Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cofio

gan the Revd Richard Lamey

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dangos bod cymunedau cyfan yn cael eu heffeithio gan ryfel.

Paratoad a Deunyddiau

  • Rhowch amser i chi eich hunan gasglu gwybodaeth am y rhai hynny sy'n cael eu cofio’n lleol am eu rhan yn y ddau Ryfel Byd ac mewn rhyfeloedd eraill. Hefyd, ar gyfer Cam 4 y gwasanaeth ymchwiliwch i hanes rhywun sydd â’i enw'n ymddangos ar gofeb leol sy’n coffau rhai fu farw mewn gwahanol ryfeloedd – ble roedd ef neu hi yn byw, unrhyw straeon, hobïau ac ati. Gorau po fwyaf personol a lleol y gall hyn fod. Yn yr un modd, fe allwch chi addasu Cam 3 fel byddwch angen, gan ddefnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi ei chasglu am eich ardal leol.
  • Casglwch ddelweddau o’r pethau canlynol a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:

    - cofeb ryfel nodedig, fel Theipval, y Somme, yn Ffrainc, sy’n rhoi syniad i ni am y niferoedd enfawr o bobl a laddwyd yn ystod y ddau Ryfel Byd
    - cofeb ryfel yn eich ardal y bydd y plant yn ei hadnabod wrth weld ei llun
    - ffotograff o rywun sy’n cael ei enwi ar y gofeb honno
    - pabi coch.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gerddoriaeth 'Jupiter' allan o The Planets gan Gustav Holst, a’r modd o chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae mis Tachwedd yn fis y cofio. Mae’n cynnwys Gwyl yr Holl Saint a'r Holl Eneidiau, pryd y byddwn yn cofio mynegi ein diolch am y bobl sydd wedi dangos i ni sut i fyw er mwyn Duw a'n haddysgu sut i garu.

    Mae Sul y Cofio hefyd yn rhan o'r cofio hwn a wnawn. Mae'n ddiwrnod i gofio'r rhai hynny a gafodd eu lladd neu eu hanafu (mewn corff a meddwl) trwy wasanaethu ein gwlad.

    Dangoswch y ddelwedd o’r gofeb ryfel nodedig.
  2. Rydym wedi bod yn cofio am lawer o ryfeloedd a llawer o bobl yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd yr 888,246 pabi coch ceramig wrth ymyl Twr Llundain yn y flwyddyn 2014 yn cynrychioli'r 888,246 o ddynion a merched o Brydain a'r Gymanwlad gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hi bron yn amhosib i ni feddwl am nifer mor fawr o bobl. Fe ddylen ni ganolbwyntio ar rai manylion er mwyn ein helpu i ddeall y cyfan.

  3. Yn yr eglwys leol, mae cofeb sy'n cynnwys rhestr o enwau x (nifer neilltuol) o bobl a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedden nhw'n byw yn y tai o’n cwmpas, ac yn mynychu ein hysgolion - yn cynnwys yr ysgol hon- pan oedden nhw’n blant, yn cerdded ein strydoedd ac yn hoffi'r un golygfeydd a’r gweithgareddau hamdden â ni. Fe wnaethon nhw hyd yn oed eistedd ar y llawr hwn, o bosib. Fe wnaethon nhw wneud cynlluniau am yr hyn roedden nhw'n bwriadu ei wneud dros y penwythnos, chwarae gemau, reidio'u beiciau, yn union fel ni. Pan oedden nhw'r un oed â chi, roedd ganddyn nhw'r un breuddwydion ag a gawn ni, o dyfu i fyny a chael swydd dda a chodi teulu. Roedden nhw'n cael eu caru fel rydyn ni'n cael ein caru. Nid dim ond enwau yw'r rhain rydyn ni’n cofio amdanyn nhw, pobl oedden nhw, bywydau ac unigolion oedden nhw, a oedd yn golygu llawer i'r rhai oedd yn eu hadnabod.

    Dangoswch y ddelwedd o’r gofeb ryfel yn eich ardal.
  4. Gadewch i ni gyfyngu tipyn mwy ar ein canolbwyntio.  Gadewch i ni ganolbwyntio ar enw . . .

    Dangoswch ddelwedd o rywun sydd â'i enw ar y gofeb ryfel leol.

    Gofynnwch i un o'r plant sefyll ar ei draed, yng nghanol y plant eraill, i gynrychioli'r person dan sylw.

    Siaradwch am yr hyn rydych chi wedi ei ddarganfod am wasanaeth a marwolaeth y person gafodd ei enwi gennych, a'r lle y mae ef neu hi wedi ei gladdu, neu wedi ei chladdu.

    Gofynnwch i rai o'r plant, sy'n sefyll o gwmpas y plentyn sy'n cynrychioli'r person yr ydych wedi ei ddewis, sefyll ar eu traed i gynrychioli ei deulu ef neu hi, gan roi cymaint â phosib o wybodaeth am enwau ei chwiorydd, brodyr ac ati.

    Yna crëwch gylch arall o blant i actio'r bobl yr oedden nhw'n eu hadnabod o'r ysgol, eu gwaith, y tîm pêl-droed, cymdogion, ffrindiau yn y Fyddin ac ati. Cyn hir, bydd pawb yn yr ystafell yn sefyll ar eu traed, yn symbol o sut y mae un farwolaeth yn cael effaith ar nifer fawr o bobl, pob un â pherthynas wahanol i'r person sydd wedi marw.

    Ar ôl ychydig eiliadau, gofynnwch i bawb eistedd.

  5. Trwy gofio am un enw, rydym yn cofio hefyd y teuluoedd a'r cymunedau yr oedden nhw'n rhan ohonyn nhw, a'r pris a dalwyd ganddyn nhw. Yn awr, meddyliwch am y cyfan o'r enwau eraill ar y gofeb ryfel leol. Yna meddyliwch am yr holl enwau sydd ar gofebion draw yn Ffrainc. Yn awr meddyliwch am wledydd eraill, y rhyfeloedd eraill a'r rhyfeloedd sy'n digwydd heddiw. Maer cyfan yn ddi-ben-draw.

    Dangoswch y ddelwedd o’r pabi coch.

Amser i feddwl

Nid yw cofio yn ymwneud yn unig â chofio enw neu berson.

Mae pob enw yn fywyd, yn berson, yn unigolyn fel chi, ac mae'n ymwneud â sylweddoli bod cost rhyfel yn drom i'r gymuned gyfan.

Yn union fel roedd y gymuned yn ystod y cyfnod hwnnw wedi cael ei heffeithio gan yr hyn a ddigwyddodd, felly hefyd yr ydym ni'n cofio fel cymuned sy'n byw heddiw, ein bod wedi cael ein heffeithio gyda'r hyn a ddigwyddodd. Rydyn ni’n ddiolchgar i'r rhai a wasanaethodd, ac yn cofio am y rhai hynny a gollodd bobl yr oedden nhw yn eu hadnabod a'u caru.

Darllenwch y rhan hon o’r adnod o’r Datguddiad 21.4 (Y Beibl Cymraeg Newydd):

'Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy.'

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Gweddïwn dros bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfeloedd amser maith yn ôl, ac sy’n cael eu heffeithio gan ryfeloedd heddiw hefyd.

Rydyn ni’n cofio’r rhai a fu farw.

Gweddïwn dros y rhai oedd wedi cael eu hanafu, a gweddïwn hefyd dros y bobl welodd y rhai roedden nhw’n eu caru yn mynd i ffwrdd i ryfel, ac na ddaethon nhw byth yn ôl.

Helpa ni i gofio am y pethau hyn a helpa ni i weithio dros heddwch - yn y cartref, yn yr ysgol ac ym mhob man, bob amser.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

'Jupiter' o The Planets gan Gustav Holst

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon