Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byddwch yn ddiolchgar

Fe allwn ni fod yn ddiolchgar bob dydd am bethau!

gan Paul Vittle (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2003)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Canolbwyntio ar bwysigrwydd bod yn ddiolchgar bob dydd am bethau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen negeseuon wedi eu hysgrifennu ar gardiau ar wahân yn barod i’w darllen yng Ngham 2 y Gwasanaeth (gwelwch yr enghreifftiau sy’n cael eu rhoi yno, neu ysgrifennwch rai o’ch dewis eich hun).
  • Efallai yr hoffech chi ofyn i un o’r plant ddarllen y gerdd sydd i’w gweld yng Ngham 5 y Gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddweud rhywbeth fel hyn yn chwareus:

    ‘Rydych chi’n gwybod, wrth gwrs, pa ddiwrnod oedd hi ddoe? Siwr iawn, roedd yn ‘Ddiwrnod Cenedlaethol Ffonio i Ddiolch ar gyfer Pethau sydd ddim yn Bobl’. Rydych chi’n edrych yn ddryslyd iawn. Ydych chi ddim yn fy nghredu i? Fe ddyweda i, unwaith eto, diwrnod beth oedd hi ddoe  . . .  ‘Diwrnod Cenedlaethol Ffonio i Ddiolch  . . .  ar gyfer Pethau sydd ddim yn Bobl.’

    Oedwch am foment fel y gall y plant ystyried beth yn  union rydych chi wedi'i ddweud, yna daliwch ati fel a ganlyn.
  2. ‘Mae’n dda gen i ddweud, yn yr ysgol hon (enw’r ysgol)wnaeth y ffôn ddim stopio canu drwy’r dydd! Yn wir, mae gen i nifer o negeseuon yma a gafodd eu gadael ar y peiriant ateb ddoe. Fe ddarllena i rai ohonyn nhw i chi. Rhag i mi ddatgelu gormod o wybodaeth bersonol fe wna i newid enwau’r plant yr oedd y negeseuon wedi cael eu gadael iddyn nhw.

    - Neges i Simon. Mae tiwb past dannedd Simon wedi ffonio i ddweud diolch yn fawr wrtho am roi’r top yn ôl ar y tiwb ddoe. Fel arfer, rwyt ti, Simon yn tueddu i anghofio gwneud hynny, ac mae’r tiwb yn teimlo’n flin bob tro y byddi di ddim yn trafferthu.
    - Neges i Louise. Mae Ystafell wely Louise wedi ffonio i ddweud - er ei bod yn dal i fod mewn stad o sioc – ei bod eisiau diolch i ti Louise am ei thwtio dros y penwythnos. Mae’r ystafell yn casáu bod yn flêr, ac yn anhrefnus, ac mae’n ddiolchgar iawn am y gwaith da wnest ti.
    - Neges i Sam oddi wrth . . . dy gi di. Yn ôl pob golwg fe ffoniodd y ci i ddweud diolch am rannu dy deimladau am fywyd yn gyffredinol ag ef. Mae’n deall yn iawn sut rwyt ti’n teimlo, ac mae wrth ei fodd dy fod ti’n siarad ag ef. O, gyda llaw, mae’n hoffi dy chwaer er gwaethaf yr hyn ddywedaist ti wrtho amdani!!
    - Ac yn olaf, neges i Jane, oddi wrth . . . Tedi. Fe ffoniodd tedi ddoe, Jane, i ddiolch i ti am ei garu a gofalu amdano bob amser, ac am fynd ag ef gyda ti pan fyddi di’n mynd i ffwrdd i rywle i aros.’

  3. Er mai dychmygol yw’r negeseuon hyn, mae pob un yn sôn am rywbeth go iawn. Mae’n bwysig iawn bod yn ddiolchgar, a dweud diolch wrth y bobl hynny sy’n gofalu amdanoch chi.

    Oes rhai ohonoch chi a fyddai’n hoffi rhoi enghraifft i mi o rywbeth rydych chi’n ddiolchgar amdano?

    Gwrandewch ar atebion rhai o’r plant.

    Yn aml iawn, y pethau bach rheini mewn bywyd yw’r pethau y byddwn ni’n anghofio diolch amdanyn nhw.

  4. Daeth y syniad y tu ôl i’r ‘Diwrnod Cenedlaethol Ffonio i Ddiolch  . . .  ar gyfer Pethau sydd ddim yn Bobl’ gan offeiriad. Roedd wedi meddwl am y peth wrth roi dwr i’r planhigion yn ei ardd. Dyma beth a ddywedodd:

    Rwy’n gwybod faint yr wyf fi’n gwerthfawrogi gwydraid o ddwr, yn enwedig pan fyddaf yn teimlo’n boeth, ac roeddwn yn teimlo bod fy mlodau yn wir yn mwynhau cael diod o ddwr hefyd, a rhywsut fe wnes i ddychmygu eu bod yn ddiolchgar. Yna, fe wnaeth fy meddwl grwydro i ddychmygu pethau eraill a allai fod eisiau dweud diolch - pe bydden nhw’n gallu siarad. Mae pob un ohonom yn cymryd gormod o bethau’n ganiataol, ydych chi ddim yn cytuno â fi? Pan fyddwn ni’n troi'r tap rydym yn cymryd yn ganiataol y bydd dwr clir, glân ac adfywiol ar gael i ni. Rydyn ni i gyd wedi clywed am wledydd lle mae prinder dwr. Dychmygwch sut y byddem ni’n goroesi gweddill yr wythnos hon pe na fyddai gennym ni ddwr i'w yfed, dim dwr i ymolchi, nac i fflysio'r toiled.

  5. Fe ysgrifennodd plentyn y gerdd hon sy’n dilyn.

    Galwch ar y plentyn rydych chi wedi ei ddewis i ddarllen y gerdd, os byddwch chi wedi trefnu i wneud hynny.

    Gallaf agor fy llygaid a gweld,
    Gallaf agor fy ngheg a dweud
    diolch.
    Diolch am heddiw, am wely cyfforddus, dwr cynnes,
    brecwast, dillad glân, ac am esgidiau am fy nhraed.
    Diolch am bobl sy’n gofalu, am lefrith, am y post,
    am ffôn, cyfrifiaduron, am ein car ac am betrol.
    Diolch am awyr las, am y glaw,
    am fy nghi, a blodau yn ein gardd.
    Diolch am ffrindiau newydd,
    ac am daid a nain.
    Diolch am allu ysgrifennu a darllen.
    I bwy rydw i’n diolch?
    Pob math o bobl – does dim ots -
    ond mae dweud diolch yn bwysig.

  6. Yn achos pobl sy’n dilyn ffydd grefyddol, mae’n bwysig rhoi diolch – a bod yn werthfawrogol. Er enghraifft, fe fydd rhai pobl yn dweud ‘gras’ neu weddi o ddiolch am eu bwyd cyn dechrau bwyta pryd o fwyd. Dyma enghraifft o weddi sy’n cael ei dweud yn aml fel gras bwyd – englyn, sydd wedi cael ei lunio gan fardd o’r enw W.D. Williams.

    O! Dad, yn deulu dedwydd – y deuwn
    Â diolch, o’r newydd;
    Can’s o’th law y daw bob dydd,
    Ein lluniaeth a’n llawenydd.

Amser i feddwl

Mae cymaint o bethau ym myd o natur ac yn y greadigaeth a ddylai ein gwneud ni’n ddiolchgar.

Gadewch i ni dreulio moment, yn dawel a heddychol, yn meddwl am hyn.

Gweddi
(Efallai y byddwch yn dymuno i'r plant ymuno yn y weddi ganlynol drwy ailadrodd y llinell 'Rydym yn ddiolchgar' ar ôl pob datganiad.)

Am deulu ac am ffrindiau . . .
Rydym yn ddiolchgar.
Am harddwch byd natur ac am y byd o’n cwmpas . . .
Rydym yn ddiolchgar.
Am yr holl bethau mewn bywyd rydyn ni’n aml yn eu cymryd yn ganiataol . . .
Rydym yn ddiolchgar.
Helpa ni i fod yn fodlon dangos ein bod yn ddiolchgar,nid yn unig yn y pethau y byddwn ni’n eu dweud ond hefyd yn y pethau y byddwn ni’n eu gwneud – bob dydd . . .
Rydym yn ddiolchgar.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon