Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Grym geiriau

Mae’r ffordd rydyn ni’n defnyddio geiriau’n bwysig

gan Jill Fuller (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1999)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ein helpu i werthfawrogi grym geiriau, er gwell er gwaeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen geiriadur gweddol o faint, a channwyll.
  • Casglwch ynghyd rai enghreifftiau o glymau tafod, rhai amrywiol o ran pa mor hawdd neu anodd ydyn nhw, er mwyn i’r plant allu rhoi cynnig ar eu hailadrodd. Er enghraifft, ‘Lowri’n rowlio lawr yr allt’, a ‘Hwch goch a chwech o berchyll cochion bach’. Neu, fe allech chi gynnwys rhai Saesneg fel 'Bertie Bear bought big blue balloons', a’r un enwog 'She sells sea shells on the sea shore'.
  • Efallai yr hoffech chi drefnu i ddau neu dri o blant ddweud jôc neu ddwy yn ystod y gwasanaeth, ond dewisol fyddai hynny.
  • Byddwch yn barod i rannu enghraifft o gael eich brifo ryw dro gan eiriau a ddywedodd rhywun. Neu gofynnwch i’r plant feddwl am enghreifftiau o’u profiad nhw eu hunain, enghreifftiau o lyfrau maen nhw wedi eu darllen neu enghraifft maen nhw wedi ei gweld mewn ffilm neu ar y teledu ryw dro.
  • Trefnwch fod gennych chi gopi o eiriau’r adnod o Lyfr y Diarhebion 12.18: ‘Y mae geiriau’r straegar fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iachau’.

Gwasanaeth

  1. Dyma eiriadur. Beth yw geiriadur? Oes rhywun yn gallu egluro beth sydd mewn geiriadur, ac i ba bwrpas mae’n cael ei ddefnyddio?

  2. Mae geiriadur bob amser yn llawn o eiriau. Oes rhywun yn gallu dweud wrthym ni am rai o’r gwahanol ffyrdd rydyn ni’n gallu defnyddio geiriau?

    Rhai enghreifftiau fyddai: mynegi safbwyntiau, dangos eich teimladau a’ch emosiynau, rhoi cyfarwyddiadau, disgrifio digwyddiad, cyfnewid newyddion, dweud jôcs, ac ati.

    Os ydych chi wedi trefnu i rai o’r plant ddweud jôcs, yna gofynnwch iddyn nhw wneud hynny ar y pwynt hwn.
  3. Ambell dro, fe allwn ni gymysgu ein geiriau wrth geisio’u dweud. Ydych chi’n gwybod am rai brawddegau sy’n ‘glymau tafod’?

    Rhannwch rai clymau tafod rydych chi’n gyfarwydd â nhw gyda’r plant gan roi cyfle iddyn nhw fwynhau’r profiad o chwarae â geiriau eu hunain. Efallai yr hoffech chi roi cyfle i un neu ddau o’r plant ddod ymlaen i geisio ailadrodd y ‘clymau tafod’, neu fe allen nhw geisio’u hailadrodd wrth yr un sy’n eistedd agosaf atyn nhw.
  4. Ydych chi, ryw dro, wedi cael eich brifo gan eiriau? Oes rhywun yn teimlo y bydden nhw’n gallu rhannu â ni enghraifft o gael eich brifo gan eiriau? Os na, ydych chi’n gallu meddwl am enghreifftiau o hynny’n digwydd i gymeriad mewn ffilm neu ar y teledu?
    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.
    Ar y llaw arall, ydych chi wedi cael y profiad o deimlo’n wirioneddol dda oherwydd yr hyn mae rhywun wedi ei ddweud wrthych chi ryw dro?

    Rhowch gyfle i’r plant rannu’r profiadau hyn â gweddill y gynulleidfa hefyd.
  5. Mae’r geiriau y byddwn ni’n eu defnyddio’n gallu effeithio ar y ffyrdd y mae pobl eraill yn teimlo amdanyn nhw’u hunain. Fe allwn ni ddefnyddio geiriau i wneud i bobl chwerthin, defnyddio geiriau i’w hannog, eu cysuro, ac er mwyn rhoi hyder i’r naill a’r llall. Ond rhaid i ni gofio hefyd y gallwn ni ddefnyddio geiriau mewn ffordd a fydd yn lledaenu straeon cas ac yn niweidio hunanhyder pobl eraill, os na fyddwn yn ofalus.

  6. Darllenwch y geiriau o Lyfr y Diarhebion 12.18: ‘Y mae geiriau’r straegar fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iachau’.

Amser i feddwl

Goleuwch y gannwyll ac ailddarllenwch y geiriau o Lyfr y Diarhebion 12.18.

Y mae geiriau’r straegar fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iachau.

Gadewch i ni fyfyrio, mewn moment o ddistawrwydd, ar y ffordd y byddwn yn dewis defnyddio geiriau heddiw.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Helpa ni i sylweddoli pa mor bwysig yw geiriau.
Help ni i ddefnyddio geiriau mewn ffordd dda – er mwyn helpu pobl yn hytrach na’u brifo.
Helpa ni i feddwl cyn siarad ym mhob sefyllfa.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon