Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gofalu am bobl dlawd

Stori Ruth a Naomi, rhan 3

gan Charmian Roberts

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysig yw gofalu am bobl dlawd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bag siopa yn cynnwys eitemau fel ffrwythau, llysiau a phacedi bychain o fwyd. Fe ddylai twll fod yng nghornel y bag - twll digon mawr i bethau ddisgyn allan o’r bag.
  • Efallai yr hoffech chi gasglu nifer o ddelweddau o wenith a haidd, ynghyd â delweddau o’r modd y byddai pobl yn casglu’r rhain yn y gorffennol, a dulliau cynaeafu heddiw, fel sydd i’w gweld ar y gwefannau canlynol:

    - gwenith, ar:http://tinyurl.com/z5yqcj4
    -cynaeafu â llaw, ar:http://tinyurl.com/jp9mdzb
    - cynaeafu modern, ar:http://tinyurl.com/ju2244o

    Dewisol yw hyn, ond os byddwch chi’n dymuno cynnwys y delweddau yn y gwasanaeth, trefnwch fod gennych chi’r modd o’u dangos, a gwiriwch yr hawlfraint.
  • Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl yn y rhan o Lyfr Ruth 1.1-17, sy’n sôn am yr adeg y bu Ruth yn ffrind da i Naomi. Fe allwch chi naill ai ddefnyddio’r fersiwn o’r stori sy’n cael ei rhoi yma i chi yng Ngham 3 y Gwasanaeth, neu ei dweud yn eich geiriau eich hun.
  • Os byddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwn fel rhan o gyfres, efallai yr hoffech chi atgoffa eich hun o’r rhannau blaenorol - ' Mae pwyntiau uchel ac isel mewn bywyd’ a ‘Beth sy’n gwneud ffrind da?’  –er mwyn gallu cyfeirio at ran gyntaf ac ail ran y stori pan fyddwch chi’n dod at ran 3 y gwasanaeth hwn.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch eich bag siopa i'r plant ac eglurwch eich bod newydd fod yn y siop. Nodwch eich bod yn mynd i gadw’r bag yng nghornel yr ystafell tra byddwch chi'n arwain y gwasanaeth ac yr hoffech chi iddyn nhw eich atgoffa i fynd ag ef gyda chi ar y diwedd.                                                                                                                          
    Wrth i chi gario'r bag i'r gornel, gwnewch yn siwr fod eitemau yn disgyn allan ohono trwy'r twll yn y bag. Gofynnwch i rai o'r plant i'ch helpu codi'r eitemau sydd wedi disgyn. Gwnewch y sylw eich bod yn falch na syrthiodd y nwyddau o'r bag i gyd ar eich ffordd o'r siop neu fe fyddech wedi colli'r cyfan!

    Eglurwch fod y stori yn y gwasanaeth heddiw yn sôn am bobl a oedd yn fwriadol yn peidio â chodi bwyd a syrthiodd ar y llawr. Roedden nhw’n ei adael yno fel bod pobl newynog yn cael rhywbeth i'w fwyta.

  2. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw wedi clywed bod pobl yn byw yn y byd sy'n newynog. Gofynnwch hefyd iddyn nhw sut y mae pobl sy'n newynog yn gallu dod o hyd i fwyd. Holwch y plant a ydyn nhw'n gwybod am elusennau neu fudiadau sy'n cynorthwyo pobl newynog.

    Eglurwch fod y stori yn y gwasanaeth heddiw yn dangos i ni enghraifft o un ffordd yr oedd pobl dlawd yn derbyn gofal yn y cyfnod sy'n cael ei ddisgrifio yn y Beibl.

  3. Os ydych chi’n defnyddio'r stori hon yn rhan o gyfres, ac yn dymuno gwneud hynny, gallwch ddwyn i gof y rhan gyntaf ac ail ran stori ‘Ruth a Naomi’ o'r gwasanaethau ‘Mae pwyntiau uchel ac isel mewn bywyd’ a ‘Beth sy’n gwneud ffrind da?

    Ruth a Naomi (parhad)

    Fe deithiodd Ruth a Naomi am filltiroedd lawer nes o'r diwedd fe wnaethon nhw gyrraedd Bethlehem. Pan wnaethon nhw gyrraedd, roedden nhw'n flinedig ac yn teimlo’n newynog iawn. Roedden nhw’n dyfalu ymhle y byddai modd iddyn nhw ddod o hyd i fwyd a llety.

    Gofynnwch i'r plant am syniadau ymhle y gallai Ruth a Naomi ddod o hyd i fwyd a llety. Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant. Gall trafodaeth fer gynnwys awgrymiadau fel cymdogion cyfeillgar, efallai y  bydden nhw’n gallu cael gwaith a phrynu bwyd gyda’r cyflog, ac ati. Eglurwch, yn y cyfnod sy'n cael ei ddisgrifio yn y Beibl, mai dynion fel arfer oedd yn gweithio i ennill arian. Felly, yn aml, roedd teuluoedd heb aelodau gwrywaidd yn dlawd ac yn methu â phrynu bwyd.


    Gosodwch yr olygfa trwy ddweud pan gyrhaeddodd Ruth a Naomi ym Methlehem, roedd yn adeg y cynhaeaf. Os ydych yn eu defnyddio, dangoswch y delweddau o wenith a haidd gan ddisgrifio'n fyr sut yr oedden nhw'n cael eu cynaeafu yn y gorffennol, a sut mae hynny’n digwydd heddiw.

    Ewch ymlaen â’r stori.

    Fel y gwyddom, roedd Ruth yn ofalgar iawn o Naomi ei mam-yng-nghyfraith, ac roedd hi eisiau gallu darparu bwyd ar gyfer y ddwy ohonyn nhw. Yn sydyn cafodd syniad! Byddai'n mynd allan i'r meysydd lle'r oedd y dynion yn cynaeafu ac fe fyddai’n lloffa am unrhyw ran o'r cnwd fyddai'n cael ei ollwng ganddyn nhw.

    Dywedwch fod eich bag siopa gyda thwll ynddo yn eich atgoffa o'r hyn a ddigwyddodd yn Israel yr holl flynyddol yn ôl. Roedd Duw wedi dweud wrth y bobl pan fyddai'r gweithwyr yn cynaeafu'r cnydau fe fyddai peth ohono yn syrthio i'r ddaear wrth wneud hynny, oherwydd bod y cnydau'n cael eu cynaeafu â llaw. Yr oedd yr hyn oedd wedi syrthio i gael ei adael yno er mwyn i'r bobl dlawd ei gasglu wedyn, a gwneud bara iddyn nhw eu hunain fel na fydden nhw’n newynu. Yr enw a roddwyd ar y weithred hon pan fyddai’r tlodion yn casglu'r rhan o’r cnwd a oedd wedi syrthio i'r llawr oedd 'lloffa'. Roedd Ruth yn mynd i 'loffa' er mwyn gallu cael  bwyd iddi hi ei hun a Naomi.

    Ewch ymlaen â’r stori.

    Gweithiodd Ruth yn galed yn y meysydd drwy'r dydd, yn casglu planhigion gwenith a oedd wedi cael eu gadael ar y llawr. Y noson honno gwnaeth Ruth a Naomi fara blasus o'r grawn y bu Ruth yn lloffa amdano. Roedd hyn i gyd yn bosib oherwydd bod Duw wedi dweud wrth ei bobl am ofalu am y tlodion trwy adael peth bwyd ar eu cyfer ar lawr y meysydd wrth gynaeafu'r cnydau.

Amser i feddwl

Y dyddiau hyn mae gennym beiriannau i gynaeafu'n cnydau ac nid yw pobl yn lloffa yn y meysydd. Mae llawer o bobl sy'n perthyn i sawl crefydd yn credu, fodd bynnag, bod Duw eisiau iddyn nhw sicrhau bod gan bobl newynog ddigon i'w fwyta.

Mae sawl ffordd yn bodoli y gallwn ni allu helpu mewn achos fel hwn. Gallwn roi peth o'n harian i elusennau sy'n gweithio ar ran y tlodion, cyfrannu dillad i siopau elusen, cyfrannu bwyd mewn archfarchnadoedd tuag at fanciau bwyd, cynnal digwyddiadau codi arian . . . 

Os yn bosib, cysylltwch yr awgrymiadau â digwyddiad elusennol yn yr ysgol neu yn lleol.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch bod Ruth wedi gallu dod o hyd i fwyd iddi hi ei hunan a Naomi trwy loffa.
Helpa ni i rannu’r hyn sydd gennym ni â phobl eraill fel bydd pawb yn cael digon i’w fwyta.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon