'

    Nodwch fod aros ac oedi yn beth da er ein lles. Mae distawrwydd yn dda i ni.

    Gofynnwch, 'Am beth roeddech chi’n meddwl yn ystod y munud hwnnw?'

    Awgrymwch fod heddwch a myfyrdod yn dda i ni.

  4. Mae diwedd mis Tachwedd yn ddechrau cyfnod yr Adfent. Ystyr 'Adfent' yw ‘dyfodiad’ - disgwyl am rywbeth sy’n dod, a dyma dymor y disgwyl am y Nadolig a’r paratoi ar gyfer y dathlu, pan fyddwn ni’n cofio am eni Iesu. Yn yr eglwys Gristnogol, ar bedwar Sul yr Adfent, sef y pedwar Sul sy’n arwain at ddydd Nadolig, caiff un gannwyll ei goleuo ar y Sul cyntaf, yna dwy ar yr ail Sul, tair wedyn y Sul canlynol, ac yna pedair ar y pedwerydd Sul. Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn ein hatgoffa ni bod Duw wedi anfon Iesu i’r byd i ddod â goleuni. Y gannwyll gyntaf i’w goleuo yw cannwyll gobaith.

  5. Ewch ati i ysgwyd y jar eto.

    Fel y dwr mwdlyd sy’n troelli yn y jar, mae ein byd a’n bywydau wedi dod yn bethau prysur iawn – ac fe fyddan nhw’n dod yn brysurach fyth eto wrth i ni baratoi ar gyfer yr holl weithgareddau a’r miri a’r rhialtwch sy’n digwydd o gwmpas y Nadolig. Mae’n anodd gweld yn glir pan fydd popeth yn digwydd yn un hwrli-bwrli o’n cwmpas, ac mae’n hawdd anghofio beth yw gwir ystyr y Nadolig. Felly, gadewch i ni gofio cymryd amser i fod yn dawel a llonydd yng nghanol y rhialtwch,a chofio bod Cristnogion yn credu mai amser i ddathlu addewid Duw i anfon ei fab Iesu i’r byd yw’r Adfent.

Amser i feddwl

Gadewch i ni eistedd am funud eto ac edrych ar y gannwyll tra byddwn ni’n gwrando ar garol Nadolig adnabyddus.

Chwaraewch, ‘I orwedd mewn preseb’ neu ‘Dawel nos’.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am anfon Iesu i’r byd i ddod â goleuni a heddwch i ni. Dysga ni sut i ddod o hyd i adegau yn ystod y tymor Nadolig hwn er mwyn gallu bod yn llonydd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

‘I orwedd mewn preseb’ neu ‘Dawel nos’.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon