Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Teimlo Bod Rhywun Eich Angen

Mae pawb yn hoffi teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi

gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2007)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dangos y gallwn ni i gyd fod yn ddefnyddiol, a bod pawb yn hoffi cael ei werthfawrogi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â stori ‘Penri’r Pry Copyn’ sydd i’w gweld yma yng Ngham 2 y Gwasanaeth, ac sy’n addasiad o stori wreiddiol gan Jan Edmunds. Fe allech chi ei haddasu a’i phersonoli i weddu i’ch steil chi o adrodd stori, os hoffech chi.
  • Efallai yr hoffech chi gasglu ynghyd rai delweddau o bryfed cop a threfnu modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth, neu gael rhai teganau ar ffurf pryfed cop, ond dewisol yw hyn.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant fod pawb ohonom yn mwynhau bod yng nghwmni pobl eraill. Mae’n beth annifyr iawn os byddwn ni wedi ffraeo â’n ffrindiau. Mae pawb yn hoffi teimlo ein bod yn perthyn i grwp, ac yn hoffi teimlo fod pobl eraill ein heisiau ni.

  2. Mae’r stori heddiw am greadur bach, druan, a oedd yn meddwl nad oedd neb ei eisiau. Gwrandewch yn astud a chewch weld beth fyddwch chi’n ei feddwl ar y diwedd.

    Dangoswch y delweddau o’r pryfed cop a/ neu’r teganau pryfed cop, os byddwch yn eu defnyddio.

    Penri’r Pry Copyn

    (addasiad o stori wreiddiol gan Jan Edmunds)

    Fe wnaeth Penri’r Pry Copyn y we harddaf erioed yng nghornel ystafell eistedd ty Mrs Huws. Roedd Penri’n falch iawn o’i we. Yn fuan iawn, roedd yn dal llawer o bryfed mawr a fyddai’n hedfan i mewn i’r ystafell trwy’r ffenestr agored.

    Teimlai Penri fod ei we yn un ardderchog, ond pan welodd Mrs Huws hi, fe aeth ar ei hunion i nôl brwsh a thynnu’r we. Yna, fe gododd hi Penri yn ofalus gyda’i dwster melyn a’i roi allan trwy’r ffenestr. Ond roedd hi’n bwrw glaw allan ac roedd hi’n oer hefyd. Felly, fe sleifiodd Penri yn ei ôl i mewn i’r ty trwy ddrws yr ystafell haul a oedd yn gil agored.

    Roedd hi’n gynnes braf yn yr ystafell haul, felly fe ddechreuodd wneud gwe arall yno. Wedi ei gorffen, fe aeth Penri i swatio yn y gornel gan ddisgwyl i’r pryfed lanio ar ei we ludiog a chael eu dal. Yn anffodus i Penri, fe welodd Mrs Huws y we, ac ar unwaith, fe aeth i nôl y brws a’i sgubo i ffwrdd gan daflu Penri oddi ar y brws y tu allan i’r ty unwaith eto.

    Ceisiodd Penri ei orau glas, sawl gwaith, i fynd yn ei ôl i’r ty, ond yn aflwyddiannus. Teimlai’n ddiflas iawn. Y cyfan oedd Penri ei eisiau oedd bywyd tawel heddychlon. Teimlai nad oedd neb yn ei hoffi, doedd neb ei eisiau.  Doedd dim llawer o bwrpas iddo fynd yn ei ôl i mewn i’r ty.

    Un diwrnod yn fuan wedyn, roedd yn cropian ar hyd y llwybr y tu allan i’r ty, ac fe sylwodd ar Mali’r ferlen yn ysgwyd ei phen dros ddrws y stabl. Roedd llawer o bryfed yn hedfan o gwmpas ei phen a’i chlustiau, ac yn gwneud iddi deimlo’n annifyr iawn. Roedd Mali’n stampio’i thraed ac yn chwifio’i chynffon, ond roedd y pryfed yn mynnu glanio ar ei gwddw hir ac ar ei chefn llydan. Waeth faint roedd hi’n chwifio ar ei chlustiau a’i chynffon, doedd yr hen bryfed felltith ddim yn mynd oddi yno!

    Dringodd Penri i fyny ffrâm drws y stabl. ‘Paid â phoeni, Mali,’ meddai, ‘fe allaf fi dy helpu’.

    Ac fe ddechreuodd Penri lunio gwe newydd sbon. Roedd hi’n we enfawr, a oedd yn ymestyn o’r drws i’r to. Yn fuan iawn yr oedd nifer fawr o’r pryfed a fu’n poeni Mali wedi’u dal yn y we. Roedd Mali’n ddiolchgar iawn i Penri - o’r diwedd roedd hi’n cael llonydd gan y pryfed.

    Pan welodd Mrs Huws y we, a gweld yr holl bryfed wedi cael eu dal ynddi, a phan welodd hi gymaint yn hapusach yr oedd Mali wedyn, fe sylweddolodd ei bod hi’n bwysig gadael gwe’r pry copyn yn ei le. Nawr, roedd Penri’n gallu byw mewn heddwch yn y stabl, ac ar yr un pryd yn gwneud bywyd Mali a’i ffrindiau’n llawer mwy dedwydd. Ac, o’r diwedd, roedd Penri’n hapus oherwydd ei fod yn teimlo bod rhywun yn ei werthfawrogi, ac eisiau iddo fod yno.

  3. Treuliwch beth amser yn trafod y stori. Holwch gwestiynau fel y rhai canlynol:

    Ydych chi’n meddwl fod Mrs Huws wedi bod yn gas wrth y pry copyn? Pam rydych chi’n meddwl nad oedd hi ei eisiau yn ei thy? Sut y gwnaeth Penri helpu Mali? Pam na wnaeth Mrs Huws chwalu’r we oedd yn y stabl?

  4. Cyfeiriwch at y ffaith bod rhai pobl yn casáu pryfed cop, ond fel pob creadur byw, mae’r pry copyn hefyd yn rhan bwysig o fyd natur. Yn union fel y byddwn ninnau’n hoffi cwmni, ac yn hoffi teimlo bod rhywun ein heisiau ni, roedd Penri yn hoffi gallu gwneud cymwynas â Mali a gallu mwynhau cwmni creaduriaid eraill.

  5. Efallai yr hoffech chi rannu’r ffeithiau canlynol am y pry copyn.

    Yn Saesneg, mae pobl yn galw gwe pry copyn yn ‘cobweb’. Daw’r gair hwn o’r hen air Saesneg am bry copyn, sef ‘coppe’. Mae’r gair Cymraeg ‘copyn’ yn swnio’n debyg hefyd.

    Mae dau fath o edeuon mewn ambell we pry copyn, edau ludiog i ddal y pryfed, ac edau arall heb fod yn ludiog, y gall y pry copyn gerdded yn gyflym ar ei hyd er mwyn cyrraedd y pryfed sydd wedi’u dal. Rhaid i bryfed cop sydd â’r math hwn o we, droedio’n ofalus ar hyd yr edeuon cywir!

    Mae gwyddonwyr wedi bod yn edrych ar ddyluniad ac ar edeuon gwe’r pry copyn oherwydd eu bod yn ymateb yn hynod o dda i straen, ac yn gallu ymestyn a chaledu yn ôl y gofyn, a hyd yn oed oroesi corwyntoedd!

Amser i feddwl

Meddyliwch yn ôl dros y stori . . .

Beth mae’r stori’n ei ddweud wrthym ni am gyfeillgarwch a’r teimlad o fod yn perthyn?

Beth mae’n ei ddweud wrthym ni am fod yn ddefnyddiol ac am allu helpu?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y pry copyn, ac am ei sgiliau rhyfeddol.
Diolch i ti am bawb sydd yma, ac am eu sgiliau rhyfeddol hwythau.
Helpa ni i ddefnyddio ein sgiliau ni i helpu pobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon