Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cristingl

Llawer mwy na dim ond oren

gan The Children’s Society

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Thema Perthnasoedd. Mae’r thema’n ceisio datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn tair agwedd gymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu: hunanymwybyddiaeth, rheoli teimladau ac empathi.

Thema Ysbrydolrwydd. Archwilio credoau a phrofiad; parchu credoau, teimladau a gwerthoedd; mwynhau dysgu amdanoch eich hun, am bobl eraill a'r byd o'n cwmpas; defnyddio dychymyg a chreadigrwydd; myfyrio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen:
    • 1 x Cristingl (Cristingle) sydd wedi ei pharatoi o flaen llaw
    • 1 x oren gyda chroes wedi ei thorri o flaen llaw ar y top
    • 4 x pren coctel gyda 4 o felysion ar bob un
    • Rhuban  neu dâp coch
    • 1 x gannwyll gwyr fechan
    • Sgwâr o bapur ffoil 2cm x 2cm
    • 4–8 o ganhwyllau bach (tea lights) neu 3 x cannwyll a chanwyllbrenni
    • Bocs o fatsis
  • Gallwch ddefnyddio’r cyflwyniad PowerPoint Christingle Assembly (2015) http://www.assemblies.org.uk/docstore/10.pptx
  • Fe allech chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn fel cyfle i wahodd eich ficer neu weinidog  lleol i’w arwain.
  • Fe fydd arnoch chi angen addasu rhan 2 o flaen llaw.
  • Efallai yr hoffech chi bylu’r golau yn yr ystafell lle rydych chi’n cynnal y gwasanaeth, fel bod golau’r canhwyllau i’w weld yn gliriach.

Gwasanaeth

1.Sleid 1:Cyflwyniad

Sleid 2:Fe alwch chi ddilyn y sleidiau yn eich gwasanaeth neu eu haddasu wrth i chi fynd ymlaen. Gyda sleid 2, fe allech chi ddangos yr oren a dweud ei fod yn llawn o un fitamin arbennig sy’n dda iawn ar ein lles. Pwy sy’n gallu dweud wrthych chi pa fitamin yw hwnnw (C)

Gwahoddwch pwy bynnag sydd wedi ateb yn gywir i ddod ymlaen i'r ffrynt. Rhowch yr oren iddo/iddi i'w dal.

2.Sleid 3:Sawl diwrnod sydd tan y Nadolig?

Cyn y bydd eich gwasanaeth yn cael ei gynnal, bydd yn ofynnol i chi ddarganfod sawl diwrnod sydd tan y Nadolig yna addaswch y wybodaeth ar sleid 3 y cyflwyniad at eich pwrpas eich hun. Fe allwch chi ddefnyddio http://days.to/christmas/2015i ddod o hyd i faint o ddyddiau sydd tan y Nadolig. Os yw eich gwasanaeth yn cael ei gynnal ar ôl y Nadolig, bydd yn ofynnol i chi yn hytrach ddarganfod faint o ddyddiau sydd wedi mynd heibio ers y Nadolig.

Gofynnwch i'r disgyblion beth sy'n digwydd ymhen x o ddyddiau. Gwahoddwch y sawl sy'n dyfalu'n gywir i ddod ymlaen i'r ffrynt a dal rhywfaint o dâp neu ruban coch.

3.Sleid 4:Pwy sy’n edrych ymlaen at y Nadolig?

Nesaf, gofynnwch i'r disgyblion pwy ohonyn nhw sy'n edrych ymlaen at y Nadolig, a phaham? (Os yw eich gwasanaeth yn digwydd ar ôl y Nadolig, gofynnwch pwy oedd wedi mwynhau'r Nadolig.) Gwahoddwch un o'r disgyblion i ddod ymlaen i'r ffrynt a dal y pedwar pren coctel, heb fwyta'r melysion sydd arnyn nhw!

4. Pam mae Cristnogion yn dathlu’r Nadolig?’

Gofynnwch i'r disgyblion pam mae Cristnogion yn dathlu'r Nadolig. Gwahoddwch yr un cyntaf sy'n rhoi ateb i chi, sy'n crybwyll dathlu genedigaeth Iesu, ymlaen i'r ffrynt i ddal y gannwyll.

Gofynnwch i'r pedwar gwirfoddolwr sy'n sefyll yn y ffrynt gydweithio ac adeiladu un eitem gyda'r gwrthrychau y mae pob un wedi eu cael, a rhoi enw i'r eitem unwaith y mae wedi cael ei adeiladu.

Unwaith y maen nhw wedi gorffen y dasg o adeiladu, gofynnwch iddyn nhw egluro beth yw'r gwrthrych sydd ganddyn nhw a pha enw y maen nhw wedi rhoi iddo. Diolchwch iddyn nhw a gofynnwch iddyn nhw fynd yn ôl i’w lle i eistedd.

Yn awr dangoswch y Cristingl sydd wedi ei baratoi ymlaen llaw gennych. Cymharwch y ddau wrthrych ac eglurwch mai'r enw ar eich gwrthrych chi yw Cristingl.

5.Sleidiau 5-12:Beth ywCristingl?

Ar gyfer yr adran/rhan hon, bydd yn ofynnol i chi glicio ar sleid bob tro y byddwch yn yngan y gair ‘cyn’. Gallwch ddefnyddio'r testun islaw air am air, neu egluro hanes Cristingl yn eich geiriau eich hun. Pan fyddwch yn rhestru'r gwahanol bethau sy'n gysylltiedig â'r Nadolig, efallai y gallwch gynnwys rhai o'r pethau wnaeth y disgyblion eu crybwyll yn eu hatebion i'r cwestiwn am y math o bethau y maen nhw'n edrych ymlaen atyn nhw dros y Nadolig.

Fe ddechreuwyd y syniad o gynnal Cristingl yn yr Almaen yn y flwyddyn 1747, o bosib pan oedd eich cyn, cyn, cyn, cyn, cyn, cyn, cyn, cyndeidiau a neiniau o gwmpas. Sylwodd esgob o'r enw John fod pobl yn anghofio'r rheswm pam bod teuluoedd Cristnogol yn dod ynghyd i ddathlu'r Nadolig. Mae'r anrhegion, y siocled, y gwyliau, Siôn Corn ac ati (rhestrwch unrhyw beth arall gafodd ei grybwyll mewn ateb i'r pedwerydd cwestiwn) yn arbennig. Ond nid y pethau hyn yw'r gwir reswm pam rydyn ni’n dathlu'r Nadolig.

6.Sleid 13:Gwir ystyr y Nadolig

Eglurwch i’r disgyblion mai gwir ystyr y Nadolig yw dathlu pen-blwydd Iesu - i ddathlu bod Iesu, Mab Duw, wedi cael ei eni ym Methlehem dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Anfonodd Duw ei fab, Iesu, i ddangos i ni gymaint y mae’n ein caru ni, waeth pa sefyllfa y cawn ni ein hunain ynddi, neu waeth sut rydyn ni’n teimlo. Er mwyn dangos hyn, fe ddefnyddiodd Esgob John:

Oren i gynrychioli'r byd [adeiladwch eich Cristingl wrth i chi egluro].

Yna fe gymerodd dâp neu ruban coch a'i lapio o amgylch yr oren i ddangos bod Duw yn caru'r byd cyfan. Nid oes ddim na neb yn cael eu hanwybyddu.

Mae'r pedwar pren yn cynrychioli'r pedwar tymor – y gwanwyn, yr haf, yr hydref a'r gaeaf, a'r melysion yn cynrychioli creadigaeth Dduw, sydd yn cynnwys chi a fi!

Yn olaf, mae'r gannwyll [cymerwch saib i'w goleuo] yn ein hatgoffa fod Iesu wedi dweud mai ef yw ‘goleuni'r byd’. Hyd yn oed yn y mannau tywyllaf, pan fyddwn ni’n gofidio am rywbeth, mae Duw am i ni wybod ei fod ef yn ein caru, a'i fod ar gael i ni.

Dechreuwch oleuo eich canhwyllau bach (tea lights) wrth i chi ddweud gair am yr adran nesaf hon.

Sleid 14: Eglurwch fod Iesu wedi datgan bod Cristnogion hefyd yn ‘oleuni'r byd’ (Mathew 5.14-16) ac y dylen nhw garu'r byd fel y mae Duw yn ei wneud. Mae Cristnogion yn cael eu galw i fod yn oleuni disglair ar gyfer y mannau tywyll hynny a charu pawb, yn enwedig os ydyn nhw'n mynd trwy gyfnod anodd.

Fe ledaenodd y neges hon o gariad fel tân gwyllt. O faban bach gafodd ei eni ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, mae tua dau biliwn o Gristnogion yn y byd. Mae hynny'n gyfystyr ag un o bob tri o bobl y byd!

7. Dangos cariad tuag at bobl.

Eglurwch mai trwy rannu cariad Duw y mae Cristnogion wedi sefydlu cyfundrefnau fel Cymdeithas y Plant. Mae Cymdeithas y Plant yn gweithio'n ddiflino i sicrhau fod pob plentyn yn ein gwlad yn gallu cael cyfle cyfartal mewn bywyd, waeth beth yw eu cefndir neu faint o arian y gall eu teulu ei ennill.

Bydd pob un ohonom yn yr ystafell hon yn cael profiad o gyfnodau tywyll, amseroedd pan fydd bywyd yn anodd. A dyna paham, trwy gyfrwng y Cristingl mae Cymdeithas y Plant yn codi dros £1miliwn i helpu cefnogi plant ledled y wlad sy'n wynebu amser anodd.

Amser i feddwl

Eglurwch, waeth beth a gredwn, gallwn oll fod yn oleuadau disglair a dangos cariad at bwy bynnag rydyn ni’n eu cyfarfod, yn enwedig ein ffrindiau a'n teulu. Rhowch ychydig o eiliadau i'r grwp i feddwl am rywun y maen nhw'n ei adnabod sy'n mynd trwy gyfnod anodd ar hyn o bryd, a meddwl am ffordd y gallan nhw ddangos cariad tuag atyn nhw. Neu, os ydych chi eich hun yn mynd trwy gyfnod anodd, treuliwch 30 eiliad yn dwyn i gof bod Duw yn eich caru, waeth beth â ddigwydd, a meddyliwch am ffrind neu aelod o'r teulu y gallwch siarad ag ef neu hi a fyddai'n eich helpu chi i ddelio â'r sefyllfa.

Sleid 15:

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch dy fod ti’n caru’r byd.
Diolch dy fod ti’n fy ngharu i.
Diolch i ti am y rhai sy’n fy ngharu i.
Helpa fi i ddangos dy gariad di i bawb rydw i’n cwrdd â nhw.
Fel y byddaf i’n gallu disgleirio fel Iesu, i’r rhai sydd mewn angen.
Amen.

Cerddoriaeth

Efallai yr hoffech chi ddiweddu’r gwasanaeth drwy ganu cân sy’n berthnasol i’r Cristingl. Mae caneuon Saesneg i’w cael yn ein llyfryn caneuon Cristingl ar-lein ar:   christingle.org neu gwelwch emyn Cymraeg - rhif 395 yn y gyfrol Emynau’r LlanMae oren y Cristingl’, cyfieithiad R Glyndwr Williams, sy’n cael ei chanu ar yr alaw Seisnig Yr eiddew ar gelynnen (The Holly and the Ivy) 

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon