Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y noson cyn y Nadolig

Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gymryd o’r gyfrol 'The Flying Pizza and Other Assemblies' gan Alan Barker

gan Alan Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Egluro arwyddocâd Noswyl Nadolig gan gyfeirio at y garol  ‘Dawel Nos’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod geiriau’r garol ‘Dawel Nos’ gennych chi i’w harddangos.
  • Dewisol: geiriau’r garol ‘Dawel Nos’ mewn nifer o wahanol ieithoedd i’w harddangos.

Gwasanaeth

1. Cyflwynwch y thema trwy egluro bod Noswyl y Nadolig (y noson cyn dydd Nadolig) yn un o'r nosweithiau mwyaf sanctaidd a mwyaf arbennig yn y flwyddyn i Gristnogion. Dyma'r adeg pryd y bydd pawb yn paratoi i ddathlu pen-blwydd Iesu. Fe wneir y cyffyrddiadau terfynol i'r addurniadau, bydd bwydydd tymhorol yn cael ei brynu a'i ddarparu, a bydd ymwelwyr yn derbyn croeso. Bydd eglwysi yn cynnal gwasanaethau gyda'r hwyr fel y gall pawb, erbyn iddi gyrraedd hanner nos, ddymuno Nadolig llawen i'w gilydd. (Holwch ynghylch pa bryd ac ymhle y bydd gwasanaethau o'r fath yn cael eu cynnal yn eich cymuned chi.) Soniwch fod y Nadolig yn gyfnod prysur iawn i offeiriadon a gweinidogion Cristnogol, heb anghofio corau ac organyddion, a fydd yn aml yn paratoi ac yn ymarfer cerddoriaeth neilltuol ar gyfer y dathliadau.

2. Bron iawn i 200 mlynedd yn ôl, yn y flwyddyn 1818, roedd offeiriad ifanc o Awstria, o'r enw Y Tad Joseff Mohr, yn paratoi i ddathlu'r Nadolig gyda chynulleidfa ei eglwys. Fe wyddai y byddai'r eglwys yn llawn i'r ymylon â phobl, ac y byddai pawb yn edrych ymlaen at yr amser arbennig y bydden nhw yn ei dreulio yng nghwmni ei gilydd. Ond roedd y Tad Joseff yn drist: roedd organ yr eglwys wedi torri, ac roedd yn amhosib iddi gael ei hatgyweirio mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Roedd yn ymddangos bod llygod wedi bwyta peth o rannau lledr y fegin y tu mewn i’r organ. Gwyddai'r Tad Joseff y byddai pawb yn siomedig am na fydden nhw'n clywed swn yr organ.

Beth alla'i ei wneud? Roedd hi'n Noswyl y Nadolig a byddai'r awyrgylch yn yr eglwys mor llonydd a thawel heb gerddoriaeth.  ‘Llonydd a thawel’ ... roedd y geiriau'n troi a throsi ym meddwl y Tad Joseff. Cofiodd am gerdd Nadoligaidd yr oedd wedi ei hysgrifennu rhai blynyddoedd ynghynt.

3. Fe wyddai'r Tad Joseff nad oedd amser i'w golli.  Gan afael mewn copi o eiriau'r gerdd o'i stydi, gwisgodd ei got hir, drom amdano, ei het am ei ben a menig am ei ddwylo, a brasgamodd allan i awyr agored cras oerllyd y bore. Cyn bo hir, roedd wedi cyrraedd ty ei ffrind, y cerddor Franz Gruber, a chafodd groeso gan Franz i'w gartref. Estynnodd Y Tad Joseff y copi o'r gerdd o'i boced a'i roi i'w ffrind. 'Fyddet ti’n gallu fy helpu i?' gofynnodd. 'Mae'r organ yn yr eglwys wedi torri. Fyddet ti’n gallu canu dy gitâr? Mwy na hynny, tybed fyddet ti’n gallu cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y geiriau hyn fel y gallwn ni eu canu gyda'n gilydd?'

Gwenodd Franz Gruber. Fe ddarllenodd y gerdd ar ei hyd, cododd ei gitâr a dechreuodd hymian tôn. Fe ballodd y nodau. Stopiodd Franz Gruber, ysgydwodd ei ben, a rhoddodd gynnig arall arni. Gwrandawodd y Tad Joseff ar eiriau ei gerdd yn cael eu plethu o dipyn i beth gyda nodau'r gitâr a'u troi'n gân syml ond hyfryd iawn.

Yn fuan roedd ei ffrind ac yntau’n canu gyda’i gilydd:

Stille Nacht! Heilige Nacht!(Dawel Nos! Ddwyfol Nos!)

4. Ar ôl iddi nosi, daeth y Tad Joseff a Franz Gruber at ei gilydd unwaith eto wrth i bawb ddod ynghyd ar gyfer offeren gyntaf y Nadolig. Eisteddai teuluoedd wedi eu gwasgu ynghyd ar feinciau'r eglwys fach. Ni adawyd neb ar ôl. Yng nghwmni ei gilydd, fe wrandawodd bawb ar y stori sut y bu i Mair a Joseff deithio i Fethlehem, a sut y bu i faban Mair gael ei eni mewn stabl am nad oedd lle yn y llety. Wrth iddyn nhw glywed am y bugeiliaid a neges yr angylion, aeth yr awyrgylch yn yr eglwys fach yn llonydd a thawel.

Yna, yng ngoleuni crynedig canhwyllau, cafodd y gân Nadoligaidd ei chlywed am y tro cyntaf.

I gyfeiliant tawel y gitâr, lleisiau meddal, dwfn y Tad Joseph a Franz Gruber, ynghyd â lleisiau aelodau'r côr, dyma ganu'r alaw dyner, oedd fel hwiangerdd, ond ag adleisiau hardd o gân angylaidd.

Ciliodd y nodau olaf heibio, a phrofodd y rhai oedd yn gwrando ymdeimlad dwys o dangnefedd a rhyfeddod. Roedd y gerddoriaeth wedi helpu i ddod â gwirionedd stori'r Nadolig yn fyw.Roedd hon yn noson wirioneddol arbennig o sanctaidd, ac un y byddai pawb yn ei chofio am amser hir.

5. Ar ôl y Nadolig, cafodd yr organ ei hatgyweirio.Roedd y bobl yn falch. Ond roedden nhw hefyd yn falch ar y noson cyn y Nadolig, pan oedd yr organ wedi torri, mai nhw oedd y rhai cyntaf i glywed y gân, 'Dawel Nos'.

6. Eglurwch fod cymaint o bobl wedi hoffi'r gân, fel yn y diwedd ei bod wedi cael ei chyhoeddi (argraffu) a'i chyfieithu i ieithoedd eraill, fel ar Noswyl y Nadolig y gall pobl a chorau mewn eglwysi ym mhob cwr o'r byd fwynhau canu'r geiriau.

7. Dewisol: Yn y flwyddyn 1914, bron i gan mlynedd ar ôl iddi gael ei hysgrifennu, canodd milwyr, a oedd yn ymladd yn erbyn ei gilydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, y gân gyda'i gilydd yn Ffrangeg, Almaeneg a Saesneg. Ar Noswyl y Nadolig arweiniodd  hyn at egwyl fer o heddwch yng nghanol y brwydro. Rhoddodd gelynion y gorau i ymladd, fe wnaethon nhw gyfarch ei gilydd, a hyd yn oed cael gêm o bêl-droed â'i gilydd yn yr hyn a ddaeth yn adnabyddus fel 'Cadoediad y Nadolig'.

Amser i feddwl

Myfyriwch ar y ffaith fod 'Dawel Nos' yn gân sy'n mynegi pwysigrwydd tawelwch a llonyddwch. Ar ôl y paratoadau prysur ar gyfer y Nadolig, mae Cristnogion yn credu ei bod hi'n bwysig ar Noswyl y Nadolig i wrando'n ddistaw ar stori genedigaeth Iesu, yn union fel y clywodd y bugeiliaid neges Dduw yn llonyddwch y bryniau.

Treuliwch ychydig funudau mewn tawelwch ac yna canwch ‘Dawel Nos’. Byddai cyfeiliant syml gitâr iddi yn ddelfrydol!

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ryfeddod y Nadolig. Yng nghanol yr holl firi, helpa ni i gymryd amser i aros a chofio am wir ystyr y Nadolig.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dawel Nos

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon