Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ddim yr un fath, ond yn wahanol

Mae bod yn wahanol yn rhywbeth gwych

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried amrywiaeth a gwerthfawrogi gwahaniaethau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhai blodau o wahanol fath a gwahanol liwiau.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen lluniau o amrywiaeth o anifeiliaid, a rhestr o enwau anifeiliaid y byddai rhai o’r plant yn gallu eu dynwared er mwyn i weddill y gynulleidfa geisio dyfalu pa anifeiliaid maen nhw’n eu dynwared.
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi drefnu bod gennych chi fodd o gofnodi atebion y plant yng Ngham 1 y Gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant i enwi cymaint o wahanol fathau o flodau ag y gallan nhw. Os dymunwch, fe allwch chi helpu'r plant gyda rhyw ddull o gofnodi enwau’r blodau y maen nhw’n eu henwi.
    Gofynnwch i'r plant ddisgrifio rhai o'r blodau ar y rhestr.

    - Pa liw ydyn nhw?
    - A oes ganddyn nhw arogl persawrus?
    - Pa amser o'r flwyddyn maen nhw'n tyfu?

  2. Dangoswch i'r plant y blodau yr ydych chi wedi dod â nhw gyda chi. Gofynnwch iddyn nhw enwi'r blodau hyn, a gofynnwch i rai o'r plant ddod atoch chi i'r tu nlaen i ddisgrifio nodweddion y blodau.

  3. Dangoswch luniau'r anifeiliaid i'r plant a gofynnwch iddyn nhw ddisgrifio'r gwahaniaethau rhwng yr anifeiliaid.
    Neu, fe allech chi ddangos enw anifail ar ddarn o bapur i blant unigol a gofynnwch iddyn nhw actio'r anifail hwnnw o flaen gweddill y plant a'u hannog i ddyfalu pa anifail mae’r plentyn yn ei actio.

  4. Eglurwch fod Cristnogion yn credu, pan greodd Duw'r byd, nad dim ond un math o flodyn neu anifail gafodd ei greu ganddo. Wnaeth o ddim gwneud pob planhigyn yr un arlliw o wyrdd, na rhoi pedair coes i bob anifail gerdded arnyn nhw. Fe greodd fyd yn llawn lliw ac yn llawn amrywiaeth. Byd yn llawn o ddiddordeb, lle mae cymaint mwy bob amser o bethau i'w canfod a'u mwynhau!

  5. Eglurwch wrth y plant, yn union fel y mae Duw yn caru'r amrywiaeth mewn natur, mae o hefyd yn caru'r amrywiaeth ynom ni. Wnaeth o ddim creu ein ni yn union yr un fath â'n gilydd, a does ar Dduw ddim eisiau i bob un ohonom fod yr un fath â'n gilydd.
    Cymhellwch y plant i sylweddoli a derbyn ei bod hi'n beth hollol ryfeddol i fod yn wahanol i bobl eraill.

Amser i feddwl

Yn y tawelwch,  arhoswch am foment a meddyliwch amdanoch eich hun. A oes yna unrhyw beth amdanoch chi sy'n eich gwneud chi yn wahanol i bobl eraill? Beth ydych chi'n mwynhau ei wneud orau? Pa bethau ydych chi'n rhagori ynddyn nhw? Treuliwch foment i sylweddoli eich bod yn arbennig iawn yn union fel yr ydych chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti fy mod yn arbennig.
Diolch i ti fod ein byd yn llawn amrywiaeth.
Diolch i ti am flodau hardd ac am anifeiliaid sydd mor wahanol i'w gilydd.
Os gweli di'n dda, helpa ni i sylweddoli nad oes raid i ni fod yr yn fath â phobl eraill, ond gallwn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni pwy ydyn ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon