Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffyddlondeb

Mae ffyddlondeb yn bwysig

gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos ei bod yn bosib parhau’n ffyddlon hyd yn oed ar adegau anodd.

Paratoad a Deunyddiau

Efallai y byddwch yn dymuno dangos delweddau o ddaeargi Skye, neu frîd tebyg o gi, a’r cerflun o Greyfriars Bobby (fel sydd ar gael ar: http://tinyurl.com/zw88mhc), ond dewisol yw hyn.

Gwasanaeth

  1. Oes rhai ohonoch chi ag anifail anwes gartref?

    Gwrandewch ar atebion rhai o’r plant.

    Mae pobl sydd ag anifeiliaid anwes fel arfer yn hoff iawn ohonyn nhw. Mae anifeiliaid anwes yn dibynnu arnom ni am fwyd, dwr, lloches ac ymarfer corff. Yn gyfnewid, maen nhw’n rhoi eu cariad a’u ffyddlondeb i ni.

  2. Heddiw, rwy’n mynd i sôn am gi arbennig iawn wrthych chi. Daeargi Skye bychan, a oedd yn byw dros 160 o flynyddoedd yn ôl. Cafodd y daeargi bach ei eni ar fferm yn yr Alban, lle'r oedd cwn fel y rhain yn cael eu defnyddio i ddal llygod mawr, llygod bach neu unrhyw fermin arall. Cafodd ei brynu gan ddyn o'r enw John Gray a oedd yn wyliwr nos i’r heddlu yng Nghaeredin.

    Ar y pryd, roedd plismyn yn cael eu galw’n 'Bobbies', ar ôl Syr Robert Peel, a oedd wedi sefydlu Heddlu’r Metropolitan yn Llundain am y tro cyntaf. Felly, pa well enw ar gyfer y ci bach na Bobby? Roedd Bobby i'w weld ar y strydoedd yn ardaloedd tlotaf Caeredin, yn helpu ei feistr i orfodi'r gyfraith drwy redeg ar ôl, ac weithiau frathu, y lladron a’r dihirod. Roedd Bobby’n adnabyddus i bawb.

    Ar ôl rhai blynyddoedd yn gweithio gyda'i gilydd, bu raid i John roi'r gorau i'w swydd oherwydd afiechyd. Roedd yn dal i fynd â Bobby allan am dro gydag ef, ac fe wnaethon nhw dreulio oriau lawer yn hapus gyda'i gilydd. Yn anffodus, fodd bynnag, gwaethygodd iechyd John, a bu farw. Claddwyd ef ym mynwent eglwys y Brodyr Llwydion (Greyfriars).

    Doedd cwn ddim yn cael mynd i mewn i’r fynwent, a phob nos fe fyddai’r giât fawr ar glo. Cymerodd mab John y ci bach, Bobby, i fyw gydag ef yn ei gartref. Ond er mor galed roedd John yn ceisio, ni allai gadw'r ci bach yn y ty. Rywsut neu’i gilydd, fe lwyddai Bobby bob amser i ddianc o’r ty a dod o hyd i ffordd i mewn i'r fynwent. A dyna ble bydden nhw, bob bore, yn dod o hyd i’r ci bach yn gorwedd ar fedd ei feistr, waeth beth fyddai’r tywydd. Roedd pobl wedi ceisio ei anfon i ffwrdd oddi yno, ond fe fyddai Bobby yn chwyrnu arnyn nhw, yn ysgyrnygu ei ddannedd, ac yn gwrthod symud.

    Ar ôl llawer o nosweithiau, a nifer o ymdrechion i wneud iddo symud oddi yno, roedd  pobl wedi rhoi'r gorau i geisio, ac wedi dechrau derbyn bod Bobby yn benderfynol o aros yn y fynwent wrth fedd ei feistr. Bob dydd, am un o'r gloch, pan fyddai gwn mawr yn cael ei danio yng nghastell Caeredin, fe fyddai Bobby’n mynd i'r ty coffi lleol lle byddai ei feistr yn mynd yn rheolaidd, ac yno fe fyddai'n cael rhywfaint o fwyd gan y bobl yno.

    Bu Bobby’n byw fel hyn am 14 mlynedd, yn gwylio bedd John. Daeth yn adnabyddus, ac roedd yn denu edmygwyr o bob rhan o Ewrop. Pan fu farw, ar 14 Ionawr 1872, penderfynwyd y byddai caniatâd yn cael ei roi i Bobby gael ei gladdu gyda’i feistr. Ar ôl trefnu casgliad cyhoeddus, codwyd digon o arian ar gyfer carreg fedd i’r ci. Hefyd, mae ffynnon ddwr yfed wedi ei chodi, gyda cherflun efydd o Bobby ar ei phen. Mae’r gofeb yn dal i fod yno i'w gweld hyd heddiw.

  3. Rhoddodd Bobby ei gariad a’i ymroddiad llwyr i’w feistr. Parhaodd yn ffyddlon i John drwy gydol ei fywyd.

    Mae llawer o wahanol grefyddau yn y byd heddiw, ond maen nhw i gyd yn gofyn i ni fod yn ffyddlon i'w dysgeidiaeth a’u delfrydau.

    Fe allwn ni fod yn ffyddlon i'n gilydd hefyd. Gallwn gefnogi ein gilydd a pharhau i ofalu am ei gilydd, hyd yn oed pan fyddwn ni'n teimlo ein bod wedi cael ein siomi. Gallwn hefyd ddangos parch at y rhai rydyn ni’n eu cyfarfod.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am stori John a’i gi ffyddlon, Bobby.

Beth mae'r stori’n ei ddysgu i ni am fod yn ffyddlon, ac am fod yn gefn i’r rhai rydyn ni’n eu caru, waeth beth fydd hynny’n ei olygu?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i fod yn ffyddlon ac i lynu wrth yr hyn rydyn ni’n ei gredu.
Helpa ni i brofi'r gwir ffyddlondeb, y teyrngarwch a’r ymroddiad a ddangoswyd gan y ci bach, yn ein bywydau ni ein hunain - y ci bach, sydd erbyn hyn yn cael ei gofio fel Greyfriars Bobby.
Helpa ni i ddangos caredigrwydd a ffyddlondeb tuag at eraill bob dydd, er mwyn i ni ddod yn ffrindiau y gall pobl ymddiried ynddyn nhw, ac yn ffrindiau ffyddlon.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon