Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Josie, Jake a'r Cadwyni Papur

Meddwl am y teulu ar adeg y Nadolig

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried y syniad o deulu ar adeg y Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cadwyn bapur liwgar wedi ei gwneud â naw dolen wedi eu henwi i gyd-fynd â cham 3 y gwasanaeth

Gwasanaeth

1. Casglwch y plant ynghyd i wrando ar y stori.

2. Adroddwch y stori.

Josie, Jake a’r cadwyni papur
Roedd Josie a Jake yn ffrindiau mawr. Roedden nhw wedi bod yn mynd i’r Cylch Meithrin gyda’i gilydd pan oedden nhw’n ddwy oed. Yna, roedden nhw wedi bod yn mynd gyda’i gilydd i’r Dosbarth Meithrin yn yr ysgol. Roedden nhw wedi bod yn y Dosbarth Derbyn wedyn, ac yn awr roedden nhw’n blant mawr yn yr ysgol gynradd, ac yn dal i fod yn ffrindiau da.

Roedd plant dosbarth Mrs Donaldson wedi bod yn gweithio ar y thema ‘teuluoedd’. Roedden nhw i gyd wedi dysgu am wahanol deuluoedd plant eraill eu dosbarth. Roedd gan rai plant frodyr a chwiorydd, ac roedd rhai eraill heb frawd na chwaer. Roedd rhai yn byw gyda’u mam, ac eraill yn byw gyda’u tad, a rhai’n byw gyda’u tad a’u mam. Roedd rhai plant yn byw gyda’u taid a’u nain, tra roedd rhai plant eraill â rhywun arall yn gofalu amdanyn nhw. Ond roedd yr holl wahanol fathau o deuluoedd gydag aelodau yn gofalu am ei gilydd ac yn caru ei gilydd.

Nawr, blant,’ meddai Mrs Donaldson. ‘Mae’r Nadolig yn nesáu. Mae’r Nadolig yn ymwneud ag un teulu arbennig arall.’
‘Mae’r Nadolig yn sôn am Mair a Joseff a’r baban Iesu,’ meddai Josie.
‘Rwyt ti’n hollol gywir, Josie,’ meddai Mrs Donaldson gan wenu.
‘Roedd mam a thad gan Iesu. Roedd Duw wedi gofyn iddyn nhw ofalu am Iesu.’
‘Ac fe gafodd ei eni mewn stabl dlawd,’ cynigiodd Jake.
‘Do, yn wir, Jake: doedd dim lle yn unman arall iddo gael ei eni. A’r noson honno, fe ddaeth pobl eraill hefyd i’w weld. Bugeiliaid a doethion.’
‘A defaid a chamelod hefyd,’ ychwanegodd Josie.
‘A pheidiwch ag anghofio’r am yr asyn a’r gwartheg a’r llygoden fach,’ meddai Jake.
‘Doedd dim llygoden yn y stori!’ gwichiodd Josie, gan wneud i Mrs Donaldson chwerthin.
‘O, mae’n debyg y byddai yno lygod bach yn y stabl,’ eglurodd Mrs Donaldson. ‘Roedd llawer o ymwelwyr, beth bynnag, yn mynd i weld Iesu yn y cartref cyntaf hwnnw.’
‘Adeg y Nadolig eleni, efallai y bydd pobl eraill yn dod i ymweld â ni yn ein cartrefi ni hefyd,’ meddai Mrs Donaldson wedyn. 'Mae’r Nadolig yn adeg arbennig pan fydd pobl eisiau dod at ei gilydd i ddathlu.’
‘Mae Nain yn dod i’n ty ni bob dydd Nadolig i gael cinio efo ni,’ meddai Aaron, ffrind Jake.
‘Ac mae fy Nain i yn dod i’n ty ni hefyd, a Taid,’ ychwanegodd Sophie.
‘Wel, fe hoffwn i yn awr ddangos i chi pwy sy’n mynd i fod yn treulio’r Nadolig yn ein ty ni,’ meddai Mrs Donaldson.

3. Dangoswch y gadwyn bapur orffenedig a chan bwyntio at bob un o’r dolenni yn eu tro, enwch bob person, fel a ganlyn.

‘Mae’r ddolen hon am fy ngwr, ac mae’r tair nesaf am bob un o’r tri o blant sydd gen i. Yna mae hon am mam-gu, neu nain, a’r un nesaf am tad-cu neu taid, un am Anti Bessie, ac un am Mrs Stewart, sy’n byw ty nesa i ni, ac wrth gwrs, fi fy hun hefyd - a dyna ni i gyd! Mae’r Nadolig yn ymwneud â mwynhau bod yn deulu. Faint o ddolenni papur fyddai mewn cadwyn bapur ar gyfer eich teulu chi, Josie?’
‘Fe fyddwn i angen pedair,’ meddai Josie.
‘Fe fyddwn i angen saith ar gyfer fy un i,’ meddai Sophie.
‘Fe fyddwn i angen tair,’ ychwanegodd Zeke.’
‘Mae cadwyni papur yn fy atgoffa i o deulu,’ aeth Mrs Donaldson ymlaen i ddweud. ‘Pobl sy’n cael eu huno â’i gilydd oherwydd eu cariad tuag at y naill a’r llall.’
Edrychodd Mrs Donaldson ychydig yn drist am foment. ‘Ydych chi’n meddwl y gallai rhai pobl fod yn unig ac ar ben eu hunain y Nadolig hwn?’ gofynnodd.
‘Na,’ meddai Jake. ‘Na, dwi ddim yn meddwl.'
‘Wel, yn drist iawn, mae’n ffaith bod rhai pobl yn mynd i fod yn unig ac ar ben eu hunain y Nadolig hwn,’ atebodd Mrs Donaldson. ‘Ambell dro, mae rhai pobl oedrannus yn byw ar ben eu hunain, ac maen nhw’n methu teithio i fod gyda’u teuluoedd ar adeg y Nadolig. Ambell dro, mae rhai pobl wedi dod o wledydd eraill a heb deulu yn y wlad hon, ac ambell dro mae rhai pobl sydd heb un man hyd yn oed y gallan nhw ei alw’n gartref.'
‘O mae hynny’n peth trist iawn,’ meddai Josie.
‘Ydi’n wir, Josie,’ cytunodd Mrs Donaldson. 'Dyna pam mae angen i ni feddwl am gael achlysur i ddod â theulu mwy ynghyd, mewn man lle bydd pawb yn gallu dod iddo. Mewn sawl tref neu bentref, fe gewch chi deulu sy’n cael ei alw’n deulu’r eglwys. Mae teulu’r eglwys yn cynnwys pob math o bobl - pobl oedrannus, pobl ifanc, plant, a phobl o wahanol wledydd. Mae llawer o deuluoedd eglwysig yn cynnal digwyddiadau ar adeg y Nadolig fel nad oes neb yn cael ei adael allan. Mae pawb yn cael croeso i ddod i ymuno yn y dathlu, a mwynhau’r bwyd a’r hwyl a’r cyfeillgarwch.'
‘Dyna syniad da,’ meddai Jake. ‘Yna, fe fydd pawb yn gallu cael Nadolig llawen.’
‘Gawn ni wneud cadwyn bapur ar gyfer teulu’r stabl?’ gofynnodd Josie.
‘Dyna syniad ardderchog,’ meddai Mrs Donaldson gan wenu.
‘A pheidiwch ag anghofio am y llygoden fach,’ meddai Jake gan chwerthin.

Amser i feddwl

Ydyn ni’n adnabod pobl a allai fod ar ben eu hunain ar adeg y Nadolig? Sut bydden ni’n gallu helpu?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein teuluoedd ac am yr adegau da rydyn ni’n eu cael gyda’n gilydd.
Helpa’r bobl hynny sydd ar ben eu hunain y Nadolig hwn i ddod o hyd i bobl eraill a fyddai’n gallu rhannu’r diwrnod hapus hwn gyda nhw.
Diolch i ti am eglwysi a chymunedau sy’n ymwybodol o’r bobl sy’n unig ac sy’n gallu darparu ffordd iddyn nhw ddathlu gyda phobl eraill.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Unrhyw garol Nadolig.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon