Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Daliwch ati!

Mae dyfalbarhad yn bwysig

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysigrwydd yw dyfalbarhau, hyd yn oed pan fydd y pethau'n mynd yn anodd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi lunio cyflwyniad PowerPoint sy'n dangos y diffiniadau a'r cwestiynau sy’n cael eu rhoi yma yn nhestun y Gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Heddiw, rydym yn mynd i fod yn meddwl am ddyfalbarhad. Oes rhywun yn gwybod beth mae'r gair 'dyfalbarhad' yn ei olygu?

    Gwrandech ar amrywiaeth o atebion.

    Fe allai geiriadur ddiffinio’r gair dyfalbarhad fel: ‘parhau i geisio cyflawni nod penodol er gwaethaf anawsterau. Neu, yn Saesneg: ‘continuing to try to achieve a particular aim despite difficulties’.
    Neu, ei roi mewn ffordd arall: ‘cadw i fynd, hyd yn oed os bydd y pethau'n mynd yn anodd’, neu ‘keeping going, even if the going gets tough’.
    Pa un ai pan fyddwn ni yn yr ysgol neu yn y cartref, neu yn ystod ein bywyd yn gyffredinol, fe fyddwn ni i gyd yn profi adegau pan fydd pethau'n anodd i ni. Mewn sefyllfaoedd fel y rhain, gall fod yn anodd dal ati - mae angen dyfalbarhad.

  2. Eglurwch eich bod yn mynd i sôn wrth y plant am dair sefyllfa y gallen nhw gael eu hunain yn rhan ohonyn nhw. Ar ôl pob un, fe hoffech chi i'r plant feddwl pam y bydden nhw angen dyfalbarhad i ddelio â'r sefyllfa. Efallai y byddwch yn dymuno gofyn i'r plant drafod eu syniadau gyda'r person agosaf atyn nhw.

    Gwrandech ar amrywiaeth o atebion ar ôl disgrifiad o bob sefyllfa.

    -
    Sefyllfa 1: Mae hi'n ddiwrnod mabolgampau ac rydych chi’n hapus eich bod yn rhan o'r tîm ras gyfnewid. Fodd bynnag, rydych chi’n gwybod fod pobl yn y timau eraill yn gallu rhedeg yn gyflymach na chi. Pam fyddech chi angen dyfalbarhad? (Ateb: Fe ddylech chi ddyfalbarhau a dal ati i redeg eich gorau glas oherwydd eich bod yn rhan o'r tîm.)
    -
    Sefyllfa 2: Rydych chi’n ei chael hi'n anodd i ddarllen ac rydych chi eisiau rhoi’r gorau i ddysgu darllen. Pam fyddech chi angen dyfalbarhad? (Ateb: Fe ddylech chi ddyfalbarhau a dal ati i ymdrechu fel eich bod yn parhau i wella; fe fydd gallu darllen yn eich helpu yn y dyfodol.)
    -
    Sefyllfa 3: Mae eich ffrind gorau yn ymddangos yn sarrug, ac rydych chi’n dechrau colli eich tymer gydag ef neu hi am mai dim ond eisiau mynd i chwarae rydych chi! Pam fyddech chi angen dyfalbarhad? (Ateb: Fe ddylech chi ddyfalbarhau gyda'ch cyfeillgarwch oherwydd gall eich ffrind fod yn teimlo’n sâl, neu’n teimlo’n drist am rywbeth. Mae'n werth brwydro dros gyfeillgarwch.)

  3. Mae'r Gemau Olympaidd yn ddigwyddiad sy'n dathlu dyfalbarhad ac ymdrech ddiflino’r athletwyr sydd wedi treulio blynyddoedd lawer yn hyfforddi tuag at eu cystadleuaeth. Yn y flwyddyn 1992, roedd disgwyl i athletwr o'r enw Derek Redmond ennill medal yn y ras 400-metr, ond yn anffodus fe ddigwyddodd rhywbeth i’w rwystro rhag cymryd rhan.

  4. Dangoswch y llun o Derek Redmond.

    Cafodd Derek Redmond ei eni yn Bletchley yn y flwyddyn 1965, a dechreuodd redeg pan oedd yn saith mlwydd oed. Roedd yn ddawnus iawn ac aeth ymlaen i ennill llawer o wobrau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyng-genedlaethol. Fodd bynnag, nid oedd bywyd bob amser yn rhwydd iddo. Bu Derek yn dioddef oddi wrth lawer o anafiadau a chafodd 13 o lawdriniaethau ar ei dendon Achiles, ac ar ei bengliniau, a oedd yn golygu ei fod wedi gorfod tynnu'n ôl o sawl cystadleuaeth.
    Er gwaethaf yr anawsterau hyn, wnaeth Derek ddim rhoi’r ffidil yn y to. Enillodd lawer o fedalau a thorri sawl record. Fodd bynnag, nid am ‘ennill’ yn unig y mae Derek yn fwyaf enwog: ond am ei ddyfalbarhad!
    Yn ystod Gemau Olympaidd 1992 yn Barcelona, fe enillodd Derek y ras 400m go-gyn derfynol ac roedd ar y blaen yn y ras gynderfynol pan yn sydyn fe rwygodd linyn y gar ganddo, a disgynnodd i'r llawr mewn poen. Fel yr oedd y cludwyr-stretsiwr yn gwneud eu ffordd tuag ato ar draws y trac, fe benderfynodd Derek ei fod eisiau cwblhau'r ras. Cododd ar ei draed a dechrau hercian tuag at y llinell derfyn. Yn fuan ymunodd ei dad, Jim Redmond, ag ef ar y trac, fe wthiodd ei hun heibio'r gwarchodwyr diogelwch a mynd ar y trac fel ei fod yn gallu cyrraedd ei fab.
    Gyda'i gilydd, cwblhaodd Jim a Derek un tro o'r trac, gyda Derek yn pwyso ar ysgwydd ei dad i gynnal ei hun. Wrth iddyn nhw groesi'r llinell derfyn, cododd y dyrfa o 65,000 o wylwyr ar eu traed i roi cymeradwyaeth i Derek. Efallai nad enillodd Derek Redmond unrhyw fedalau'r diwrnod hwnnw, ond dangosodd ddyfalbarhad enfawr trwy ddal ati i fynd ymlaen, hyd yn oed pan aeth hynny'n wirioneddol anodd.

Dangoswch y fideo YouTube, ‘Derek Redmond’s emotional Olympic story’.

Amser i feddwl

Efallai na fyddwn yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd, ond rydym i gyd yn wynebu sefyllfaoedd lle mae arnom ni angen dyfalbarhad.
Roedd gan ddyn o'r enw Paul, a ysgrifennodd nifer o'r llythyrau yn y Testament Newydd yn y Beibl, nifer o bethau i'w dweud am ddyfalbarhad. Dyma ddim ond dwy enghraifft o’r pethau hyn:

‘Yr wyf yn cyflymu at y nod.’ (Philipiaid 3.14)
Efallai bydd rhai ohonom angen dal ati i ddyfalbarhau nes ein bod wedi cyflawni ein nodau ar gyfer y flwyddyn hon.

‘Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi’r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo.’ (Galatiaid 6.9)
Efallai y bydd arnom ni angen anogaeth i barhau i wneud pethau da a charedig er mwyn eraill, hyd yn oed os nad ydyn nhw bob amser yn ymddangos fel pe bydden nhw’n gwerthfawrogi ein gweithredoedd!

Dywedodd y gwyddonydd enwog, Albert Einstein, un tro, ‘Nid fy mod i mor graff â hynny, dim ond fy mod yn aros gyda phroblemau’n hirach. (It’s not that I’m so smart, it’s just that I stay with problems longer.’)

Oedwch i feddwl am y geiriau hyn.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am esiampl galonogol Derek Redmond.
Helpa ni i ddyfalbarhau ac i ddal ati hyd yn oed pan fydd pethau'n mynd yn anodd.
Helpa ni i fod yno i gefnogi pobl eraill wrth iddyn nhw ddyfalbarhau mewn bywyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon