Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dwylo'n gweddio

Stori Albrecht Dürer

gan By Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Defnyddio’r stori am Albrecht Dürer a'i ddarlun pen-ac-inc enwog, Dwylo’n Gweddïo. (Noder, er bod y stori hon yn cael ei chylchredeg yn eang, nid oes ffynhonnell hollol gredadwy.)

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch i gael copi o ddarlun enwog Albrecht Dürer, Dwylo’n Gweddïo, a'r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth:http://tinyurl.com/jlsqs8b

Gwasanaeth

  1. Roedd Albrecht Dürer yn byw yn Nuremberg tua 500 mlynedd yn ôl. Ef oedd y plentyn hynaf o 18 o blant ac roedd ei dad yn eurych oedd yn gorfod gweithio'n galed i sicrhau bod bwyd ar y bwrdd i fwydo'r teulu. O gyfnod cynnar yn ei fywyd, roedd yn eglur fod gan Albrecht ddawn i arlunio. Yn aml roedd yn helpu yn siop ei dad, yn gweithio i gynhyrchu addurniadau metal cain a thlysau addurnol. Roedd angen gofal mawr a rhoi sylw i fanylder gyda'r gwaith hwn, ac roedd Albrecht yn mwynhau defnyddio'r un manylder yn ei luniau ei hun.

  2. Wrth iddo fynd yn hyn, gwyddai Albrecht mai arlunydd yr hoffai fod. Roedd yn gwybod hefyd, er mwyn gwireddu hyn, y byddai'n rhaid iddo ddysgu oddi wrth arlunwyr mawr ei ddydd. Byddai hyn yn costio’n ddrud, a gwyddai y byddai ei dad yn ei chael hi'n anodd fforddio'r blynyddoedd o hyfforddiant yr oedd ei angen. Roedd problem arall hefyd: roedd ei frawd, Albert, eisiau bod yn arlunydd hefyd, ac nid oedd modd i’w tad fforddio talu am hyfforddiant i’r ddau fab.

  3. Trafododd y ddau fachgen eu gobeithion a'u cynllun yn ddiddiwedd, ond doedden nhw ddim yn gallu gweld unrhyw ffordd y byddai'n bosib iddyn nhw ill dau gael yr hyn yr oedden nhw'n ei ddymuno. Yn y diwedd, fe wnaethon nhw gytundeb a chytuno y byddai'n rhaid i un brawd weithio mewn cloddfa leol er mwyn cefnogi'r llall yn ariannol yn ystod ei hyfforddiant. Yna, unwaith y byddai’r hyfforddiant wedi ei gwblhau, byddai'r  brawd hwnnw yn gwerthu ei beintiadau er mwyn cefnogi'r brawd arall gyda'i hyfforddiant. Cafodd y mater ei setlo trwy daflu ceiniog ac enillodd Albrecht – ef fyddai'r cyntaf i gael ei addysgu gan y meistri.

  4. Treuliodd Albrecht amser yng nghwmni arlunwyr yn yr Almaen a'r Eidal. Datblygodd sgil neilltuol wrth gynhyrchu lluniau wedi eu naddu i mewn i flociau pren y gellid eu defnyddio i wneud printiau, y mae rhai ohonyn nhw'n parhau i gael eu defnyddio 500 mlynedd yn ddiweddarach. Tra roedd Albrecht yn troi ymysg arlunwyr, roedd ei frawd, Albert, yn gweithio yn y cloddfeydd. Roedd hynny'n waith caled a pheryglus, ond daliodd Albert ati yn y gobaith y byddai ef yn cael yr un cyfle ag yr oedd ei frawd yn ei gael. Yn unol â'r cytundeb rhyngddyn nhw, anfonai Albert arian yn rheolaidd i gefnogi Albrecht.

  5. Ymhen amser, cwblhaodd Albrecht ei hyfforddiant a dychwelodd i'r dref lle'r oedd ei gartref. Roedd wedi dod yn arlunydd adnabyddus ac roedd yn gallu ennill cryn symiau o arian o'r gwaith yr oedd y cyfoethogion yn ei gomisiynu i’w wneud. Roedd Albrecht yn awr yn barod i gadw ei ran ef o'r fargen ac, mewn parti teuluol a gafodd ei drefnu i ddathlu'r ffaith ei fod wedi dod yn ei ôl adref, fe gadarnhaodd yr addewid yr oedd wedi ei wneud i'w frawd. ‘Nawr, Albert annwyl, gelli di ymadael â'r gloddfa a chael dy addysgu gan y meistri celf fel y cefais i. Rwyt ti wedi fy nghefnogi i ac yn awr fe fyddaf yn dy gefnogi di. Ni fyddi heb ddim, oherwydd bydd fy enillion yn talu am yr addysgu gorau y gall unrhyw un ei ddymuno, a hynny gan yr arlunwyr gorau yn y byd.’

  6. Edrychodd Albrecht mewn siom ar ei frawd, oedd yn sefyll gyda dagrau yn llifo i lawr ei wyneb. Estynnodd Albert ei ddwylo a siaradodd yn ddistaw. ‘Nid felly, frawd annwyl. Rwy'n falch dy fod wedi dod yn arlunydd ac rwy'n falch fy mod wedi gallu dy helpu, ond edrych ar fy nwylo. Mae gweithio yn y cloddfeydd yn waith caled ac mae pob un o'm bysedd wedi cael eu malurio o leiaf unwaith, mae fy nghymalau'n chwyddedig ac mae gen i arthritis. Rwy'n ei chael hi'n anodd gallu da gwydr yn fy llaw, heb sôn am frwsh paent, felly ni allaf fyth fod yr arlunydd fel yr oeddwn i unwaith wedi dymuno bod.’

  7. Cofleidiodd Albrecht ei frawd: fe sylweddolodd yr aberth yr oedd Albert wedi ei wneud, a rhyfeddodd nad oedd ei frawd yn ddig nac yn chwerw ynghylch yr hyn oedd wedi digwydd. A fyddai ef, meddyliodd, wedi bod yr un mor hael pe byddai'r esgid ar y droed arall?

  8. ‘Wel, felly,’ meddai Albrecht. ‘Efallai na fyddi di'n dod yn arlunydd enwog, ond bydd y dwylo yna sy'n dangos yr aberth a wnest ti drosof yn dod yn enwog, oherwydd fe ddefnyddiaf y sgiliau rwyf wedi eu dysgu i'w gwneud nhw felly.’ A dyna'n union a ddigwyddodd. Tynnodd Albrecht lun o ddwylo'i frawd, a daeth y llun hwn yn enwog iawn.

Amser i feddwl

Awgrymwch, neu gofynnwch i'r plant awgrymu, dywediadau sy'n berthnasol i’r llaw neu ddwylo, ac eglurwch eu hystyr. Er enghraifft, help llaw neu gynnig llaw; cael cildwrn; mae'n llond llaw; yn fyr o ddwylo i gwblhau gwaith; mae sawl llaw gyda'i gilydd yn cwblhau tasg ynghynt nag un; mae aderyn mewn llaw yn werth dau mewn llwyn.

Trafodwch sut mae ystum gyda’r dwylo’n gallu cyfleu ystyron heb eiriau, er enghraifft, begera; stopiwch; dowch yma; draw acw; ffordd acw; dyrnau wedi eu cau mewn dicter; pwyntio er mwyn edrych i fyny ac i lawr.

Nodwch mai cariad yw'r prif gymhelliant i aberth. Helpwch y plant i feddwl am yr aberthau sy'n cael eu cyflawni er mwyn cariad mawr. Er enghraifft, y fam sy'n mynd hen fwyd ei hunan a fydd yn rhoi ei chyfran o fwyd i'w phlentyn sydd eisiau bwyd; y meddyg a fydd yn ymadael â phractis llwyddiannus i weithio dramor mewn gwlad sy'n datblygu; y tad a fydd yn deifio i mewn i ferw môr tymhestlog er mwyn achub ei blentyn; aberth aelodau'r lluoedd arfog sy'n marw er mwyn y cariad sydd ganddyn nhw dros eu gwlad; ac aberth eithaf Iesu, y mae Cristnogion yn credu iddo roi ei fywyd am ei fod yn caru'r byd.

Gofynnwch y cwestiynau canlynol, gan roi moment o saib ar ôl pob un er mwyn rhoi cyfle i bob un feddwl am eu hymateb eu hunain.

- Ym mha ffordd y byddwn yn defnyddio ein dwylo heddiw?
- A fyddan nhw'n codi rhywun i fyny, neu'n bwrw rhywun i lawr?
- A fyddan nhw'n gyrru rhywun ymaith, neu'n dwyn rhywun yn nes?
- A fyddan nhw'n cymryd yr hyn sydd ddim yn eiddo iddyn nhw, neu'n rhannu'r hyn sydd ganddyn nhw?
- A fyddan nhw'n ddwylo wedi eu cau mewn dicter, neu wedi eu hagor mewn heddwch?

Gall ein dwylo, fel ein geiriau, frifo neu helpu rhywun. Gadewch i ni geisio eu defnyddio mewn ffordd dda heddiw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Fe ddefnyddiodd Iesu ei ddwylo i helpu’r bobl sâl ac anghenus, ac yn y pen draw fe estynnodd ei freichiau ar led mewn cariad drosom i gyd pan fu farw ar y groes.
Helpa ni heddiw i ddefnyddio ein dwylo er mwyn helpu, i annog ac i gefnogi pobl eraill, ac i ddangos iddyn nhw ein bod yn ofalgar tuag atyn nhw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon