Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr anrheg Nadolig orau

Drama Gwyl y Geni - Gwasanaeth o’r gyfres ‘Helo Sgryffi’.

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dathlu anrheg arbennig Duw i ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.

Gwasanaeth

1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

2.Heddiw, mae Sgryffi eisiau dweud wrthych chi am ei antur gyffrous.
Noson drama Nadolig yr ysgol oedd hi, ac roedd Sgryffi’n teimlo  braidd yn nerfus am fod tad Liwsi Jên wedi ei roi ef, Sgryffi, yn y cerbyd cario ceffylau i fynd ag ef ar y daith fer i’r ysgol. Roedd Liwsi Jên wedi bod yn dweud wrtho dro ar ôl tro y byddai ef, Sgryffi, yn seren y sioe y noson honno, a doedd ar Sgryffi ddim eisiau siomi Liwsi Jên.
Pan wnaethon nhw gyrraedd yr ysgol, roedd nifer fawr o fechgyn a genethod yn disgwyl ar iard yr ysgol i roi croeso mawr i Sgryffi a rhoi mwythau iddo.
Yn fuan, fe ddaeth yn amser i’r ddrama ddechrau.

3. Roedd Liwsi Jên yn chwarae rhan Mair, ac roedd hi’n cael gwisgo gwisg newydd sbon, ‘Paid â bod ag ofn, Sgryffi,’ sibrydodd Liwsi Jên wrth Sgryffi, wrth iddi ddringo ar ei gefn.
Fe wnaeth Pedr, a oedd yn chwarae rhan Joseff, arwain Sgryffi’n ofalus o gefn y neuadd drwy’r gynulleidfa i’r tu blaen.
Clywodd Sgryffi lais bach yn y gynulleidfa yn sibrwd: ‘Edrych, Mam, mae’n ful bach go iawn!’
‘Hi-ho, hi-ho!’ atebodd Sgryffi, gan wneud i bawb chwerthin.
Pan wnaethon nhw gyrraedd blaen y neuadd, fe wnaeth Joseff helpu Mair ddod i lawr oddi ar gefn y mul bach, ac fe arhosodd Sgryffi ar y gwair yn gwylio’r ddrama. Fe welodd y baban yn y preseb, Dyna syndod! Edrychodd Sgryffi eto ac eto. Tomos oedd y baban bach, brawd bach Liwsi Jên! Roedd athrawes Liwsi Jên wedi gofyn i fam Liwsi Jên a fyddai hi’n fodlon i Tomos chwarae rhan y baban Iesu. Felly, dyna lle’r oedd Tomos yn gorwedd yn cysgu’n braf gyda’i chwaer fawr yn gofalu amdano.
Fe ddaeth y bugeiliaid i mewn ar frys. Roedden nhw’n hapus iawn wrth weld y baban, ac fe wnaethon nhw ddawnsio iddo wrth i Oscar ganu alaw hapus ar ei recorder. Curodd pawb eu dwylo’n frwd i’w canmol!
Yna, fe ddaeth y doethion, pedwar ohonyn nhw, fesul un, ac fe wnaethon nhw roi anrhegion i’r baban - aur, thus a myrr. A beth oedd yr anrheg yr oedd y plant wedi ei ddewis i Seimon i’w rhoi i’r baban? Blwch cerddoriaeth hyfryd, a oedd yn canu’r alaw ‘I orwedd mewn preseb’. Ac wrth i’r côr angylion ddod i mewn a sefyll y tu ôl i Mair a Joseff a’r baban yn y preseb, fe wnaeth y plant i gyd ganu’r garol honno i ddiweddu’r ddrama.

Fe allwn ni ei chanu hefyd: os yw’n bosib, canwch y garol, ‘I orwedd mewn preseb’

Yn ôl yn y stabl, roedd Liwsi Jên yn dweud ‘Nos da’ wrth Sgryffi ac yn rhoi mwythau bach iddo unwaith eto.
‘Dyna hyfryd oedd y ddrama, Sgryffi? Meddylia, pan fydd Tomos ychydig yn hyn, ac yn gwrando ar y blwch cerddoriaeth, fe fydda i’n gallu dweud wrtho am heno, a dweud yr hanes amdano’n actio’r baban Iesu. Dwi’n hoffi stori’r Nadolig. Fe roddodd Duw yr anrheg orau erioed i ni - baban bach!’
Rhoddodd Liwsi Jên fwythau bach eto i Sgryffi. ‘Mae’n ddrwg gen i Sgryffi,’ meddai’n dawel, ‘efallai nad ti oedd seren y sioe wedi’r cyfan! Ta waeth, roeddet tithau’n grêt hefyd.'
Rhoddodd foronen fawr iddo a’i gofleidio.
‘Nos da, Sgryffi!’

Amser i feddwl

Rydyn ni i gyd wrth ein bodd yn derbyn anrhegion Nadolig, ond mewn gwirionedd mae’r Nadolig yn ymwneud â rhoi.
Beth allwch chi ei roi y Nadolig hwn? Yr anrheg fwyaf arbennig y gallwn ni ei rhoi i unrhyw un yw’r rhodd o gariad.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n ein caru ni gymaint fel y gwnest ti roi’r rhodd arbennig iawn i ni, sef Iesu.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

'I orwedd mewn preseb'

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon