Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Slinky Malinki

Mae llawer o bethau sy’n gallu gwneud i ni faglu!

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y pethau cuddiedig sy’n gallu ein baglu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r llyfrSlinky Malinkigan Lynley Dodd (Puffin, 1992) o’r gyfres o storïau Hairy Maclary and Friends.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen pelen o edafedd neu linyn sydd wedi datod ac wedi mynd yn glymau i gyd, a rhestr o’r 23 eitem sydd wedi cael eu dwyn yn y stori. Gyda’r rhestr hon, fe allwch chi roi tic ar gyfer pob eitem fel bydd y plant yn eu cofio.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i’r plant.

    - Oes gan rywun gath gartref?
    - Beth yw enw eich cath?
    - Beth mae’r gath yn hoffi ei wneud?
    - Sut byddech chi’n disgrifio’ch cath?

    Gwrandewch ar amrywiaeth o’u hatebion fesul pob cwestiwn.

  2. Adroddwch storiSlinky Malinki i’r plant yn eich geiriau eich hun, gan ddangos y llyfr iddyn nhw ar yr un pryd, neu ddarllen y fersiwn Saesneg ac egluro’r stori wrth fynd ymlaen.

  3. Wedyn, gofynnwch y cwestiynau hyn hefyd i’r plant.

    - Beth oedd y pethau hyfryd a wnaeth y gath fach yn y stori?
    - Beth oedd y pethau drwg a wnaeth y gath fach yn y stori?

  4. Dywedwch wrth y plant eich bod wedi gwneud rhestr o'r holl eitemau hynny y gwnaeth y gath eu dwyn - 23 o bethau i gyd. Eglurwch eich bod am weld faint o’r pethau mae’r plant yn gallu eu cofio. Gofynnwch i'r plant enwi'r eitemau, fesul un ar y tro, ac yna fe fyddwch chi’n eu croesi oddi ar eich rhestr wrth i’r plant eu henwi. Os nad yw’r plant yn gallu cofio'r rhai o'r eitemau, efallai yr hoffech chi roi cliwiau iddyn nhw er mwyn eu helpu i gofio.

  5. Gofynnwch, 'Pam rydych chi’n meddwl mai yn y nos yr oedd Slinky Malinki yn dwyn pethau?'

    Gwrandewch ar rai o'r awgrymiadau’r plant, yna awgrymwch fod Slinky Malinki yn meddwl y byddai’r tywyllwch yn gallu cuddio pethau. Ond pan gafodd Slinky Malinki ei hunan mewn llanast gwir, ac mewn dryswch go iawn, fe ddaeth y cyfan i’r golwg. Cafodd y gath ei dal!

  6. Awgrymwch ein bod i gyd ychydig yn debyg i Slinky Malinki weithiau. Mae yna lawer o bethau da am bob un ohonom ni sydd yma heddiw, ond mae rhai pethau sydd wedi digwydd i ni yn y gorffennol efallai na fyddem ni am i bobl eraill wybod amdanyn nhw. Rydyn ni’n tueddu i geisio cadw'r pethau drwg rydyn ni wedi eu gwneud yn gudd. Efallai ein bod ryw dro wedi cymryd rhywbeth heb ofyn - neu wedi cael benthyg rhywbeth fel pensil gan ffrind a’n bod wedi penderfynu cadw’r bensil wedi ei chuddio yn ein cas pensiliau ein hunain, neu efallai ein bod wedi cuddio bisged neu felysion y gwnaethon ni eu cymryd o’r gegin er bod Mam wedi dweud, 'Na' pan wnaethon ni ofyn am rywbeth felly!

    Efallai bod pethau eraill hefyd yr ydyn ni’n gwybod amdanyn nhw, dim ond ni sy’n gwybod, a dydych chi ddim eisiau i bobl eraill gael gwybod. Efallai ein wedi bod wedi dweud celwydd, efallai ein bod wedi twyllo, neu efallai ein bod wedi dweud pethau cas am rywun arall.

    Yn aml, mae pethau fel hyn yn dod i’r golwg, yn union fel y gwnaeth y pethau y gwnaeth Slinky Malinki eu dwyn ddod i’r golwg. Teimlai Slinky yn ofnadwy pan ddigwyddodd hynny.

  7. Yn olaf, gofynnwch y cwestiwn, 'Beth ydych chi’n ei feddwl yw ystyr ‘Bod â chywilydd mawr’? Gwrandewch ar rai o atebion y plant.

    Roedd Slinky Malinki, yn y stori, yn teimlo mor ddrwg am beth roedd wedi ei wneud fel nad oedd byth yn mynd allan yn y nos wedyn. Dyna oedd ffordd Slinky o wneud yn siwr nad oedd byth wedyn yn dwyn unrhyw beth. Mae'r Beibl yn dweud hyn wrthym ni - yn aml, mae’r pethau yr ydyn ni’n eu gwneud, na ddylem ni eu gwneud, yn siwr o ddod i’r golwg. Hefyd, mae'r Beibl yn sôn llawer am ba mor bwysig yw maddau.

Amser i feddwl

Mae Slinky Malinki yn gobeithio y bydd ei stori’n gallu ein helpu i feddwl am y pethau cuddiedig yn ein bywyd.

Dangoswch y belen o wlân neu linyn sy’n glymau i gyd.

A oes rhywbeth yr ydym wedi ei guddio rhag pobl eraill sy’n peri i ni fod yn teimlo fel pe bydden ni’n glymau i gyd y tu mewn i ni, a’r peth hwnnw’n gwneud i ni faglu ar adegau?

Gadewch i ni benderfynu nad ydyn ni’n mynd i fyw mewn tywyllwch byth eto.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch dy fod ti’n ein caru ni, hyd yn oed pan fyddwn ni’n gwneud llanast llwyr o bethau.
Rwyt ti’n gwybod popeth amdanom ac eisiau i ni fyw yn y goleuni.
Maddau i ni pan fyddwn ni’n cael pethau’n anghywir.
Fel yn achos Slinky Malinki, helpa ni i ddewis gwneud y pethau iawn a byw yn y goleuni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon