Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cyfrif i lawr at y Nadolig

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ein hannog ni i ddefnyddio tymor yr Adfent er mwyn ystyried y gred Gristnogol fod y Nadolig yn dechrau gyda Christ. (Meddyliwch am y dywediad hwn yn Saesneg: ‘Christmas starts with Christ'.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Calendr Adfent gyda lluniau o stori Geni Iesu arno, i’w ddangos yn ystod y gwasanaeth.
  • Casglwch ynghyd rai delweddau o ‘gyfrif i lawr at y Nadolig’, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth, cam 4, lle mae rhai enghreifftiau posib yn cael eu disgrifio (dewisol).
  • Hefyd, pe byddech chi’n dymuno gwneud hynny, fe allech chi greu delwedd o’r dyfyniad hwn o Eseia 9.6 (Y Beibl Cymraeg Newydd):

    Canys bachgen a aned i ni,
    mab a roed i ni;
    a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
    Fe’i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol,
    Duw cadarn,
    Tad bythol, Tywysog heddychlon.”
  • Dewiswch recordiad o garol Nadolig, a threfnwch fodd o chwarae hon ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw'n dda am gyfrif, ac ewch ymlaen i ddweud eich bod am ddechrau'r gwasanaeth trwy wneud ychydig o waith cyfrif gyda nhw. Yna cyfrifwch i gyd fel a ganlyn (gan ddechrau'n araf a chyflymu a chynyddu'r swn wrth fynd ymlaen):

    - o 1 i 10
    - o 1 i 30
    - yn ôl o 10 i 0
    - yn ôl o 25 i 0.

  2. Gofynnwch a oes unrhyw un yn gwybod pam rydych chi wedi gofyn iddyn nhw gyfrif yn ôl o 25 i  0 ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Os oes angen, rhowch gliw iddyn nhw trwy ddal y calendr Adfent i fyny i’w ddangos.

  3. Dywedwch eich bod yn tybio y bydd llawer o'r plant yn cyfri'r dyddiau yn awr tuag at y Nadolig, a gofynnwch a oes gan unrhyw un o'r calendrau Adfent hyn. Efallai y byddwch yn awyddus i rai o'r plant ddweud wrthych beth oedd y tu ôl i'r drws ar eu calendr Adfent y bore hwnnw, neu fe allech chi adael i rywun agor y drws ar gyfer heddiw ar eich calendr chi.

    Gofynnwch a ydyn nhw erioed wedi meddwl pam y mae calendr fel hwn yn cael ei alw'n galendr ‘Adfent. Yna, eglurwch iddyn nhw bod Cristnogion yn galw'r cyfnod o bedair wythnos sy'n arwain at y Nadolig yn ‘Adfent’, ac mae'n adeg pan fyddan nhw'n paratoi at y Nadolig i ddathlu genedigaeth Iesu. Dywedwch fod yr Adfent yn dechrau/wedi dechrau ar ddydd Sul 29 Tachwedd, eleni.

  4. Ewch ymlaen i ddweud bod llawer o gyfrif i lawr yn digwydd yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn wrth i bobl baratoi ar gyfer y Nadolig - yn gwneud pethau fel hyn:

    Dangoswch y delweddau 'cyfrif i lawr at y Nadolig’, os byddwch yn dymuno eu defnyddio.
    Fe welwch chi ar bosteri, neu mewn cylchgronau, sylwadau ar gyfrif i lawr at y cinio Nadolig, er enghraifft, pa bryd y bydd yn amser ichi brynu eich twrci a pha bryd y bydd angen i chi wneud eich cacen Nadolig, a rhoi eising arni.

    Mae hysbysebion ar y teledu hefyd yn cyfri i lawr ac yn nodi’r nifer o ddyddiau sydd ar ôl i siopa er mwyn cael prynu anrhegion i bawb o'ch teulu a'ch ffrindiau.

    Mae Swyddfa'r Post yn ein rhybuddio, ac yn dweud wrthym pa rai yw’r dyddiau pellaf y gallwn ni bostio ein cardiau Nadolig a’n parseli - yn arbennig felly os oes gennych deulu neu ffrindiau sy'n byw mewn gwledydd tramor, a chithau’n awyddus i'ch anrhegion a'ch cardiau eu cyrraedd mewn pryd cyn y Nadolig.

    Bydd plant, mamau a thadau ac athrawon yn cyfrif i lawr y nifer o ddyddiau sydd ar ôl o'r tymor ysgol cyn i'r gwyliau Nadolig ddechrau!

  5. Nodwch hefyd sut y mae nifer helaeth o enghreifftiau o gyfrif i lawr mewn gwirionedd yn stori'r Nadolig sydd i’w chael yn y Beibl.

    Dros 2000 o flynyddoedd yn ôl, roedd merch ifanc o'r enw Mair yn cyfrif i lawr y nifer o ddyddiau oedd ganddi cyn y byddai ei baban yn cael ei eni. Mae'n siwr ei bod hi wedi teimlo ei fod yn amser hir i ddisgwyl, ond roedd hyn werth gwneud hynny, oherwydd mae Cristnogion yn credu mai mab Duw ei hun oedd Iesu, y baban a gafodd Mair.

    Lawer o flynyddoedd cyn hynny, fodd bynnag, roedd yr Iddewon wedi bod yn disgwyl a chyfrif i lawr at yr amser pryd y byddai ei baban arbennig yn cael ei eni, baban fyddai'n newid y byd. Gallwn ddarllen yr hanes am y disgwyl a fu am y baban hwn yn rhan yr Hen Destament o'r Beibl, yn Eseia 9.6, lle mae'n dweud y geiriau canlynol:

    Dangoswch y ddelwedd gyda’r dyfyniad o Eseia 9.6,os byddwch yn dymuno ei ddefnyddio

    Canys bachgen a aned i ni,
    mab a roed i ni;
    a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
    Fe’i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol,
    Duw cadarn,
    Tad bythol, Tywysog heddychlon.”

Amser i feddwl

Os yw'n addas, eglurwch fod Cristnogion yn credu mai Iesu oedd y baban yr oedd sôn amdano yn Eseia, dyma’r baban yr oedd cymaint o bobl wedi bod yn disgwyl amdano ac a fyddai, ar ôl iddo dyfu’n oedolyn, yn newid y byd. Am y rheswm hwn, yng nghanol yr holl bethau eraill prysur sy'n digwydd yn ystod y cyfnod o gyfrif i lawr at y Nadolig, bydd Cristnogion yn sicrhau eu bod yn treulio amser i gofio'r hyn y maen nhw o ddifrif yn ei ddathlu adeg y Nadolig – sef genedigaeth Iesu.

Anogwch y plant i ddefnyddio'r amser, bob diwrnod y byddan nhw'n agor drws ar eu calendr Adfent, i aros am ychydig eiliadau a meddwl am yr hyn y maen nhw yn ei ddathlu mewn gwirionedd y Nadolig hwn.

Gweddi
Arglwydd Iesu,
Rydyn ni’n diolch i ti am yr adeg o gyffro sydd pan fyddwn ni’n dechrau paratoi ar gyfer y Nadolig.
Wrth i ni agor ein Calendrau Adfent, helpa ni i gofio’r stori am dy enedigaeth di.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Gwrandewch ar y recordiad o garol, neu canwch garol Nadolig o’ch dewis.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon