Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr adar yn canu

Dechrau dod i adnabod ein gilydd

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dysgu y gallwn ni werthfawrogi ein gilydd heb ddeall yn llawn ein ffordd wahanol o fyw neu ein gwahanol ddiwylliannau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi rai recordiadau o adar yn canu, a'r modd o’u chwarae yn ystod y gwasanaeth. Mae recordiadau amrywiol o adar yn canu ar gael ar y wefan:http://sounds.bl.uk/environment/british-wildlife-recordings
  • Bydd arnoch chi hefyd angen rhywfaint o ddelweddau priodol i gyd-fynd â seiniau’r adar yn canu.

Gwasanaeth

  1. Wrth i chi ddylyfu gên (yawn), ymestyn, a rhwbio eich llygaid, eglurwch i’r plant eich bod wedi cael eich deffro’n gynnar iawn bore heddiw. Gofynnwch i’r plant am awgrymiadau ynghylch beth tybed allai fod wedi eich deffro mor gynnar.

    Gwrandewch ar amrywiaeth o atebion.

  2. Gwrandewch ar recordiad o gân nifer o wahanol adar neu, os ydych chi mewn ardal briodol a’r tywydd yn ffafriol, agorwch y ffenestri i wrando ar gân yr adar (Pe byddech chi’n wirioneddol lwcus, efallai y gallech chi gynnal y gwasanaeth hwn yn yr awyr agored mewn lleoliad lle gallech chi wrando ar seiniau’n adar a byd natur!)

  3. Eglurwch, er y byddech chi wedi hoffi cael cysgu mwy, bod clywed cân yr adar yn ffordd hyfryd o gael eich deffro.
    Holwch y plant ydyn nhw’n gallu meddwl am beth tybed yr oedd yr adar yn canu.

    Gwrandewch ar amrywiaeth o atebion.

  4. Smaliwch eich bod yn meddwl eich bod yn deall yr hyn yr oedd yr adar yn ei ddweud! Awgrymwch eu bod yn dweud rhywbeth tebyg i’r canlynol, efallai.

    Dwi newydd fwyta mwydyn mawr,
    Do yn wir, do yn wir.

    Hwn yw’r polyn lamp gorau yn y dref gorau un.

    Wel, beth fydd yn digwydd, beth fydd yn digwydd,
    beth fydd yn digwydd heddiw?

    Codwch bawb, codwch bawb, bob unigolyn,
    A gwrandewch arna i’n canu ar ben y polyn.

    Yr aderyn cynnar sy’n dal y mwydyn,
    Rhaid bod yno’n gyntaf, a’i ddal yn sydyn!

  5. Pwysleisiwch nad ydych chi mewn gwirionedd yn gallu dehongli beth yw ystyr y gân y mae’r aderyn yn ei chanu, oherwydd nad ydych chi’n aderyn. Mae gwyddonwyr yn dweud wrthym fod adar yn defnyddio’u cân i anfon negeseuon i’r adar eraill ambell dro ynghylch peryglon sy’n agos (fel cath neu anifail arall), neu er mwyn nodi eu tiriogaeth, neu i ddenu cymar.
    Eglurwch, er nad ydyn ni’n deall 'iaith yr adar', fe allwn ni werthfawrogi'r hyn y mae'n ei ychwanegu at ein diwrnod. Cân yr adar yw un o'r arwyddion cyntaf y gwanwyn, mae’n rhywbeth na fyddwn yn ei glywed yn aml yn ystod misoedd tywyll ac oer y gaeaf. Mae'n sain hapus.

  6. Soniwch wrth eich cynulleidfa ein bod yn aml yn cwrdd â phobl o wahanol wledydd a gwahanol ddiwylliannau. Mae rhai o’r bobl hynny wedi bod yn byw yn y wlad hon am gyfnod byr yn unig, ac mae eraill wedi cael eu geni yma. Efallai nad ydym bob amser yn deall ein gilydd gan ein bod yn siarad gwahanol ieithoedd, ac mae gennym arferion a chefndiroedd gwahanol. Fodd bynnag, nid oes angen i ni wybod popeth am rywun er mwyn gallu gwerthfawrogi eu cael fel ffrind i ni. Fel cân yr adar, nad ydym yn ei deall, fe allwn ni i gyd ychwanegu amrywiaeth a llawenydd i fywydau’r naill a’r llall yn ein cymuned.

Amser i feddwl

Mae cân yr adar bob amser yn swnio mor siriol, fel pe byddai’r adar mor hapus o gael bod yn fyw ar y diwrnod newydd hwnnw.

Beth ydych chi'n hapus ac yn ddiolchgar amdano heddiw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi ein gwneud ni i gyd yn wahanol i’n gilydd.
Diolch dy fod ti wedi ein gosod mewn gwahanol deuluoedd a gwahanol grwpiau.
Diolch am yr holl wahanol bobl o wahanol wledydd y byd sy’n byw yma, yn ein gwlad ni, ym Mhrydain.
Diolch ein bod ni i gyd yn arbennig ac yn gallu cyfoethogi bywydau ein gilydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon