Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dal Ati

Archwilio gwerth dyfalbarhau.

gan The Revd Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio gwerth dyfalbarhau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pluen, ac anrhegion bach fel gwobrau syml. 

  • Dewisol: darn o fetel, morthwyl, llif, a channwyll.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch am dri gwirfoddolwr. Fesul un, coswch drwyn pob un gyda’r bluen, gan amseru pa un sy’n gallu dal hiraf heb rwbio’i drwyn! Rhowch wobr syml i’r tri.

  2. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n dda am allu dal ati, neu’n dda am allu goddef rhywbeth. Weithiau rydych chi’n gorfod gwneud hynny. Adroddwch y stori yma, gan ddefnyddio cymhorthion gweledol, os yn bosib.

    Un tro, roedd darn o haearn, a oedd yn gryf iawn ac yn galed iawn. Roedd sawl un wedi ceisio torri’r darn haearn, ond roedd pob un wedi methu.

    ‘Fe allaf i dorri’r haearn,’ meddai’r fwyell. Disgynnodd y fwyell yn drom ar y darn haearn dro ar ôl tro, ond yr unig beth oedd yn digwydd oedd bod y fwyell yn mynd yn hollol ddi-fin, ac fe roddodd y gorau i geisio torri’r bar haearn.

    ‘Gad i mi wneud,’ meddai’r llif. Ac fe lifiodd y llif yn ôl ac ymlaen ar hyd ymyl yr haearn, yn ôl ac ymlaen, nes roedd dannedd y lli wedi camu ac wedi torri. Fel y fwyell o’i blaen, rhoddodd y llif y gorau i geisio torri’r haearn, a disgyn i’r ochr.

    ‘O!’ meddai’r morthwyl, ‘Fe wyddwn i na fyddech chi’n llwyddo. Fe ddangosaf fi i chi sut mae gwneud hyn!’ Ond gyda’r trawiad cyntaf, fe hedfanodd pen y morthwyl i ffwrdd. Roedd y darn haearn yn dal yr un fath, heb newid dim, yn galed a chryf.

    ‘Tybed a ddylwn i roi cynnig arni?’ holodd y fflam fechan. ‘Anghofia’r peth!’ meddai’r fwyell, y llif a’r morthwyl gyda’i gilydd. ‘Beth allet ti ei wneud? Rwyt ti’n rhy fach ac yn rhy wan.’ 

    Ond, doedd y fflam ddim am wrando arnyn nhw. Yn hytrach fe gyrliodd ei hun am y bar haearn a’i gofleidio, heb symud, nes y toddodd yr haearn o dan ddylanwad di-ildio ac anorchfygol y fflam.

  3. Mae’r Beibl yn dweud, ‘Nid yw cariad yn darfod byth.’ Ac mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi dal ati, hyd yn oed pan oedd bywyd yn galed iawn – pan oedd pobl yn ei wrthwynebu, yn ei erlid, ac wrth iddo farw hyd yn oed – am ei fod yn ein caru ni. Dyna pam y mae Cristnogion yn credu nad yw Duw byth yn rhoi’r gorau iddi.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gofynnwch i’r plant feddwl am rywbeth gwirioneddol anodd sy’n eu hwynebu ar hyn o bryd - efallai bod ganddyn nhw ryw waith sy’n anodd ei ddeall, efallai eu bod yn ceisio bod yn ffrindiau â rhywun, neu rywbeth felly. Yn eu ffordd eu hunain, fe allan nhw ofyn i Dduw eu helpu i ddal ati.

Gweddi
Diolch nad wyt ti byth yn rhoi’r gorau i ni, hyd yn oed pan fyddwn ni’n gweld bywyd yn anodd.
Helpa ni i ddal ati, ac i ddyfalbarhau, hyd yn oed pan fyddwn ni’n teimlo'n wan iawn ac ar fin rhoi’r gorau iddi.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2003    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon