Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Peidiwch â barnu yn ôl yr ymddangosiad (Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi&rsquo)

gan the Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Archwilio pa mor bwysig yw peidio â barnu pobl yn ôl eu hymddangosiad yn unig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Fe fyddai Sgryffi bob amser yn edrych ymlaen at yr amser y byddai Liwsi Jên yn dod adref o’r ysgol, er mwyn iddo gael gwrando arni’n sôn am yr holl bethau y byddai hi wedi bod yn eu gwneud y diwrnod hwnnw. Heddiw, roedd golwg hapus iawn arni pan redodd i mewn i’r stabl. Mae’n amlwg fod ganddi lawer o bethau i’w dweud wrtho.

    ‘Bore heddiw, Sgryffi, ar ôl i’r athrawes alw’r gofrestr,’ meddai Liwsi’n llawn cynnwrf, ‘fe ddywedodd ei bod hi eisiau i rywun wneud gwaith pwysig iddi.’

    Holwch y plant ‘Ydych chi’n gallu meddwl tybed beth allai’r gwaith hwnnw fod?'

    ‘Fe wnaeth llawer o fy ffrindiau roi eu dwylo i fyny i gynnig gwneud y gwaith pwysig,’ dywedodd Liwsi wedyn, ‘ond doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i’n ddigon clyfar i wneud gwaith pwysig. Ond wyddost ti be, Sgryffi, fe ofynnodd Miss i mi fynd i’r ystafell athrawon pan fyddai’n amser chwarae. Doedd gen i ddim syniad beth fyddai’r gwaith pwysig roedd hi eisiau i mi ei wneud, ac roeddwn i’n poeni a fyddwn ni’n gallu ei wneud. Beth bynnag, fe wnaeth Miss fy nghyflwyno i rywun o’r enw Mr a Mrs Carter a’u merch Emily. Maen nhw newydd ddod i fyw i’r pentref. Fe ofynnodd Miss i mi ofalu am Emily, dangos yr ysgol iddi, a rhoi gwybod iddi am unrhyw bethau y byddai’n holi amdanyn nhw. Fe wnes i deimlo’n swil iawn, Sgryffi, pan ddywedodd Miss wrth dad a mam Emily fy mod i’n ferch garedig, gyfeillgar, a’i bod hi’n siwr y byddai Emily’n mwynhau ei diwrnod cyntaf yn ein hysgol ni. Fe wnes i geisio fy ngorau i fod yn ffrind da, a phan oedd hi’n amser mynd adre, fe ddywedodd Emily ei bod hi’n falch ei bod hi wedi cael dod i’n hysgol ni. Mae’n rhaid fy mod i wedi gwneud y gwaith pwysig yn iawn felly, yn do, wyt ti ddim yn meddwl, Sgryffi?'

    Nodiodd Sgryffi. ‘Hi-ho, hi-ho!’ meddai’n uchel.

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.
  3. Gadewch i ni wrando ar stori o’r Beibl am ddyn o’r enw Samuel. Efallai eich bod chi’n cofio’r stori am Samuel yn gwrando ar lais Duw pan oedd yn fachgen bach.Wedi i Samuel dyfu’n oedolyn, roedd yn dal i wrando ar Dduw, ac fe roddodd Duw lawer o waith pwysig iddo ei wneud.

    Samuel a Dafydd

    Un diwrnod, fe ddywedodd Duw wrth Samuel ei fod eisiau iddo fynd i Fethlehem i dy dyn o’r enw Jesse. Roedd Duw yn mynd i ddewis un o feibion Jesse i fod y brenin nesaf ar wlad Israel.

    Fe wnaeth Jesse baratoi gwledd a chyflwyno ei feibion i Samuel. Pan welodd Samuel y mab hynaf, Eliab, roedd yn sicr y byddai’r mab hwn yn gwneud brenin ardderchog - roedd yn gryf ac yn olygus - ond roedd syniadau eraill gan Dduw. Clywodd Samuel lais Duw’n dweud, ‘Na, nid hwn yw’r un!’

    Roedd Duw’n gallu gweld sut un oedd pob person, nid yn unig ar y tu allan ond ar y tu mewn hefyd. Fe fyddai’n gwybod yn iawn os byddai rhywun yn unigolyn da a ffyddlon.

    Fe wnaeth Samuel gwrdd â chwech arall o feibion Jesse, ond wnaeth Duw ddim dewis yr un ohonyn nhw ychwaith. Roedd Samuel yn methu â deall. Oedodd am foment i feddwl, ac yna fe ofynnodd i Jesse, ‘Oes gen ti feibion eraill?’

    ‘Dim ond un arall, y mab ieuengaf, Dafydd,’ atebodd Jesse. ‘Mae Dafydd allan yn y caeau yn gofalu am y defaid.’

    ‘Fe hoffwn i gyfarfod Dafydd,’ meddai Samuel. ‘Wnawn ni ddim dechrau ar y wledd nes bydd Dafydd wedi cyrraedd.’

    Holwch y plant, 'Ydych chi’n meddwl y byddai bachgen sy’n fugail defaid yn gwneud brenin da?' a gofynnwch, 'Pam rydych chi’n meddwl hynny?' Siaradwch gyda’r plant wedyn a chyfeirio at y ffaith y byddai Dafydd wedi gorfod bod yn fachgen dewr i ofalu am y defaid. Roedd yn rhaid iddo gadw’r defaid yn ddiogel a bod yn wyliadwrus rhag i anifeiliaid gwyllt ymosod arnyn nhw.

    Ar unwaith, pan welodd Samuel Dafydd, roedd yn gwybod mai ef oedd yr un yr oedd Duw am ei ddewis. Fe gymerodd Samuel ychydig o olew ac, er mawr syndod i’r bachgen ifanc, fe wnaeth Samuel arllwys yr olew dros ei ben. Roedd hynny’n arwydd y byddai Dafydd yn frenin, ryw ddiwrnod. Byddai Dafydd yn cael sawl antur cyn y byddai’n cael ei goroni’n frenin, ond ar y diwrnod arbennig hwnnw, fe gafodd teulu Jesse wledd fawr i ddathlu.

Amser i feddwl

Pa fath o berson ydych chi'n meddwl a fyddai’n gwneud arweinydd da?

Pa fath o berson ydych chi'n meddwl a fyddai’n gwneud ffrind da?

Ydych chi’n ffrind da i bobl eraill?

Roedd yn rhaid i Samuel ddysgu nad yw sut mae pobl yn ymddangos ar y tu allan yn dangos yn union sut rai ydyn nhw ar y tu mewn. Fe ddylem bob amser ddod i adnabod rhywun yn gyntaf cyn i ni benderfynu sut rai ydyn nhw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa fi i fod yn ffrind da i bawb.
Helpa fi i gymryd amser i ddod i adnabod pobl eraill.
Diolch am fy ffrindiau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon