Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Parchu Rheolau

Gofyn y cwestiwn, ‘A yw rheolau’n bwysig?’

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl ynghylch pam mae gennym reolau, a pham eu bod mor bwysig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi chwech o arwyddion ffyrdd i’w harddangos. Er enghraifft, dim mynediad, cyfyngiad cyflymder 40 m.y.a., ffordd yn culhau, ffordd yn llithrig, perygl creigiau’n disgyn.
  • Dewisol: Y Deg Gorchymyn wedi eu harddangos.

Gwasanaeth

1.  Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ddweud ein bod heddiw yn mynd i feddwl am reolau, a'u pwysigrwydd, ond i ddechrau eich bod yn mynd i ofyn tri chwestiwn i'r plant.
Yn gyntaf, gofynnwch i'r plant a oes unrhyw un ohonyn nhw’n gallu egluro beth yw ystyr Rheolau'r Ffordd Fawr (The Highway Code).
Yn ail, dangoswch chwech o arwyddion ffordd i'r plant, ac anogwch nhw i awgrymu beth mae pob arwydd yn ei olygu.
Yn drydydd, gofynnwch i'r plant pam maen nhw'n meddwl y mae’r holl arwyddion ffyrdd hyn gennym ni.

2. Gwnewch sylw y bydd yn dipyn o amser cyn y bydd y rhan fwyaf o'r disgyblion yn dysgu gyrru cerbyd; fodd bynnag, roeddech yn meddwl tybed a oedden nhw'n gallu meddwl am unrhyw reolau yn eu hysgol?
Gofynnwch i'r plant droi at y person sydd agosaf atyn nhw a siarad am y cwestiynau canlynol:
- Beth yw rhai o'r rheolau yn yr ysgol hon?
- Pam mae gennym reolau mewn ysgol?
- A ydych yn meddwl ei bod hi'n bwysig cael rheolau?
- Pe byddech yn gallu llunio un rheol newydd i'r ysgol hon, beth fyddai honno?

Gwrandewch ar ystod o ymatebion.

3. Cytunwch gyda'r plant fod rheolau yn syniad da fel arfer, a'u bod yn aml ar gyfer ein diogelwch ac yno i'n helpu ni i gyd fyw mewn ffordd sy'n gweithio’n dda.

Eglurwch fod Cristnogion yn credu mai yn yr Hen Destament, sy’n rhan o'r Beibl, y rhoddodd Duw gyfres o reolau iddyn nhw ar gyfer byw eu bywyd. Yr enw ar y rheolau hyn yw'r Deg Gorchymyn, ac fe gawson nhw eu rhoi i ddyn o'r enw Moses.

4. Dyma'r rheolau a roddodd Duw i Moses:

Rhif 1: Fi ydi'r unig Dduw ac mae'n rhaid i chi fy addoli i yn unig.
Rhif 2: Peidiwch ag addoli pethau fel cerfluniau, adar neu goed - dim ond fi.
Rhif 3: Peidiwch â defnyddio fy enw i at bethau drwg - mae fy enw i'n arbennig, felly rhowch barch iddo.
Rhif 4: Cadwch un diwrnod o'r wythnos ar gyfer ymlacio a galwch y diwrnod hwn yn  Saboth.
Rhif 5: Anrhydeddwch eich tad a'ch mam - bydd eu hangen arnoch i oroesi.
Rhif 6: Peidiwch byth â lladd neb.
Rhif 7: Os ydych chi'n priodi rhywun, arhoswch yn ffyddlon iddo ef neu hi, a pheidiwch â mynd i ffwrdd â rhywun arall.
Rhif 8: Peidiwch â dwyn - mae hynny'n brifo pobl eraill ac yn gwneud bywyd yn anodd.
Rhif 9: Peidiwch â dweud anwiredd chwaith - mae hyn yn cynnwys peidio â gwneud storïau am bobl eraill.
Rhif 10: Byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych chi a rhowch y gorau i flysio pethau sy'n perthyn i rywun arall.

5. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw'n meddwl fod y rheolau hyn yn rhai da. Nodwch eu bod nhw wedi cael eu cynllunio er mwyn gwneud bywydau pobl yn hapusach ac i helpu pobl i gyd-fyw mewn heddwch.

Amser i feddwl

A ydych chi'n credu bod y Deg Gorchymyn yr un mor bwysig heddiw?
Pleidleisiwch gyda bodiau: bawd i fyny os ydych chi’n meddwl eu bod yn bwysig heddiw; bawd i lawr os nad ydych chi’n meddwl eu bod; a bawd ar draws os nad ydych chi’n siwr.

Mae llawer o bobl yn meddwl bod y Deg Gorchymyn yn parhau i gynnwys rhai cynghorion da ar sut i fyw yng nghwmni pobl eraill. Mae'r rhan fwyaf o'r cyngor sy'n cael ei gynnig yn ymwneud â pharchu pobl eraill mewn gwahanol ffyrdd. Eglurwch na all ein byd fodoli yn y ffordd y mae'n ei wneud heddiw heb fod rhai rheolau i'w dilyn, ac mae Cristnogion yn credu bod y Deg Gorchymyn yn lle da i ddechrau.

Gofynnwch i'r plant oedi a meddwl am sut mae rheolau’n ein cadw ni'n ddiogel ac yn ein helpu i fyw mewn ffordd sy'n parchu pobl eraill.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i ddangos parch tuag at bobl eraill, ac i gadw at reolau’r ysgol fel bod yr ysgol yn fan hapus a diogel i ni fod ynddo.
Diolch i ti am roi’r Deg Gorchymyn i Moses, a diolch eu bod yn parhau i gynnwys cyngor da ar ein cyfer ninnau heddiw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon