Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth yw eich enw?

gan Revd Sophie Jelley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio arwyddocâd enwau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen llyfr o enwau babanod, a rhai llyfrau o’r gyfres Mr MenneuLittle Miss.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen darllenydd i ddarllen yr adnod o’r Beibl, Matthew 1:21.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant beth yw eich enw llawn chi, os yn briodol, neu dim ond yr enw y maen nhw’n eich adnabod chi wrtho os yw'n well gennych chi. Dywedwch wrthyn nhw beth mae eich enw yn ei olygu, ac unrhyw beth arall sy’n arbennig amdano. Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael eich enwi ar ôl aelod arall o'r teulu, efallai fod eich enw yn dod o wlad arall, neu efallai eich bod wedi cael eich enwi ar ôl y man lle cawsoch eich geni. Os ydych chi wedi newid eich enw oherwydd eich bod wedi priodi, fe allech chi siarad am hynny – neu siarad am beth bynnag a fydd yn helpu i gyflwyno'r pwnc dan sylw heddiw, sef enwau, a sut maen nhw’n arbennig i ni.

  2. Nodwch fod ein henwau yn aml yn golygu rhywbeth. Gall rhieni fod wedi dewis enw oherwydd ei fod yn rhywbeth sy'n eu hatgoffa o ddigwyddiad neu adeg o'r flwyddyn, er enghraifft, Eirlys, Dewi, Mai, Hefin. Dangoswch y llyfr enwau babanod i'r plant, a darllenwch ychydig o’r enwau, ynghyd â'u hystyron.

  3. Holwch y plant am eu henwau nhw. Oes gan rywun enw canol? Oes gan rywun fwy na thri enw? Ceisiwch gynnwys amrywiaeth o enwau o wahanol wledydd a diwylliannau eraill, gan adlewyrchu’r amrywiaeth sydd o fewn yr ysgol. Mae enwau’n arbennig, ac fe ddylem fod yn ofalus ynghylch sut rydyn ni’n eu defnyddio. Rhaid i ni beidio â bod yn angharedig ynghylch enwau, na gwneud hwyl am ben enwau pobl eraill, na rhoi llysenwau cas i bobl.

  4. Dangoswch y llyfrau Mr Meni’r plant a sgwrsio’n frwdfrydig amdanyn nhw – mae eu henwau’n arbennig oherwydd eu bod yn dweud wrthym ni pa fath o gymeriadau ydyn nhw. Er enghraifft, fe allech chi ofyn, 'Pam y mae’r cymeriad yma’n cael ei alw’n Mr Jelly?' a cheisiwch gael yr ateb mai oherwydd ei fod ofn popeth ac yn crynu’n ofnus bob amser.

  5. Dangoswch y Beibl a dweud ei fod yn llawn o enwau. Fe allech chi ddarllen rhai doniol, neu rai sy’n anodd eu hynganu, fel er enghraifft Abel-beth-maacha (1 Brenhinoedd 15:20), Merodach-baladan (2 Brenhinoedd 20:12) and Maher-shalal-hash-bas (Eseia 8:1).

  6. Eglurwch fod, yn achos Cristnogion, un enw sydd yn fwy arbennig nag unrhyw enw arall. Pan gafodd y baban arbennig hwnnw ei eni, doedd dim llyfrau enwau babanod, fel y rhai sydd gennym ni heddiw, i’w cael. Fodd bynnag, roedd mam y baban, sef Mair, yn gwybod yn union beth y dylai hi alw ei baban am fod Duw wedi dweud wrth Joseff, ei gwr, pa enw i'w roi arno.

    Gofynnwch i’r darllenydd ddarllen o Efengyl Mathew 1:21.

    Cafodd y baban ei alw’n Iesu, sy'n golygu 'Gwaredwr', neu 'bydd Duw’n gwared ei bobl oddi wrth eu pechodau'. Mae Cristnogion yn credu bod yr enw Iesu yn arbennig oherwydd eu bod yn credu fod Iesu yn ein helpu ac yn ein galluogi i gymodi â Duw.

Amser i feddwl

Caewch eich llygaid a meddwl am eiliad am eich enw eich hun.
Dywedwch eich enw yn dawel yn eich pen.
A oes ganddo ystyr arbennig?
A ydych wedi cael eich enwi ar ôl rhywun yn eich teulu?
A oes gan aelodau eich teulu a'ch ffrindiau fersiwn fyrrach o’ch enw y maen nhw’n hoffi ei ddefnyddio i’ch galw chi?

Yn dawel yn eich pen eto, enwch dri o bobl sy’n arbennig yn eich golwg - efallai aelodau o'ch teulu neu eich ffrindiau.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am dy enw arbennig di.
Diolch ei fod yn ein hatgoffa dy fod ti wedi dod i'n helpu ni.
Diolch am ein henwau a gafodd eu dewis yn arbennig i ni.
Diolch i ti fod pob un ohonom yn unigryw ac yn arbennig.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon