Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pecyn bwyd!

Gall rhywbeth bach wneud gwahaniaeth mawr

gan Michelle Walker (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y ffaith y gall cynnig rhywbeth bach wneud gwahaniaeth mawr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl yn Efengyl Ioan 6, sy’n adrodd hanes bwydo’r 5,000 o bobl.
  • Fe fydd arnoch chi angen gwirfoddolwyr i chwarae rhan y bachgen bach a’r disgyblion.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen basged fechan yn cynnwys pump o roliau bara a dau bysgodyn – gall y rhain fod yn rholiau bara a physgod go iawn, modelau o rai, neu luniau rhai ar bapur wedi eu torri allan.
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi lunio nifer ychwanegol o dorthau a physgod papur i’w rhannu i bawb yn y gynulleidfa wrth i’r stori ddatblygu.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch y gwasanaeth trwy ofyn cwestiynau i’r plant ynghylch rhannu.

    - Ydych chi’n hoffi rhannu?
    - Ydych chi’n rhannu bob amser?
    -Pa fath o bethau ydych chi’n eu rhannu â phobl eraill?
    -Sut ydych chi’n teimlo pan fydd pobl eraill yn rhannu â chi?
    -Sut ydych chi’n teimlo pan fydd pobl eraill ddim yn rhannu â chi?
    -Ydych chi’n meddwl bod rhai pethau yn rhy fach i’w rhannu?

  2. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw wedi rhoi popeth oedd ganddyn nhw i rywun arall ryw dro.
    Gwrandewch ar rai o atebion y plant.
    Awgrymwch fod rhoi popeth sydd gennych chi i rywun, oherwydd eich bod yn hoff iawn ohono ef neu hi, yn weithred hael iawn, ac yn beth na fyddech chi’n debygol o’i wneud o bosib.

  3. Eglurwch fod y stori ar gyfer y gwasanaeth heddiw’n sôn am fachgen bach a wnaeth roi popeth oedd ganddo i Iesu. Gwahoddwch un plentyn i ddod i’r blaen atoch chi i ddal y fasged sy’n cynnwys y ‘rholiau bara’ a’r ‘pysgod’. Dangoswch gynnwys y fasged i weddill y gynulleidfa hefyd, ac eglurwch mai dyma beth oedd cinio’r bachgen bach yn y stori y diwrnod hwnnw. Fe allwch chi ddarllen y stori o’r Beibl, neu o Feibl ar gyfer plant, neu ddefnyddio’r aralleiriad sy’n dilyn:

    Roedd pawb yn teimlo’n gyffrous iawn ynghylch mynd i wrando ar Iesu’n siarad. Roedden nhw i gyd wedi clywed am y pethau rhyfeddol yr oedd Iesu wedi bod yn eu gwneud; wedi clywed am y bobl a oedd yn ddall oedd yn gallu gweld wedyn ar ôl cwrdd â Iesu, a’r bobl a oedd yn gloff yn gallu cerdded yn iawn wedyn, ac wedi clywed am gleifion yn cael eu hiachau gan Iesu. Ar y diwrnod arbennig hwn, roedd miloedd o bobl wedi dod ynghyd i weld Iesu ac i gael clywed beth oedd ganddo i’w ddweud. Roedden nhw wedi bod yn gwrando arno trwy’r dydd a doedd neb wedi cael amser i fwyta dim byd. Roedd pawb yn dechrau teimlo eu bod eisiau bwyd yn ofnadwy, a doedd dim siopau na stondinau yn ymyl i brynu bwyd lle gallai’r bobl bicio i nôl rhywbeth i’w fwyta.
    Teimlai Iesu dros y bobl yn y dyrfa, ac fe ofynnodd i un o’r disgyblion a oedd yn gwybod ble byddai’n bosib iddyn nhw fynd i brynu bwyd i’r bobl. Dywedodd y disgyblion, hyd yn oed pe bydden nhw’n dod o hyd i siop, fyddai ganddyn nhw ddim digon o arian i brynu digon o fwyd i fwydo pawb oedd yno’r diwrnod hwnnw. Dywedodd un y byddai’n costio mwy o arian nag a allen nhw ei ennill mewn mis i fwydo’r holl nifer fawr o bobl!

    Dangoswch y fasged a’i chynnwys i’r plant eto. Eglurwch, pe bydden nhw’n rhannu’r hyn oedd yn y fasged rhwng yr holl bobl, fydden nhw ddim yn cael mwy nag un briwsionyn bach yr un!

    Er nad oedd gan y bachgen ddim ond ychydig o fwyd, fe benderfynodd y byddai’n rhannu’r hyn oedd ganddo gyda’r bobl eraill, ac fe roddodd ei becyn bwyd i un o ddisgyblion Iesu. Fe gymerodd Iesu’r bwyd yn ei ddwylo a dweud diolch wrth Dduw amdano. Wedyn, fe ddywedodd wrth bawb o’r bobl fod eisiau iddyn nhw eistedd i lawr ac fe ofynnodd i’w ddisgyblion fynd o gwmpas i ddosbarthu’r bwyd i bawb.

    Os oes torthau a physgod papur gennych chi, trefnwch i rai gwirfoddolwyr ddosbarthu’r rhain i bawb sydd yn y gynulleidfa.

    Roedd y bachgen wedi rhyfeddu. Nid yn unig roedd ei becyn bwyd wedi bod yn fodd i fwydo’r miloedd o bobl oedd yn y dyrfa ond roedd deuddeg llond basged o fwyd yn weddill hefyd!

    Gofynnwch i’r gwirfoddolwyr fynd yn ôl i’w lle i eistedd ac i weddill y gynulleidfa roi cymeradwyaeth iddyn nhw.

  4. Gofynnwch y cwestiwn canlynol.

    - Sut ydych chi’n meddwl oedd y bachgen bach yn teimlo pan sylweddolodd fod ei becyn bwyd bach wedi bod yn ddigon i fwydo'r holl bobl oedd yno'r diwrnod hwnnw?

    Gwrandewch ar rai o atebion y plant.
    Eglurwch fod un weithred fach garedig wrth rannu wedi bod yn fodd i Iesu fwydo miloedd o bobl.

Amser i feddwl

Nid oesun peth sy’n rhy fach i’w rannu. Gall beth bynnag fydd gennym i’w rannu wneud gwahaniaeth i’r rhai sydd o’n cwmpas. Does dim byd yn rhy fach i’w rannu ag eraill.

Gofynnwch bob un o’r cwestiynau canlynol yn eu tro, gan roi cyfle i’r plant ystyried eu hymateb.

- Beth allech chi ei rannu?
- Sut y gallech chi fod yn fwy hael â’r hyn sydd gennych chi?
- Sut y gallech chi feddwl mwy am bobl eraill?
- Beth allech chi ei wneud heddiw a fyddai’n weithred arbennig o rannu?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am bopeth sydd gennym ni.
Helpa ni i feddwl am rai sy’n llai ffodus na ni.
Helpa ni i gofio nad oed unrhyw beth y n rhy fach i ni ei rannu ag eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon