Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nid aur yw popeth melyn

Mae ein hagwedd tuag at ein heiddo yn cyfrif

gan Hilary Karen

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i werthfawrogi beth sydd o werth gwirioneddol mewn bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bocs sydd wedi ei lapio’n ddeniadol ac sy'n cynnwys rhywbeth sydd â gwerth sentimental i chi, ond sydd â dim ond ychydig o werth ariannol iddo. Er enghraifft, llun eich teulu, tegan o gyfnod eich plentyndod, rhywbeth a wnaethoch chi pan oeddech chi’n blentyn, neu lyfr sy’n hen a gwerthfawr yn eich golwg chi.
  • Fe fydd arnoch chi angen arddangos y ddihareb, ‘Nid aur yw popeth melyn’ i’w defnyddio yn ystod y gwasanaeth, ac efallai y gallech chi arddangos y dywediad Saesneg hefyd ochr yn ochr â hi, os dymunwch, ‘All that glitters is not gold’.
  • Efallai hefyd y byddwch yn dymuno defnyddio’r adnod ganlynol o’r Beibl (Luc 12.15):‘A dywedodd wrthynt, "Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau."’

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant beth yw’r peth mwyaf gwerthfawr y maen nhw wedi ei weld erioed.

    Gwrandewch ar amrywiaeth o’u hatebion.

    Gofynnwch i’r plant feddwl am y peth mwyaf gwerthfawr sydd ganddyn nhw yn eu cartref, a chadw’r peth hwnnw mewn cof yn ystod y gwasanaeth.

  2. Eglurwch eich bod yn mynd i ddangos rhywbeth iddyn nhw sy’n werthfawr iawn yn eich golwg chi, ac rydych wedi dod â’r peth hwn o’ch cartref. Dangoswch y bocs i’r plant, gan wneud ymdrech fawr i’w drin a’i drafod â pharch a gofal mawr. Efallai yr hoffech chi ei osod ar y bwrdd ar liain neu ddarn o ddefnydd fel petai’n werthfawr iawn. Eglurwch fod y bocs, yn eich barn chi, yn cynnwys un o’r pethau mwyaf gwerthfawr rydych chi’n berchen arno. Dywedwch wrth y plant ble rydych chi’n cadw’r bocs er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel, a sôn pa mor aml y byddwch chi’n tynnu’r peth sydd yn y bocs allan er mwyn edrych arno. Gofynnwch i’r plant ddyfalu beth sydd yn y bocs.

  3. Yn araf, agorwch y bocs a dangos i’r plant beth sydd y tu mewn iddo. Eglurwch pam y mae’r peth hwn, sy’n cael ei gadw yn y bocs, yn bwysig iawn yn eich golwg chi.

  4. Dangoswch ar y sgrin y ddihareb, ‘Nid aur yw popeth melyn’, ac os byddwch yn dymuno gwneud hynny fe allech chi ddangos y dywediad Saesneg hefyd, ochr yn ochr â’r ddihareb Gymraeg, sef ‘All that glitters is not gold’. Soniwch fod y ddihareb Gymraeg, a’r dywediad Saesneg hefyd, yn hen iawn. Defnyddiwyd y geiriau Saesneg yn gyntaf gan Geoffrey Chaucer, bardd Seisnig enwog a gafodd ei eni yn y flwyddyn 1343. Ond y bardd a’r dramodydd enwog, William Shakespeare, wnaeth roi i ni’r fersiwn Saesneg rydyn ni’n gyfarwydd â hi heddiw. Yn wreiddiol fe ysgrifennodd Shakespeare,‘All thatglistersis not gold’,ond mae’r gair ‘glisters’ wedi newid, dros amser, i ‘glitters’.

  5. Eglurwch fod y gwrthrych sydd gennych chi yn y bocs yn fwy gwerthfawr i chi na thlysau aur neu arian, am ei fod yn dod â chymaint o bleser i chi pan fyddwch chi’n edrych arno. Mae’r atgofion sy’n gysylltiedig â’r peth yn rhywbeth nad oes modd i unrhyw beth arall gymryd eu lle. Er bod y peth yn edrych yn llwydaidd a hen, efallai, mae mewn gwirionedd yn ychwanegu disgleirder i’ch bywyd chi, a fyddech chi ddim yn hoffi ei golli. Fe allai pobl eraill feddwl bod y peth hwn yn damaid o sbwriel blêr, ac fe allen nhw’n hawdd awgrymu eich bod yn ei daflu hyd yn oed! Ond rydych chi eisiau ei gadw am byth. Soniwch fod gan lawer o bobl drysorau y maen nhw wedi eu casglu yn ystod eu bywyd, pethau sy’n wir werthfawr yn eu golwg nhw.

  6. Darllenwch yr adnod o’r Beibl, o Efengyl Luc 12.15:‘A dywedodd wrthynt, "Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau."’
    Esboniwch nad yw'n anghywir i gael eiddo hyfryd - yr ydym i gyd yn hoffi cael pethau neis! Fodd bynnag, yn aml, nid yw’r pethau mwyaf gwerthfawr mewn bywyd yw’r pethau yn werth llawer o arian. Yn aml, mae pobl ac atgofion yn werth llawer mwy nag eiddo.

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r plant ddychmygu bod ganddyn nhw focs tebyg i'r un rydych chi’n ei ddangos iddyn nhw. Eglurwch fod y bocs, yn eu dychymyg, yn focs huda gall gynnwys unrhyw beth, neu unrhyw un, o unrhyw faint.

Gofynnwch i'r plant dreulio ychydig o funudau’n dawel yn meddwl am yr hynny maen nhw’n ei werthfawrogi fwyaf. Beth fydden nhw'n ei roi y tu mewn i'r bocs?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am drysorau fel ein teuluoedd, ein ffrindiau, ein cartrefi, a'n hysgol.
Diolch i ti am bobl sy'n ein caru ni ac yn ein cadw ni'n ddiogel ac yn gynnes.
Helpa ni i gydnabod y pethau yn ein bywyd sy'n wirioneddol bwysig.
Helpa ni i drin y pethau hyn fel pethau gwerthfawr.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon