Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Heddwch a'i symbolan

Ystyr heddwch

gan Hilary Karen

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried ystyr y gair 'heddwch' a'r symbolau sy'n ei gynrychioli.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi ddewis o ddelweddau fel a ganlyn o'r symbolau ar gyfer heddwch (gwiriwch yr hawlfraint) a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:
- colomen, ar gael ar: http://tinyurl.com/jc2qn8j
- brigyn olewydden, ar gael ar:  http://tinyurl.com/hxzg76t
- CND, ar gael ar: http://tinyurl.com/zngukoa
- arwydd llaw buddugoliaeth (victory hand), ar gael ar: http://tinyurl.com/z54cd8h

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant feddwl am achlysur pan wnaethon nhw ddadlau â rhywun a'i chael hi'n anodd cymodi. Gofynnwch i rai o'r plant i rannu rhai o'r profiadau hyn.

    Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion y plant.

  2. Gofynnwch a oes unrhyw un yn gwybod am wrthdrawiadau neu ryfeloedd sy'n digwydd unrhyw le yn y byd. Eglurwch, gwaetha'r modd, bod gwrthdrawiadau yn digwydd yn barhaol wrth i fodau dynol yn ymdrechu i gyd-fyw yn y byd. (Sylwch: Mae angen teilwra'r swm o fanylion sy'n cael eu trafod ar y pwynt hwn yn unol ag oed a phrofiad y disgyblion.)

  3. Eglurwch pan fydd dadl yn digwydd, boed rhwng dau unigolyn neu rhwng dwy genedl, mae'r sefyllfa’n dal i fod yn wrthdrawiad. Mae cael gwrthdrawiadau yn gyfystyr â bod yn ddynol. Pe na fyddai gennym wahaniaeth barn, ni fyddem byth yn gweld unrhyw beth mewn gwedd newydd neu'n gallu newid safbwynt y byddem efallai wedi bod ei ddal a hwnnw’n anghywir. Fodd bynnag, yr hyn sy'n holl bwysig yw'r ffordd y byddwn yn delio â gwrthdrawiad. Pe byddai gwrthdrawiad rhwng grwpiau mawr o bobl yn mynd dros ben llestri, mae’n bosib iddyn nhw dyfu'n fwy ac yn fwy nes eu bod yn datblygu'n rhyfeloedd. Mae'r ffordd yr ydym yn delio â gwrthdrawiad yn rhoi'r gallu i bobl sydd â safbwyntiau gwahanol gydweithio'n heddychlon er gwell.

  4. Rhannwch y disgrifiadau canlynol am heddwch:
    - rhyddid oddi wrth ryfel
    - rhyddid oddi wrth anghydfod
    - rhyddid oddi wrth ofid a phryder
    - tawelwch meddwl
    - tawelwch, distawrwydd, llonyddwch

  5. Dros y blynyddoedd, cafodd amryw symbolau eu llunio i gynrychioli ‘heddwch’. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw'n gwybod am unrhyw un o'r symbolau hyn.

    Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion y plant.

  6. Dangoswch y symbolau canlynol un ar y tro, ac eglurwch o ba le y mae'r symbolau'n tarddu.

    Y golomen a’r brigyn olewydden. Mae'r ddau symbol heddwch hyn yn tarddu o’r Beibl, o stori Noa. Ar ôl i'r glaw beidio, anfonodd Noa golomen i chwilio am arwydd bod y dilyw drosodd. Daeth y golomen yn ei hôl gyda brigyn o'r goeden olewydden, ac roedd hynny’n golygu nad oedd y dwr bellach yn gorchuddio'r ddaear, felly fe fyddai peth tir sych i fyw arno. (Genesis 8.11).

    Arwydd CND.Cafodd y symbol hwn ei lunio gan arlunydd ar ran yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND). Mae ei chyfundrefn wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn datblygu arfau niwclear ers blynyddoedd olaf y 1950au. Roedd llawer o bobl yn credu bod arfau niwclear, a'r profion sy'n gysylltiedig â nhw, mor beryglus fel eu bod wedi ceisio atal eu datblygiad. Mae'r arwydd CND yn arwydd sydd ymhlith arwyddion heddwch mwyaf adnabyddus yr oes hon.

    Arwydd llaw buddugoliaeth. Mae haneswyr yn credu bod yr arwydd o bosib wedi cael ei ddefnyddio gan enillwyr y rasys cerbydau rhyfel yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Fe ddaeth y llaw fuddugoliaethus yn symbol o heddwch, yn arbennig yn ystod yr Ail Ryfel y Byd. Mewn ychydig iawn o ddiwylliannau y mae'n cael ei ddefnyddio.

  7. Gofynnwch i'r plant beth sy'n mynd trwy eu meddwl pan maen nhw'n clywed y gair ‘heddwch’. Efallai bod modd iddyn nhw lunio symbol ar gyfer dosbarth neu faes chwarae heddychol.

  8. Yn y Beibl, yn Efengyl Mathew 5.6-8, mae’n dweud bod pobl sy’n gweithio dros heddwch yn bobl hapus. Yn Efengyl Ioan 15.11-12, mae Iesu’n dweud y byddwn ni’n hapus os byddwn ni’n ofalgar tuag at bobl eraill.
    Mae'r rhan fwyaf o grefyddau'r byd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd heddwch yn y byd.

Amser i feddwl

Sut gallech chi gyfrannu at heddwch yn y byd? Efallai y gallech chi roi cynnig ar wrando’n fwy astud pan fydd gan rywun farn wahanol i'ch safbwynt chi. Efallai y gallech chi gerdded i ffwrdd os ydych yn teimlo'n ddig gyda rhywun yn hytrach nag ateb yn ôl. Mae llawer o bethau bach y gallwn ni eu gwneud i gyfrannu at heddwch yn y byd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am roi’r gallu i ni wneud i eraill deimlo’n well.
Helpa ni i rannu ein bywyd gyda’n gilydd mewn heddwch.
Helpa ni i garu ac i ofalu am y rhai hynny sydd ein hangen ni.
Helpa ni i ofalu am aelodau ein teulu ac am ein ffrindiau.
A helpa ni i wneud ein rhan i annog heddwch yn y byd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon