Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Galwad Dafydd

Nid yw pethau bob amser fel maen nhw’n ymddangos

gan Manon Ceridwen James

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Dangos y gallwn ddysgu o stori Dafydd nad yw pethau ddim bob amser fel y maen nhw’n ymddangos.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â'r stori o'r Beibl yn y darn allan o 1 Samuel 16, sy’n adrodd yr hanes pan ddewisodd Samuel fab mwyaf annhebygol Jesse i fod yn frenin Israel yn y dyfodol. Roedd hyn yn dangos fod gan Dduw feini prawf gwahanol i'r rhai y gall pobl fod yn eu hystyried yn bwysig pan ddaw’n amser gwneud penderfyniadau.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant mai thema’r gwasanaeth heddiw yw 'Nid yw pethau bob amser fel maen nhw’n ymddangos'.

  2. Gofynnwch am rai gwirfoddolwyr i actio'r stori ar gyfer heddiw. Bydd angen dau fachgen hyn arnoch chi i chwarae rhannau Samuel and Jesse, yn ogystal â saith o blant yn ychwanegol i chwarae rhannau eraill y meibion hyn, ac un bachgen iau i actio Dafydd, y mab ieuengaf.

  3. Unwaith y bydd pawb yn ei le gennych, dechreuwch adrodd y stori, gan bwyntio at bob cymeriad fel maen nhw'n cael eu crybwyll, i'w hannog i actio'r hyn y byddwch yn ei ddisgrifio.

    Samuel a Dafydd

    Roedd dyn o'r enw Samuel (pwyntiwch at Samuel), a gafodd ei anfon gan Dduw i chwilio am frenin newydd ar wlad Israel.

    Dywedwch wrth Samuel am frasgamu o un ochr i'r llall gan smalio edrych o gwmpas am rywbeth.

    Cyrhaeddodd Samuel fferm Jesse (cyflwynwch Samuel i Jesse) ac roedd Jesse yn bryderus iawn (anogwch Jesse i wneud golwg bryderus ar ei wyneb). Beth tybed oedd Samuel ei eisiau yno? Roedd Samuel yn sylwi bod Jesse'n ymddangos yn ofnus, a dywedodd, 'Paid â phoeni, rydw i wedi dod i dy wahodd di a dy feibion i barti, ond yn gyntaf rydw i eisiau eu gweld nhw i gyd.'

    Felly, aeth Jesse i chwilio am ei fab cyntaf, Eliab, a dod ag ef at Samuel.

    Dywedwch wrth Jesse am gerdded gydag Eliab a sefyll o flaen Samuel.

    Yna ysgydwodd Samuel ei ben, fel pe bai’n dweud, ‘Na’. (Dywedwch wrth  Samuel am actio'r gweithredoedd y byddwch yn eu crybwyll o hyn ymlaen.)

    Yna daeth Jesse o hyd i'w ail fab, Abinadab, a gwnaeth iddo gerdded heibio o flaen Samuel. (Gwnewch yr un gweithredoedd â'r rhai ar gyfer y mab cyntaf.)  Ysgydwodd Samuel ei ben unwaith eto.

    Yna daeth Jesse o hyd i Shammah, ac fe ddigwyddodd yr un peth eto.

    Fe ddigwyddodd hyn gyda phob un o'r saith brawd. (Dywedwch wrth bob un o'r pum brawd arall am gerdded yn eu tro o flaen Samuel, a chael Samuel i ysgwyd ei ben bob tro.) Doedd yr un o'r bechgyn yn gwneud y tro. Roedd Samuel mewn penbleth fawr. Roedd Duw wedi ei dweud wrtho am fynd i'r lle hwn, ac eto nid oedd yr un o'r meibion yn ymddangos yn addas, er eu bod i gyd yn fechgyn mawr, a phob un yn gryf ac yn iach.

    Gofynnodd Samuel i Jesse a oedd ganddo feibion eraill. Dywedodd Jesse, 'Oes, dim ond un arall, Dafydd, ond mae Dafydd yn rhy fychan. Dydi Dafydd ddim yn gryf iawn. Mae o allan ar hyn o bryd yn gofalu am ein defaid.'

    Roedd Samuel yn awyddus i'w weld beth bynnag.

    Galwch ar y bachgen iau sy’n mynd i actio Dafydd i ddod ymlaen a gofynnwch i Jesse actio'r rhan lle mae'n ei gyflwyno i Samuel.  Dywedwch wrth Samuel am beidio ag ysgwyd ei ben y tro hwn, ond yn hytrach i godi ei fawd o blaid Dafydd a rhoi gwên lydan i ddangos ei lawenydd!

    Fe ddywedodd Duw wrth Samuel mai Dafydd oedd yr un. Er mai Dafydd oedd y lleiaf, roedd gan Dduw dasg arbennig iddo  i’w chyflawni - bod yn Frenin Israel. Daeth Dafydd ymlaen i fod yn frenin mawr a dewr, er ar y dechrau, doedd pethau ddim yn ymddangos fel pe byddai'n gallu bod yn frenin - yn arbennig felly o'i gymharu â'i frodyr hyn.

  4. Gorffennwch y stori trwy egluro mai dyna sut y mae Cristnogion yn credu bod Duw yn edrych arnom. Mae'n gweld ein potensial - nid yn unig y mae'n gweld beth ydym yn awr, ond hefyd yn gwybod beth allwn ni ei wneud yn y dyfodol. Gyda Duw, nid yw pethau'n ymddangos yn union fel ag y maen nhw.

Amser i feddwl

Myfyriwch gyda'r plant am yr adegau hynny pryd yr ydym wedi newid ein meddwl, neu wedi cael syndod mawr am rywbeth. Efallai fod hynny pan oedden nhw'n gorfod darllen llyfr, a ddim yn hoff iawn o'i olwg ar y dechrau, ond yna maen nhw'n ei ddarllen ac yn ei hoffi'n fawr. Dyna paham y dywed y Saeson am beidio â barnu llyfr wrth ei glawr - 'don’t judge a book by its cover'.

Mae Duw yn gwneud hyn, mae'n edrych ar y person cyfan - nid ar y tu allan yn unig, ond ar y tu mewn hefyd.

Gofynnwch i'r plant feddwl am amser pryd y gwnaeth rhywbeth eu synnu. Efallai eu bod wedi gwneud ffrindiau gyda rhywun doedden nhw ddim yn eu hoffi ar y dechrau, neu wedi mynd ar wyliau i rywle doedden nhw ddim yn meddwl y bydden nhw’n ei hoffi, ond yn y diwedd wedi mwynhau yno’n fawr iawn.

Dydy pethau ddim bob amser yr hyn y maen nhw'n ymddangos!

Gweddi
Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am beri syndod i ni, ac yn diolch dy fod ti nid yn unig yn ystyried y ffordd rydyn ni’n edrych, ond yn ystyried hefyd yr hyn sy’n ein calonnau. Helpa ni i weld pobl, nid fel maen nhw’n edrych ar hyn o bryd, ond fel y gallan nhw fod.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon