Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Creu Cerddoriaeth (Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi’)

gan the Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio pa mor bwysig yw cerddoriaeth yn ein bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
  • Atgoffwch eich hunan o stori Samuel a Dafydd, a gafodd ei hadrodd mewn gwasanaeth blaenorol yn y gyfres ‘Helo Sgryffi!’, sef ‘Peidiwch â barnu yn ôl yr ymddangosiad’, fel y gallwch chi helpu’r plant i’w dwyn i gof yng Ngham 3 y Gwasanaeth.
  • Fe fydd arnoch chi angen darn o gerddoriaeth heddychol hefyd, a’r modd o’i chwarae yn ystod y cyfnod ‘Amser i feddwl’, tua diwedd y gwasanaeth, a nifer o offerynnau taro i’r plant eu chwarae yn ystod eich emyn ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Bob gyda’r nos, yn  ystod yr wythnosau diwethaf, roedd Liwsi Jên wedi bod yn canu caneuon wrth iddi roi bwyd Sgryffi mewn bwced, nôl dwr ffres iddo, a’i frwsio’n braf. Roedd rhai o’r caneuon wedi bod yn ganeuon hapus, a Liwsi Jên yn eu canu’n uchel, ond roedd Liwsi wedi canu rhai caneuon eraill yn dawel a thrist.

    Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu meddwl am ganeuon hapus a chaneuon trist. Gofynnwch iddyn nhw ydyn nhw’n gallu meddwl am offeryn taro sydd â swn uchel iddo, a meddwl am offeryn distawach.

    ‘Wyddost ti be, Sgryffi?’ sibrydodd Liwsi wrtho. 'Mae ein dosbarth ni’n mynd i gynnal cyngerdd yng Nghartref yr Henoed yn y pentref cyn hir. Mae Mam yn dweud bod llawer o’r bobl sy’n byw yno yn ymddangos fe pe bydden nhw’n teimlo’n drist weithiau, am nad ydyn nhw’n gallu mynd allan rhyw lawer, a does dim llawer o bobl yn ymweld â rhai ohonyn nhw. Dwi’n gobeithio y bydd ein cerddoriaeth ni yn codi eu calon!'

    Roedd Sgryffi wrth ei fodd yn gwrando ar y caneuon hapus y byddai Liwsi’n eu canu, ond doedd o ddim mor siwr am y gerddoriaeth roedd hi’n ei chreu gyda’i recorder! Dim ond newydd ddechrau dysgu canu’r recorder yr oedd hi, ac roedd yn dal i wneud synau gwichlyd. Roedd ei mam yn falch pan fyddai Liwsi Jên yn mynd i ymarfer yn y stabl yn hytrach nag yn y gegin!

    Gofynnwch i’r plant oes rhai ohonyn nhw’n dysgu chwarae offeryn cerdd.

    O’r diwedd, fe ddaeth diwrnod y cyngerdd. Roedd Sgryffi’n disgwyl wrth ddrws y stabl pan ddaeth Liwsi Jên adref o’r ysgol y pnawn hwnnw.

    ‘O Sgryffi,’ meddai Liwsi Jên. ‘Rydyn ni wedi cael amser braf. Wnes i ddim chwarae nodyn yn anghywir ar y recorder ac fe wnaeth yr hen bobl guro’u dwylo’n uchel. Fe wnaethon nhw ganu rhai o’r caneuon gyda ni ac ar ddiwedd y cyngerdd fe gawson ni ddiod a theisennau blasus. Roedd pawb yn sgwrsio ac yn gwenu. Dwi’n siwr ein bod ni wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus, Sgryffi, oherwydd fe wnaethon nhw ofyn i’r athrawon a fydden ni’n gallu mynd yno eto ryw dro. Hoffet ti i mi ganu’r gân ar fy recorder i ti, Sgryffi?’

    Wrth gwrs, fe nodiodd Sgryffi a dweud ‘Hi-ho, hi-ho!’

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Gadewch i ni wrando ar stori o’r Beibl am fachgen o’r enw Dafydd. Efallai eich bod yn cofio bod rhywun wedi dweud wrth Dafydd y byddai ef, ryw ddiwrnod, yn frenin ar ôl y Brenin Saul a oedd yn frenin ar y pryd hwnnw.

    Y Brenin Saul a Dafydd

    Doedd y brenin Saul ddim yn ddyn hapus iawn. Fe fyddai hwyliau drwg arno’n aml, a phan fyddai’n ddig fe fyddai’n taflu pethau ar draws yr ystafell at ei weision.

    Ymhen sbel, fe gafodd y gweision syniad da. ‘Beth am i ni geisio dod o hyd i rywun sy’n gallu canu’r delyn,’ meddai un ohonyn nhw. ‘Os gwnaiff y telynor ganu cerddoriaeth dawel ar y delyn, efallai y bydd y gerddoriaeth hyfryd yn helpu Saul i deimlo’n well pan fydd yn cael pyliau o fod yn ddrwg ei hwyl.’

    Cytunodd y Brenin Saul ag awgrym y gwas, ac fe ddechreuodd y gwas hwnnw chwilio am rywun a allai ganu’r delyn. Ymhen ychydig, fe ddaethon nhw i wybod bod Dafydd yn delynor da.

    Atgoffwch y plant o stori Samuel a Dafydd, a gafodd ei hadrodd mewn gwasanaeth blaenorol yn y gyfres ‘Helo Sgryffi!’, sef ‘Peidiwch â barnu yn ôl yr ymddangosiad.

    Rhoddodd Jesse, tad Dafydd, ganiatâd i’w fab fynd i’r palas i ganu’r delyn i’r Brenin Saul, a dechreuodd Dafydd dreulio llawer o amser yno. Daeth y Brenin Saul yn hoff iawn o Dafydd, a phob tro y byddai’n teimlo’n ddig neu’n ddrwg ei hwyl, fe fyddai Dafydd yn chwarae cerddoriaeth hyfryd iddo nes byddai’r brenin yn teimlo’n hapus unwaith eto.

Amser i feddwl

Chwaraewch eich dewis o gerddoriaeth heddychol.

Sut mae’r gerddoriaeth yn gwneud i chi deimlo?

Caewch eich llygaid a gadewch i’r gerddoriaeth wneud i chi deimlo’n heddychol.

Gweddi
Diolch i ti, Dduw am y rhodd o gerddoriaeth.
Diolch i ti am y caneuon y byddwn ni’n gallu eu canu pan fyddwn ni’n hapus.
Diolch i ti am y gerddoriaeth sy’n ein llonni pan fyddwn ni’n teimlo’n drist.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Chwaraewch eich dewis o gerddoriaeth heddychol eto.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon