Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byns y Grog ac Wyau Pasg

Bwydydd arbennig y Pasg

gan the Revd Catherine Williams (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2005)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio stori’r Pasg gan ddefnyddio bwydydd poblogaidd sy’n gysylltiedig â’r Pasg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â stori'r Pasg fel y gallwch chi ei hailadrodd yn ystod y gwasanaeth, neu fel arall trefnwch fod gennych chi Feibl i blant ar gael i ddarllen allan ohono os byddai'n well gennych chi.
  • Fe fydd arnoch chi angen byns y grog ac wy Pasg. Fe ddylai’r wy Pasg fod yn un gwag neu’n un gyda melysion i mewn ynddo, felly fyddai wy fel Cadbury's Creme Egg ddim yn addas.
  • Efallai yr hoffech chi gael delweddau priodol o wahanol rannau o stori’r Pasg, a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth, ond dewisol yw hyn.

Gwasanaeth

  1. A oes bwydydd arbennig rydyn ni’n eu cysylltu â’r Pasg?

    Gwrandewch ar rywfaint o atebion y plant.
  2. Rydw i am i chi feddwl am ddau beth arbennig rydyn ni’n eu gweld nhw yn y siopau yn aml ar yr adeg hon o'r flwyddyn, adeg y Pasg - byns y Grog ac wyau Pasg.

  3. Dangoswch un o’r byns i’r plant.

    A oes rhywun yn gallu meddwl pam rydyn ni’n bwyta byns y Grog ar adeg y Pasg?

    Gwrandewch ar rywfaint o atebion y plant, ac yna pwyntiwch at y groes ar ben un o’r byns.

    Mae'r groes yma yn ein hatgoffa ni am farwolaeth Iesu. Mae Cristnogion yn credu, er bod Iesu ddim wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ei fod wedi cael ei ladd ar ddydd Gwener y Groglith, ar groes. Flynyddoedd lawer yn ôl, dechreuwyd ar yr arferiad o wneud siâp croes ar ben y byns i atgoffa pobl am hynny, sef bod Iesu Grist wedi marw ar groes.

  4. Dangoswch yr wy Pasg i’r plant.

    A oes rhywun yn gallu meddwl pam rydyn ni’n bwyta wyau siocled ar Ddydd Sul y Pasg?

    Gwrandewch ar rywfaint o atebion y plant.

    Mae Cristnogion yn credu bod Iesu, ar ôl iddo farw, wedi cael ei roi mewn bedd a charreg fawr wedi cael ei gosod ar draws y fynedfa. Mae Cristnogion yn credu hefyd bod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw eto ar Sul y Pasg, a bod y garreg fawr wedi cael ei rholio i ffwrdd oddi ar y fynedfa. Mae wyau yn symbol o fywyd newydd, ac felly yn ein hatgoffa bod Iesu wedi marw, ond ei fod wedi codi o’r bedd eto. Hefyd, mae wyau Pasg, rhai gwag fel hwn yn ein hatgoffa ni bod bedd Iesu yn wag am ei fod wedi dod yn ôl yn fyw!

  5. Darllenwch neu adroddwch stori’r Pasg yn eich geiriau eich hun i’r plant.

    Fe gafodd y bobl a aeth i ymweld â’r bedd, a llawer o ffrindiau Iesu, y syndod gorau erioed ar ôl iddyn nhw sylweddoli bod Iesu wedi dod yn ôl o fod yn farw, a’i fod yn fyw eto!

    Efallai y gallwch chi gofio’r stori hon am y Pasg cyntaf pan fyddwch chi’n bwyta byns y Grog a’ch wyau Pasg.

Amser i feddwl

Gadewch i ni eistedd yn dawel am foment, gan gau ein llygaid a meddwl am y Pasg cyntaf hwnnw.

Fe fyddai llawer o bobl wedi bod yn teimlo’n drist oherwydd bod Iesu wedi marw. Ond dychmygwch sut byddai ffrindiau Iesu wedi teimlo ar Sul y Pasg wrth sylweddoli bod Iesu yn fyw eto!

Ambell dro, fe fyddwn ni’n teimlo’n drist, a thro arall yn teimlo’n hapus. Mae Cristnogion yn credu bod Duw gyda ni bob amser, waeth sut byddwn ni’n teimlo.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am y ddau beth - byns y grog  ac wyau Pasg siocled!
Helpa ni i gofio am eu hystyr arbennig – sef bod Iesu wedi marw ar y groes ac yna wedi cael ei atgyfodi i fywyd er ein mwyn ni i gyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon