Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhyfeddodau'r Pasg!

Ambell dro, fe fydd pethau annisgwyl yn digwydd

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio natur annisgwyl marwolaeth ac atgyfodiad Iesu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen wy Pasg bach a phedwar wy wedi eu berwi’n galed. Wedi i chi ferwi’r wyau’n galed fe ddylech eu gadael i oeri mewn dwr oer, fe fydd yn fwy anodd tynnu’r plisgyn felly. Rhowch gynnig o flaen llaw ar dynnu’r plisgyn oddi ar wy wedi ei ferwi’n galed yn ôl y ffordd sy’n cael ei nodi yng Ngham 3 y Gwasanaeth.
  • Fe fydd arnoch chi angen jar jam gyda chaead sy’n ffitio’n dynn arno, wedi hanner ei lenwi â dwr.
  • Chwiliwch am ddelwedd o’r groes, a threfnwch fodd o ddangos hon yn ystod y gwasanaeth os byddwch yn dymuno gwneud hynny, ond dewisol yw hyn.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch yr wy Pasg i’r plant, a thrafodwch faint mae pawb yn hoffi’r rhain ar adeg y Pasg.

    Eglurwch nad oedd plant ers talwm yn cael wyau siocled ar adeg y Pasg. Yn hytrach, fe fydden nhw’n berwi wyau cyffredin ac yn lliwio’r plisgyn â gwahanol liwiau neu’n eu paentio a’u haddurno. Wedyn fe fyddai rhai’n rholio’r wyau i lawr bryn serth er mwyn cael ras i weld pa wy fyddai’n cyrraedd y gwaelod yn gyntaf. Yn aml, fe fyddai’r plisgyn yn cracio ac fe fydden nhw’n gallu gweld yr wy gwyn y tu mewn wedi troi’n amryliw. Efallai nad oedd yn edrych yn flasus iawn erbyn hynny!

  2. Gofynnwch am dri phlentyn, a hoffai wirfoddoli, i ddod ymlaen atoch chi i geisio tynnu’r plisgyn oddi ar dri o’r wyau sydd gennych chi wedi eu berwi’n galed. Amserwch y gweithgaredd wrth i’r gwirfoddolwyr ymrafael â’r dasg.

  3. Wedi iddyn nhw gael ychydig o amser i roi cynnig arni, awgrymwch eich bod chi’n gwybod am ffordd o wneud hyn yn gyflymach - o fewn pum eiliad mewn gwirionedd.Gosodwch yr wy arall sydd gennych chi wedi ei ferwi yn y dwr yn y jar jam, gan sgriwio’r caead yn ofalus ac yn dynn fel na fydd yn gollwng dwr wrth i chi droi’r jar. Yna, ysgydwch y jar am ychydig o eiliadau. Ar ôl i chi wneud hynny, tynnwch yr wy o’r jar a thynnu’r  plisgyn - fe ddylai ddod i ffwrdd yn rhwydd. 

  4. Pwysleisiwch eich bod wedi mynd ati mewn ffordd annisgwyl i dynnu’r plisgyn oddi ar yr wy. Pwy fyddai’n meddwl am ddefnyddio jar a dwr? Dyna syndod!

  5. Roedd y disgyblion yn teimlo braidd fel hyn ar adeg y Pasg cyntaf. Roedd Iesu eu ffrind arbennig wedi addo llawer o bethau iddyn nhw, ond doedden nhw ddim wedi deall llawer o’r hyn roedd Iesu wedi ei ddweud wrthyn nhw. Mae’n debyg fod y disgyblion yn disgwyl i Iesu ddod yn frenin ar y bobl, neu’n brif arweinydd crefyddol, neu hyd yn oed yn rhywun a fyddai’n trechu’r Rhufeiniaid a rhoi’r wlad lle’r oedden nhw’n byw yn ei hôl i’r bobl Iddewig. Doedden nhw wir ddim yn disgwyl iddo gael ei groeshoelio! Roedd hynny’n sioc enfawr iddyn nhw.

  6. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu egluro beth yw’r gwahaniaeth rhwng cael ‘sioc’ a chael ‘syrpreis’. Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

    Pwysleisiwch fod y ddau beth yn peri syndod, ac yn rhywbeth annisgwyl, ond mae ‘sioc’ fel arfer yn rhywbeth annymunol pryd mae syrpreis yn aml yn rhywbeth dymunol.

    Roedd marwolaeth Iesu’n sioc enfawr, ond dri diwrnod yn ddiweddarach fe gawson nhw syrpreis arbennig - roedd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw!

    Drwy gyfrwng y ddau ddigwyddiad yma, fe ddysgodd y disgyblion nad yw ffordd Duw o wneud pethau yn union yr un fath â’n ffordd ni o wneud pethau. Ambell waith mae’n anodd deall beth sy’n digwydd i ni, ond mae Cristnogion yn credu bod Duw’n ein caru ni i gyd yn fawr, pob un ohonom, a bod ei gynllun ef ar gyfer ein bywyd ni yn fwy o lawer nag a allwn ni ei ddychmygu.

Amser i feddwl

A oes pethau yn ein bywyd rydyn ni’n methu â’u deall? A oes pethau’n digwydd hyd yn oed nawr sy’n anodd, neu sy’n ein gwneud ni’n drist?

Mae stori’r Pasg yn ein hatgoffa bod gobaith bob amser, hyd yn oed ar adegau anodd.

Os byddwch yn dymuno ei defnyddio, dangoswch y ddelwedd o’r groes ar y pwynt hwn.

Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am yr hyn mae marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn ei olygu i ni heddiw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am anfon Iesu i’n byd i’n haddysgu am dy gariad mawr di tuag atom ni.
Helpa ni y Pasg hwn i ddathlu llawenydd ei atgyfodiad a llawenydd dy bresenoldeb di gyda ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon