Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyliau i bawb!

Maer pob aelod o’r teulu’n haeddu cael gwyliau

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y gallwn helpu i roi gwyliau i'r rheini sy'n gofalu amdanom ni hefyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r llyfr,Mrs Lather’s Laundrygan Allan Ahlberg, un o’r gyfres Happy Families wedi ei gyhoeddi gan Ladybird.
  • Bydd arnoch chi angen hefyd trefnu o flaen llaw i aelod o staff siarad am y tasgau y mae angen iddo ef neu hi eu cwblhau yn ystod y gwyliau.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i rai plant rannu â chi beth yw eu cynlluniau ar gyfer gwyliau'r haf. Yna, gofynnwch yr un cwestiwn i’r aelod o staff, a ddylai fod yn barod i ateb gyda rhestr o dasgau yn y cartref. Gwnewch sylw nad yw hyn yn swnio fel llawer o wyliau!

  2. Eglurwch eich bod chi’n mynd i ddarllen stori i’r plant am deulu oedd yn berchen ar fusnes golchi dillad. Gwiriwch fod y plant yn gwybod beth sy’n digwydd mewn golchdy.

    Roedd rhywun yn y teulu hwn angen gwyliau o ddifrif. Gofynnwch i’r plant wrando’n astud a meddwl at ba aelod o’r teulu rydyn ni’n cyfeirio. Darllenwch y stori a’i mwynhau. Fe allech ei hadrodd yn eich geiriau eich hun yn Gymraeg a dangos y lluniau.

  3. Gofynnwch y cwestiynau canlynol sy’n codi o’r stori.

    - Pa fath o bethau yr oedd Mrs Lather yn eu golchi ar ddechrau’r stori?
    - Sut roedd Mrs Lather yn teimlo ynghylch golchi’r holl hosanau a festiau a throwsusau a chrysau a ffrogiau a llieiniau bwrdd a hancesi?
    - Sut rydyn ni’n gwybod fod Mr Lather yn amlach yn fwy o drafferth nag o help?
    - Sut rydyn ni’n gwybod fod y plant yn ychwanegu at drafferthion Mrs Lather, o bosib?
    - Rydyn ni’n clywed fod Mrs Lather yn mwynhau golchi’r babi cyntaf. Pam rydych chi’n meddwl ei bod hi wedi blino golchi babanod erbyn diwedd y diwrnod?
    - Pwy oedd yn golchi’r cwn? Pwy oedd wedi blino golchi’r cwn erbyn diwedd y diwrnod?
    - Pam roedd dydd Sadwrn y diwrnod gwaethaf un i Mrs Lather?
    - Pam roedd dydd Sul yn ddiwrnod da? Beth ydych chi’n ei feddwl oedd Mrs Lather yn ei wneud ar y dydd Sul?
    -Sut rydych chi’n gwybod fod Mrs Lather yn teimlo’n hapus ar fore Llun? Beth ydych chi’n ei feddwl oedd yn cyfrif am hyn?
    - Beth oedd Mrs Latherddim yn ei wybod wrth iddi wneud y brecwast y bore hwnnw? Ydych chi’n meddwl fod y dydd Llun hwnnw’n mynd i fod yn hwyl, neu a fydd Mrs Lather yn mynd yn benwan eto?

    Efallai, yn ystod y gwyliau ysgol hir, na fydd yno gymaint o waith golchi yn eich basged ddillad golchi chi ag a oedd ym masged Mrs Lather. Ond bydd rhywfaint o waith golchi a smwddio i'w wneud, gwelyau i'w tacluso, gwaith siopa i’w wneud, a phrydau bwyd i'w paratoi. Ni fydd pawb ar ei wyliau yn eich cartref chi.

  4. Gallai'r plant yn y stori fod wedi meddwl ei fod yn beth doniol bod eu mam yn mynd yn benwan gyda'r holl waith golchi. Roedden nhw’n sicr ar ei ffordd. Ond maen nhw’n dysgu’n fuan fod yn rhaid iddyn nhw hefyd helpu gyda'r gwaith!

  5. Rydyn ni am i bawb yn ein teulu allu rhannu'r dyddiau hyfryd, cynnes o haf a gallu mynd allan o'r ty a mwynhau rhywfaint o amser gwyliau. Gadewch i ni i gyd geisio helpu yn ystod yr haf fel y gall pawb fod yn siriol, fel roedd Mrs Lather ar y bore dydd Llun. . .  hynny yw, cyn iddi weld y chwe eliffant!

Amser i feddwl

A yw eich mam, eich tad, neu eich gofalwr yn dweud weithiau, ‘O rydw i wedi blino ar y gwaith golchi llestri/ clirio’r llanast/ codi’ch bagiau ysgol oddi ar y llawr’?
Ydyn nhw weithiau’n mynd yn benwan, fel Mrs Lather, am fod ganddyn nhw ormod o waith, a’u bod o ddifrif wedi blino?
Beth allech chi ei wneud i helpu? Meddyliwch am un peth y gallech chi ei wneud bob dydd, ond peidiwch â dweud wrthyn nhw eich bod yn mynd i wneud hynny.
Yna, gwyliwch a fydd hynny’n gwneud gwahaniaeth ac yn helpu eich mam, eich tad, neu eich gofalwr i gael ychydig o wyliau hefyd!

Gweddi
Annwyl Dduw,

Rydym yn diolch i ti ei bod yn amser gwyliau ac mae gennym wythnosau o hwyl o'n blaen.
Diolch i ti y byddwn ni’n gallu mynd allan i’r awyr agored ac yn gallu chwarae gemau yn yr heulwen haf hyfryd.
Diolch i ti y byddwn ni’n gallu aros i fyny yn hwyr, ac efallai cysgu’n hwyr yn y bore hefyd.
Diolch i ti y gallwn ni hyd yn oed fod yn mynd ar wyliau hefyd, efallai.
Rydym yn diolch i ti am bawb sy'n gofalu amdanom ni.
Diolch i ti am yr holl waith caled maen nhw'n ei wneud wrth ofalu amdanom ni.
Helpa ni i fod yn feddylgar ac yn werthfawrogol ohonyn nhw yn ystod y gwyliau.
Helpa ni i roi cynnig, lle gallwn ni, i roi seibiant iddyn nhw hefyd oddi wrth eu gwaith o ddydd i ddydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon