Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Chwarae ein rhan

Rydyn ni i gyd yn wahanol, ond rydyn ni i gyd yn bwysig

gan Hilary Karen

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y rôl rydyn ni’n ei chwarae o ran cyfrannu at y byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen y delweddau canlynol:
    - llun gardd berlysiau, ar gael ar:http://tinyurl.com/jnvehsh
    - llun blodau melyn Mair (marigolds) yn tyfu ymysg llysiau, ar gael ar :http://tinyurl.com/z2xk6lz
    - llun blodau’n tyfu gyda’i gilydd, ar gael ar:http://tinyurl.com/jouxsnp
  • Dewisol: trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘All you need is love’ gan y Beatles, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y fideo YouTube, ‘Earth Animation 3D’.

  2. Rhannwch y ffeithiau canlynol gyda’r plant.
    - Mae tua 7.3 biliwn o bobl yn y byd. (Nodwch fod yna rhai mannau o amgylch y byd lle nad yw genedigaethau’n cael eu cofrestru, felly mae'n amhosibl gwybod yr union rif.)
    - Mae 196 o wledydd yn y byd heddiw. (Nodwch fod y nifer hwn yn newid weithiau pan fydd rhannau o'r byd yn cael eu had-drefnu.)

    - Mae tua 6,500 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad o gwmpas y byd heddiw.
  3. Dangoswch y delweddau o’r gerddi a’r blodau i’r plant.
    - Yr ardd berlysiau: esboniwch fod gwahanol swyddogaethau gan wahanol berlysiau. Mae’n bosib i rai fod yn llesol ar gyfer ein cyrff; maen nhw’n ychwanegu blas wrth greu prydau bwyd blasus; ac maen nhw’n tyfu gyda'i gilydd i greu gerddi hardd.
    - Y blodau melyn Mair (marigolds) yn tyfu ymysg llysiau: esboniwch nad yw pryfed yn hoffi arogl melyn Mair, felly mae plannu melyn Mair ymhlith y llysiau’n cadw'r pryfed i ffwrdd. Mae hyn yn galluogi'r llysiau i dyfu’n iawn yn hytrach na chael eu difa gan bryfed.
    - Y blodau’n tyfu gyda’i gilydd: esboniwch fod plannu amrywiaeth o flodau gyda’i gilydd yn cyfuno i wneud gardd hardd. Blodau ydyn nhw i gyd, ond maen nhw hefyd i gyd yn wahanol i’w gilydd.

  4. Eglurwch i'r plant fod pob planhigyn yn arbennig ac mae pob un yn cyfrannu at y byd. Mae planhigion yn darparu bwyd ac ocsigen i ni. Maen nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer meddyginiaeth i’n hiachau ni pan fyddwn ni’n sâl. Yn ogystal, mae planhigion yn dod â harddwch i'r byd. Mae’r un peth yn wir am bobl yn y byd. Rydyn ni i gyd yn wahanol, ond mae gennym ni i gyd gyfraniad i'w wneud i'r byd. Gyda'n gilydd, rydyn ni’n gwneud y byd yn lle mwy prydferth ac arbennig.

Amser i feddwl

Efallai yr hoffech chi ail ddangos y fideo YouTube, ‘Earth Animation 3D’,yn ystod yr Amser i feddwl.

Meddyliwch am ehangder y byd. Meddyliwch am bobl yn byw ledled y byd i gyd mewn gwahanol sefyllfaoedd a gwahanol hinsawdd. Oni fyddai’n wych pe byddai pawb yn cyfrannu at y byd mewn ffordd gadarnhaol?
Meddyliwch am eich ysgol. Meddyliwch am eich ffrindiau a’r man lle rydych chi’n byw. Oni fyddai’n wych pe byddai pawb yn cyfrannu at y mannau hyn mewn ffordd gadarnhaol?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i ymuno â’n gilydd mewn cariad tuag at bobl ym mhob rhan o’r byd.
Helpa ni i ddysgu am ein gilydd a thyfu mewn parch tuag at ein gilydd.
Helpa ni i fwynhau’r hyn sy’n debyg rhwng pawb, a’r hyn sy’n wahanol rhyngom.
Helpa ni i fod yn ffrindiau yn y byd yr wyt ti wedi ei greu i bawb.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

All you need is love’ gan y Beatles (gwiriwch yr hawlfraint)

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon