Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ydych ch'n adeiladu'n dda

Y gêm Minecraft, ac adeiladu

gan Kirstine Davis

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Defnyddio’r gêm fideo,Minecraft, er mwyn ystyried dameg yr adeiladydd doeth a’r adeiladydd ffôl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen darllenydd i ddarllen y rhan o’r Beibl: Mathew 7.24-27.
  • Cyn y gwasanaeth, trefnwch fod plentyn sy'n mwynhau chwarae Minecraft yn fodlon dod atoch chi i drafod y gêm gyda chi yn ystod y gwasanaeth. Os ydych chi’n anghyfarwydd â'r gêm hon, efallai yr hoffech i gael golwg ar wefan Minecraft ar https://minecraft.net/. Cofiwch fod gwahanol fodda’n perthyn i’r gêm Minecraft a bod rhai ohonyn nhw’n anaddas i blant ifanc. Nodir bod iddi ystod o statws addasrwydd o ran oedran (age-suitability ratings).

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant: pwy sy’n hoffi chwarae’r gêm Minecraft?

    Gwahoddwch rywun i'r tu blaen atoch chi i'ch helpu wrth i chi drafod y gêm Minecraft. Gwneud y pwynt bod gwahanol foddau i’w defnyddio wrth i chi chwarae’r gêm: mae’r modd Creadigol (Creative mode) yn debyg i ymarferiad rhithwir o adeiladu gyda blociau, ond fe all moddau eraill (Goroesi - Survival ac Antur - Adventure), lle mae'n rhaid i chi gymryd lloches i ddianc rhag angenfilod rhithwir, fod yn frawychus i blant ifanc. Byddwch yn ymwybodol fod yna ystod o statws addasrwydd o ran oedran.

  2. Eglurwch y gallwch chi, yn y modd Creadigol, benderfynu ble i roi eich adeilad, pa fath o flociau rydych am eu defnyddio i'w adeiladu, o ba ddeunyddiau y bydd y blociau wedi cael eu gwneud, ac ati. Mae Minecraft yn eich galluogi i ddefnyddio eich dychymyg er mwyn creu tirluniau ac adeiladau diddiwedd. Mae dros 100 o wahanol fathau o flociau yn y gêm Minecraft, gan gynnwys blociau iâ, blociau gwydr a cherrig cobls.

  3. Soniwch wrth y plant fod stori yn y Beibl sy’n ymwneud ag adeiladu. Eglurwch fod Iesu, ambell dro, yn adrodd storïau oedd ag ystyr arbennig iddyn nhw, neu neges arbennig – mae’r storïau hyn yn cael eu galw’n ddamhegion.

  4. Gofynnwch i’r darllenydd ddarllen y rhan o Efengyl Mathew 7.24–27.

  5. Adolygwch y stori fel a ganlyn.
    Fe adroddodd Iesu’r stori hon a oedd yn sôn am ddau ddyn. Fe wnaeth un ohonyn nhw adeiladu ei dy ar y graig. Ni fyddai wedi bod yn hawdd iddo gloddio’r graig er mwyn iddo gael llawr y ty yn wastad. Fodd bynnag, roedd ei waith caled yn werth chweil oherwydd yn y stori, pan chwythodd y gwynt cryf, wnaeth y ty ddim cwympo. Go dda! Doedd y dyn arall ddim yn un mor dda am weithio mor galed – fe adeiladodd ef ei dy ar y tywod. Dychmygwch eich hunan yn cloddio yn y tywod ar y traeth. Fe fyddai ty y dyn hwn wedi bod yn llawer haws i’w adeiladu! Fodd bynnag, pan ddaeth y glaw a'r gwynt, fe gwympodd ei dy ef. Dyna beth oedd trychineb!

  6. Mae'r un math o beth yn digwydd os ydych chi’n adeiladu ty amhriodol yn y gêm Minecraft. Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio blociau iâ yn hytrach na blociau gwydr i adeiladu eich ffenestri, fe fyddan nhw’n toddi yn y pen draw. Fel arall, efallai y byddwch yn adeiladu ty na fyddai'n eich diogelu rhag anghenfil yn y modd Goroesi (Survival).

  7. Pan fyddwch chi’n chwarae Minecraft, mae angen i chi ddewis y blociau cywir i adeiladu â nhw, a'r lle cywir ar gyfer eich adeilad. Dyna beth roedd Iesu’n ei bwysleisio yn y stori hon. Ar ôl iddo orffen y stori, mae Iesu'n dweud, ‘Pob un felly sy’n gwrando ar y geiriau hyn o’r eiddof ac yn eu gwneud, fe’i cyffelybir i un call, a adeiladodd ei dy ar y graig.’ Mae Cristnogion yn credu bod y Beibl yn eu cynghori ar y ffordd y dylai pawb fyw eu bywydau. Maen nhw’n credu bod byw yn y modd hwn yn creu sylfaen dda y gallan nhw adeiladu eu bywyd arni. Mae'r Beibl yn ein hannog i fod yn garedig a chariadus, i fod yn ofalgar tuag at bobl, ac i sefyll dros yr hyn sy'n iawn. Mae hefyd yn ein hannog i wneud dewisiadau da sy'n cymryd anghenion pobl eraill i ystyriaeth.

  8. Trwy wneud dewisiadau da, rydym yn adeiladu sylfeini cadarn er mwyn seilio gweddill ein bywydau arnyn nhw. Y tro nesaf y byddwch yn chwarae Minecraft, neu’n chwarae gyda Lego neu unrhyw flociau adeiladu eraill, meddyliwch am bwysigrwydd adeiladu pethau da, cryf yn eich bywyd.

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i wneud dewisiadau da yn ein bywyd.
Helpa ni i feddwl am bobl eraill, ac i ystyried eu hanghenion.
Helpa ni i fod yn gryf a chariadus.
Helpa ni i fod yn garedig, ac i fod yn barod i helpu pobl sydd angen ein help.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon