Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llawer o oleuni

Ystyried un o ddatganiadau Iesu, ‘Myfi yw goleuni’r byd’

gan Kirstine Davis

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio datganiad Iesu, ‘Myfi yw goleuni’r byd’’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Byddwch angen cannwyll ben-blwydd sy’n ailgynnau ohoni ei hun, teisen fach neu 'muffin' i osod y gannwyll arni, a matsis.
  • Byddwch angen tortsh, hefyd, cwpanaid o ddwr a phâr o hosanau od, y bydd angen i chi eu gwisgo yn ystod y gwasanaeth. Os nad yw'n bosib i chi wisgo’r hosanau od hyn, yna gofalwch y bydd gennych rai i'w tynnu o fag gan egluro eich bod wedi pacio eich bag ar gyfer digwyddiad yn hwyrach yn y dydd.

Gwasanaeth

  1. Gwnewch ddatganiad, ‘Mae goleuadau yn cael eu defnyddio'n aml mewn dathliadau’. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw’n gallu meddwl am unrhyw ddathliadau pryd y bydd goleuni yn chwarae unrhyw ran ynddyn nhw.

    Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion y plant.

  2. Dewch â'r 'deisen pen-blwydd’ i'r golwg, a goleuwch y gannwyll. Gwahoddwch unrhyw un o'r plant sy'n dathlu eu pen-blwydd yn ystod yr wythnos honno i ddod ymlaen fel bo'r gweddill y plant yn gallu canu 'pen-blwydd hapus' iddyn nhw.

    Gadewch y gannwyll ynghyn tra byddwch chi’n mynd ymlaen â rhan nesaf y gwasanaeth, oherwydd bod y gannwyll sy’n ailgynnau ohoni ei hun angen llosgi am ychydig funudau weithiau er mwyn gweithio'n iawn.

    Nodwch ein bod yn cael canhwyllau ar ein pen-blwydd, tân gwyllt ar noson cofio Guto Ffowc, goleuadau ar ein coed Nadolig, ac yn ystod yr Wyl Hindwaidd, 'Diwali', caiff goleuadau eu goleuo. Mewn gwirionedd, mae gwyl Diwali yn cael ei galw’n ‘wyl o oleuadau’ hyd yn oed. Nodwch, er bod goleuadau'n aml yn cael eu defnyddio ar gyfer dathliadau, weithiau bydd pobl yn goleuo cannwyll yn y cartref neu yn yr eglwys er mwyn eu helpu i weddïo dros rywun neu i gofio am rywun sydd wedi marw.

  3. Eglurwch, er bod Iesu'n byw dros 2000 o flynyddoedd yn ôl, fe ddywedodd lawer o bethau sydd yn parhau'n bwysig hyd heddiw. Un datganiad a wnaeth Iesu oedd, ‘Myfi yw goleuni'r byd’. Eglurwch fod hyn yn rhywbeth rhyfedd i'w ddweud. Wedi'r cyfan, nid cannwyll na bwlb golau oedd Iesu!

  4. Dangoswch y dortsh i'r plant a gofynnwch iddyn nhw pa bryd y bydden ni’n debygol o fod angen ei defnyddio?

          Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion y plant.

  5. Eglurwch fod pobl yn aml yn defnyddio tortsh y tu allan i'w cartref. Efallai eu bod yn byw mewn ardal sydd heb lawer o oleuadau stryd, efallai eu bod yn gwersylla yn rhywle, neu efallai'n mynd â'r ci am dro ar ôl iddi dywyllu. Efallai bod pobl hefyd yn gorfod defnyddio tortsh i fynd o amgylch y ty pan fydd toriad wedi digwydd yn y cyflenwad trydan.

    Mae tortshis yn goleuo'r llwybr o'n blaenau. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu'n dangos iddyn nhw'r llwybr cywir i'w ddilyn wrth fynd trwy fywyd. Maen nhw'n credu pan fydd pethau'n mynd o chwith neu pan fyddan nhw'n methu penderfynu beth yw’r peth gorau i'w wneud, y bydd Iesu yn eu helpu.

  6. Tynnwch eich esgidiau i ffwrdd i ddangos eich sanau od, neu tynnwch nhw allan o'r bag (beth bynnag y gwnaethoch chi benderfynu ei wneud wrth i chi baratoi ar gyfer y gwasanaeth) ac egluro i’ch cynulleidfa beth sydd wedi digwydd. Naill ai dywedwch eich bod wedi gwisgo amdanoch yn y tywyllwch gan nad oeddech eisiau deffro gweddill eich teulu a, thrwy gamgymeriad, fe wnaethoch chi wisgo'r hosanau od, neu wrth bacio rhai hosanau ar gyfer digwyddiad ymhellach ymlaen yn y dydd ac, yn y tywyllwch, eich bod wedi gafael yn y rhai anghywir!

    Fe wnaed y dewis anghywir hwn oherwydd eich bod yn gweithio yn y tywyllwch. Yn yr un modd, mae Cristnogion yn credu bod goleuni Iesu yn eu bywyd yn eu helpu i wneud daioni a gwneud y dewisiadau cywir.

  7. Gofynnwch i wirfoddolwr ddiffodd y gannwyll trwy chwythu'r fflam. Gwnewch y sylw, pan fyddwn ni weithiau yn tynnu'r addurniadau i lawr ar ôl gwyl neu'n troi'r goleuadau i ffwrdd gyda'r hwyr y gallwn deimlo ychydig yn drist wrth fod yn y tywyllwch.

    Gobeithio, yn y fan hyn, y bydd y gannwyll yn ailgynnau! Gadewch hi'n olau yn awr, tra byddwch chi’n diweddu’r gwasanaeth.

    Eglurwch pan fu farw Iesu, roedd llawer o bobl yn teimlo'n drist iawn, ond mae'r gannwyll hon sy’n ailgynnau eilwaith, yn ein hatgoffa bod Iesu wedi dod yn fyw eto ar ôl marw. Rydym yn dathlu'r digwyddiad hwn dros y Pasg. Daeth Iesu yn ôl yn fyw, a pharhau i oleuo’n ddisglair yn ein bywydau, yn union fel y gannwyll hon!

Amser i feddwl

Gadewch i ni aros yn dawel am funud tra byddwn ni’n syllu ar y gannwyll hon yn llewyrchu, gan ddod â goleuni i'r ystafell.

Meddyliwch am eiriau'r Iesu - ‘Myfi yw goleuni'r byd’. Fe ddywedodd Iesu hefyd un tro, ‘Chi yw goleuni'r byd’. Sut ydych chi'n credu y gallwch chi fod yn oleuni yn y byd?

Diffoddwch y gannwyll trwy ei gosod mewn cwpan o ddwr.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am oleuni a dathliadau.
Helpa ni i fod yn oleuadau yn y byd.
Helpa fi i wneud yr hyn sy'n dda a chywir.
Diolch i ti dy fod yn fyw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon