Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr unigolyn iawn i'r swydd

Y ddisgyblaeth o ddysgu

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried bod y disgyblaethau rydyn ni’n eu dysgu pan fyddwn ni’n bobl ifanc yn ein harfogi ni ar gyfer y dyfodol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Darllenydd i ddarllen y stori Feiblaidd am hanes Dafydd yn cael ei ddewis yn frenin. Mae’r stori i’w gweld yn 1 Samuel 16.1-12.

Gwasanaeth

1.Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i adrodd stori iddyn nhw, stori rydych chi wedi ei chlywed yn ddiweddar  

Roedd dyn ifanc mewn cyfweliad am swydd yn Llundain. Roedd yn meddu ar radd prifysgol ac roedd y swydd yn swydd dda. Pan welodd y dyn ifanc yr ymgeiswyr eraill yn yr ystafell aros cyn y cyfweliad fe sylweddolodd ei fod yn ymgeisio yn erbyn gwrthwynebwyr o safon. Roedd pob un o'r ymgeiswyr yn raddedigion, â graddau da ganddyn nhw; roedd llawer ohonyn nhw'n dod o'r prifysgolion gorau yn y wlad. Roedden nhw i gyd yn bobl ifanc wedi'u gwisgo'n drwsiadus. Roedd gan rai ohonyn nhw brofiad mewn galwedigaethau tebyg.
Pan oedd yn dro iddo ef gael ei gyfweld fe atebodd y dyn ifanc y cwestiynau yn dda a rhoi cyfrif da am ei allu academaidd.

'Nawr,' meddai rheolwr y cwmni. 'Soniwch wrthym am eich hobi.'
Roedd y dyn ifanc yn rhwyfwr brwd, felly aeth ymlaen i ddweud gair am ei weithgaredd amser hamdden, soniodd am y drefn oedd gan y tîm wrth ymarfer, soniodd am ei berfformiadau a'r rasys y bu'n rhan ohonyn nhw.
Ar ddiwedd y cyfweliad cynigiwyd y swydd i'r dyn ifanc.

‘Welwch chi,’ eglurodd y rheolwr, 'roedd gan bob un o'r ymgeiswyr eraill raddau prifysgol ardderchog, a phrofiad da hefyd, ac fe fydden nhw wedi bod yn ddewisiadau digon llwyddiannus. Fodd bynnag, mae gennych chi ddisgyblaeth, nad oedd ganddyn nhw. Rydych chi'n codi'n fore ym mhob tywydd i fynd i ymarfer. Rydych chi’n gwthio eich hun â’ch holl egni yn gorfforol, rydych chi’n gallu derbyn gorchmynion, ac rydych chi’n gorfod gweithio yn rhan o dîm. Rydych chi yr union fath o berson y mae ar fy nghwmni ei angen.'

2. Mae stori debyg i’w chael yn y Beibl. Roedd yn amser penodi brenin newydd i reoli dros bobl Dduw. Byddai un o feibion dyn o’r enw Jesse'n cael ei ddewis. Gofynnwch i'r plant wrando er mwyn clywed pa rai o'r meibion wnaeth Duw ddim eu dewis, wrth i'r Darllenydd ddarllen y rhan o 1 Samuel 16.1-12.

Wnaeth Duw ddim dewis y mab hynaf, na’r talaf, na'r un mwyaf golygus. Fe ddewisodd fab ieuengaf Jesse a oedd yn fugail wrth ei alwedigaeth. Roedd rhesymau Duw dros ddewis y mab hwnnw’n debyg iawn i resymau rheolwr y cwmni dros ddewis y bachgen ifanc yn y cyfweliad yn Llundain. Roedd Duw yn gwybod pa waith oedd ganddo ar gyfer Dafydd, ac roedd yn gwybod pa fath o hyfforddiant y byddai Dafydd ei angen ar gyfer y swydd.

3. Gofynnwch i'r disgyblion beth maen nhw'n ei feddwl y byddai Dafydd wedi gorfod ei wneud yn ei swydd.

Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion.

Byddai Dafydd wedi dysgu am arwain, bwydo, amddiffyn, gofalu am iechyd a chynorthwyo ynghyd â llawer mwy o sgiliau.

4. Felly sut y byddai hyfforddiant Dafydd wedi ei baratoi ar gyfer y swydd yr oedd Duw wedi ei chynllunio ar ei gyfer?
Wel, mae’r Beibl yn dweud fod pobl mewn gwirionedd yn debyg iawn i ddefaid. Rydym yn aml yn dilyn ein ffordd ein hunain, eisiau ein ffordd ein hunain, yn dueddol o grwydro i ffwrdd o fannau diogel a chael ein hanafu. Roedd Duw angen rhywun oedd yn ofalgar a thosturiol, rhywun oedd yn ddewr, a rhywun a oedd o’r un feddwl â Duw. Roedd Duw eisiau rhywun fyddai'n gofalu am ei bobl Ef. Roedd Dafydd y bugail cyffredin yn ateb y diben hwnnw.

Amser i feddwl

Pa ddisgyblaethau rydych chi’n eu dysgu heddiw a fydd, efallai, yn ddefnyddiol i chi yn y dyfodol?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch fy mod i’n mynd drwy broses o ddysgu.
Diolch i ti bod yr hyfforddiant hwn a’r ddisgyblaeth hon yn cynhyrchu rhywbeth sy’n dda ynof fi.
Helpa fi i dderbyn hyn yn ddiolchgar.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon