Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr haf yn yr ardd

Rydyn ni’n byw mewn byd hardd

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cynyddu ein gwerthfawrogiad o erddi a blodau.

Paratoad a Deunyddiau

Fe fydd arnoch chi angen y delweddau canlynol o erddi hardd, a’r modd o ddangos y delweddau hyn yn ystod y gwasanaeth:

- gardd fwthyn, ar gael ar:http://tinyurl.com/j7q3kse
- gardd Seisnig (English garden), ar gael ar:http://tinyurl.com/zr8mcty
- gardd flodau, ar gael ar: https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Flower_garden_in_Ushuaia_(5543010755).jpg
- gardd gefn, ar gael ar: https://healthunlocked.com/blf/posts/132275421/part-of-my-garden-taken-this-morning-in-the-rain

Gwasanaeth

  1. Mae llawer o bobl yn hoff iawn o fis Mai am ei fod yn ddechrau’r haf. Mae’r dyddiau’n ymestyn, mae’r haul yn gwenu, ac mae amser i chwarae allan yn yr awyr agored ar ôl dod o’r ysgol. Yn ystod misoedd cynharach y gwanwyn, fe fydd y garddwyr wedi bod yn brysur yn palu’r pridd, yn tocio’r planhigion ac yn hau hadau. Yn ystod mis Mai, fe fyddwn ni’n gweld rhai o flodau cyntaf yr haf yn ymddangos.

  2. Eglurwch ein bod yn mynd i edrych ar rai delweddau o bedwar math gwahanol o erddi.
    Gofynnwch i’r plant ddychmygu eu bod yn y gerddi hyn, ac yna feddwl am eu hymateb i’r cwestiynau canlynol.

    - Beth ydych chi’n gallu ei weld, ei glywed, a’i arogli?
    - Sut deimlad yw bod yn yr ardd hon?

    Ar ôl edrych ar bob llun yn ei dro, rhowch gyfle am foment neu ddwy i’r plant ddychmygu eu bod yn yr ardd honno, ac yna gwahoddwch rai o’r plant i rannu eu hymateb â gweddill y gynulleidfa.

    Dangoswch y ddelwedd o ardd fwthyn.

    Dyma ardd fwthyn. Mae’n bosib y byddech chi’n canfod gardd fel hon yn perthyn i dy mewn pentref.
    Dychmygwch eich bod yn yr ardd hon.
    Beth ydych chi’n ei hoffi am yr ardd hon?

    Dangoswch y ddelwedd o’r ardd Seisnig.

    Dyma ardd Seisnig (English garden). Mae’n bosib y byddai’n rhaid i chi ymweld â chartref urddasol (stately home) neu gastell i ganfod gardd fel hon.
    Beth ydych chi’n ei hoffi am yr ardd hon?

    Dangoswch y ddelwedd o’r ardd flodau.

    Dyma ardd flodau. Mae’r blodau wedi cael eu plannu yma er mwyn gwneud y defnydd mwyaf o'r amrywiaeth fawr o blanhigion blodeuol yr haf.
    Beth ydych chi’n ei hoffi am yr ardd hon?

    Dangoswch y ddelwedd o’r ardd gefn.

    Dyma ardd gefn. Efallai fod gan rai ohonom ni erddi bach fel hyn yng nghefn ein cartrefi.
    Beth ydych chi’n ei hoffi am yr ardd hon?

    Nawr, gofynnwch i’r plant fwrw pleidlais ar eu hoff ardd o’r pedair a ddangoswyd.

  3. Mae'r Beibl yn dweud wrthym, pan wnaeth Duw ddyn a menyw, fe wnaeth eu rhoi mewn gardd brydferth. Roedd yn gwybod mai gardd yw'r lle gorau er mwyn ymlacio.

    Duw wnaeth yr holl blanhigion hardd a’r blodau. Roedd yn gwybod y byddai Adda ac Efa yn mwynhau'r blodau syth tal a'r blodau bach sy’n gorchuddio’r ddaear; y blodau pinc llachar a'r rhai porffor ac oren. Roedd yn gwybod y byddai’r blodau, gyda'i gilydd, yn gwneud arddangosfa ogoneddus. Roedd yn gwybod y byddai Adda ac Efa yn hoffi persawr y rhosod a’r lafant. Roedd yn gwybod y byddai arnyn nhw angen cysgod y coed mawr, tal pan oedd y tywydd yn heulog iawn. Roedd yn gwybod y byddai Adda ac Efa yn cael ei hudo gan swn ysgafn y gwenyn prysur yn suo. Roedd Duw yn gwybod hefyd y byddai Adda ac Efa’n mwynhau gofalu am yr ardd, yn union fel yr holl arddwyr brwd heddiw.

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r plant gau eu llygaid a dychmygu bod mewn gardd brydferth. Yn y tawelwch, gofynnwch iddyn nhw ddweud diolch wrth Dduw am dri pheth yn yr ardd ddychmygol hon.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am erddi.
Diolch i ti ein bod yn dechrau gweld arwyddion o fywyd yn ein gerddi ar ôl y gaeaf tywyll, oer a gwlyb.
Diolch i ti am yr amrywiaeth o flodau lliwgar yr wyt ti wedi eu creu.
Diolch i ti am arogl hyfryd y rhosod a’r lafant a phys pêr.
Diolch i ti am swn y gwynt ym mrigau’r coed, ac am gân yr adar a swn dwr yn byrlymu.
Diolch i ti am y teimlad o heddwch rydyn ni’n ei fwynhau wrth fod mewn gardd.
Diolch i ti am bawb sy’n gweithio mewn gerddi i’w gwneud yn fannau hardd a hyfryd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon