Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sut ydych chi'n teimlo?

Gall ein profiadau newid ein hwyliau

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried bod y profiadau a gawn cyn dod i’r ysgol bob dydd yn gallu newid ein hwyliau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen chwe darn o gerdyn sydd â’r geiriau hyn arnyn nhw - un teimlad ar bob un - wedi eu hysgrifennu mewn llythrennau mawr: 'hapus', 'trist', 'pryderus', 'teimlo’n llawn cyffro', 'wedi blino' ac 'yn sâl'.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i'r plant, pan fyddan nhw’n cyrraedd yr ysgol bob dydd, fe fydd pawb yn teimlo'n wahanol i’w gilydd. Fe fydd amryw o bethau wedi digwydd iddyn nhw yn gynharach y bore hwnnw, ac fe fydd hynny’n dylanwadu ar y ffordd y maen nhw’n teimlo.

  2. Gofynnwch i’r plant am syniadau ynghylch beth allai fod wedi digwydd iddyn nhw i wneud iddyn nhw deimlo mewn ffordd neilltuol. Dyma rai enghreifftiau.

    – Pe byddai eu pysgodyn aur wedi marw y bore hwnnw, fe fydden nhw’n teimlo’n drist.
    –Pe bydden nhw’n cychwyn ar eu gwyliau ar ôl yr ysgol, fe fydden nhw’n teimlo’n llawn cyffro.
    –Pe bydden nhw wedi mynd i’r gwely’n hwyr iawn y noson flaenorol, fe fydden nhw’n teimlo wedi blino!

  3. Soniwch wrth y plant am yr adegau pan ydych chi wedi bod mewn gwahanol hwyliau wrth i chi gyrraedd yr ysgol. Dyma rai enghreifftiau.

    - Efallai eich bod wedi bod ar eich traed drwy’r nos gyda phlentyn a oedd yn sâl, felly rydych chi wedi cyrraedd yr ysgol yn teimlo’n flinedig iawn.
    - Efallai eich bod chi eich hunan â chur yn eich pen a phoen yn eich bol, ond nad oeddech chi eisiau colli’r diwrnod ysgol, felly rydych chi wedi cyrraedd yr ysgol yn teimlo’n sâl.

  4. Gofynnwch i’r plant sut mae ein teimladau ni’n gallu effeithio ar ein hymddygiad. Dyma rai enghreifftiau.

    - Pan fyddwn ni wedi blino, fe allwn ni fod yn teimlo’n sarrug.
    - Pan fyddwn ni’n drist, fe allwn ni fod yn dawelach nag arfer a dim awydd chwarae gyda’n ffrindiau fel bydden ni’n ei wneud yn arferol.
    - Pan fyddwn ni’n bryderus, fe allwn ni fod yn hawdd ein cythruddo.

  5. Daliwch y cardiau i fyny a darllen y geiriau sydd arnyn nhw. Gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo heddiw.
    Eglurwch nad ydych chi’n mynd i ofyn pammaen nhw’n teimlo felly, ond yr hoffech chi ofyn i wirfoddolwyr dod atoch chi i ddal y cerdyn sy’n disgrifio orau sut maen nhw’n teimlo heddiw.

  6. Eglurwch nad oes yr un o’r teimladau hyn yn anghywir - maen nhw’n rhan o fywyd pawb. Yn wir, mae’r Beibl (llyfr arbennig Cristnogion) yn dweud wrthym fod Iesu wedi teimlo’n hapus, yn ofnus, yn flinedig, ac yn drist, ar wahanol adegau. Mae angen i ni ddeall bod ein ffrindiau’n teimlo mewn ffyrdd gwahanol o dro i dro, a bod angen i ni fod yn ofalgar tuag at ein gilydd bob amser.

    Mae llawer o sôn yn y Beibl am gariad. Yn 1 Corinthiaid 13.4, mae’n dweud, ‘Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar.' Mae angen i ni geisio deall y bobl sydd o’n cwmpas ni, a bod yn amyneddgar tuag atyn nhw a charedig wrth ein gilydd, waeth pa hwyliau fydd arnyn nhw (neu arnom ni ein hunain)!

Amser i feddwl

Caewch eich llygaid am foment a meddyliwch am eich diwrnod hyd yma. Oes rhywbeth wedi digwydd eisoes heddiw i’ch rhoi chi mewn hwyliau neilltuol?

Meddyliwch am y rhai hynny sydd o’ch cwmpas, a cheisiwch gofio efallai nad ydyn nhw’n teimlo yn union yr un fath â chi.

Meddyliwch a oes rhywrai sy’n anodd bod yn ffrindiau â nhw. Penderfynwch wneud ymdrech arbennig i fod yn garedig wrthyn nhw a cheisio deall eu safbwynt.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n fy adnabod i’n dda iawn, a diolch dy fod ti’n fy ngharu i.
Helpa fi i fod yn amyneddgar â phobl eraill, hyd yn oed pan fyddan nhw’n fy ngwneud i’n ddig!
Helpa fi i geisio eu deall, a cheisio bod yn garedig a gofalgar tuag atyn nhw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon