Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Peidiwch â barnu yn ôl yr olwg!

Sut rai yw pobl ar y tu mewn?

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i beidio â barnu pobl eraill yn ôl eu golwg allanol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bydd angen i chi drefnu bod oedolyn wrth law i helpu'r plant yn y 'Gwasanaeth', yng Ngham 1, a hefyd i ateb y cwestiynau yng Ngham 4. Gwnewch yn siwr bod yr oedolyn yn gwybod yr atebion cywir i'r cwestiynau yng Ngham 4!
  • Fe fydd angen i chi ymgyfarwyddo â hanes Iesu'n croesawu'r plant bach. Mae’r stori i’w chael yn Efengyl Mathew 19.13-15, neu gallwch ddefnyddio'r fersiwn sy’n cael ei darparu yma yn nhestun y Gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod angen dau wirfoddolwr - dewiswch blant sydd ddim yn adnabod ei gilydd yn dda iawn. Eglurwch fod ganddyn nhw ddau funud i ddod i wybod cymaint ag sy'n bosib am ei gilydd, ac yna fe fyddan nhw'n adrodd wrth weddill y plant am yr hyn y maen nhw wedi ei ddysgu am y naill a'r llall! Gofynnwch i'r gwirfoddolwyr symud i ben pellaf yr ystafell gyda'r oedolyn yr ydych wedi gofyn iddo ef neu hi i fynd gyda nhw.
  2. Tra bo'r ddau blentyn yn canfod pethau am ei gilydd, gofynnwch i weddill y plant droi at y person o boptu iddyn nhw a gofyn rhai cwestiynau sy'n debyg i'r enghreifftiau canlynol:

    - Beth yw eich hoff fwyd?
    - Ble mae eich hoff le i fynd ar eich gwyliau?
    - Beth ydych chi'n hoffi ei wneud yn fwy na dim arall yn yr ysgol?
  3. Gwahoddwch y ddau wirfoddolwr i ddod ymlaen atoch chi, a helpwch nhw i adrodd wrth weddill y plant am yr hyn y maen nhw wedi ei ddarganfod am ei gilydd.
  4. Eglurwch, oherwydd bod yr oedolyn wedi bod yng nghefn yr ystafell gyda nhw yn helpu'r ddau wirfoddolwr, rydych yn mynd i ofyn ychydig o gwestiynau i'r oedolyn hwnnw nawr am y ddau blentyn!

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol i'r oedolyn:

    - Pwy ydych chi’n ei feddwl sydd fwyaf pwysig: y plentyn hyn neu'r plentyn iau? (Ateb: nid yw'r naill na'r llall yn bwysicach na'i gilydd.)
    - Ydych chi'n meddwl fod y plentyn talach yn bwysicach na’r un sy’n fyrrach? (Ateb: nid yw'r naill na'r llall yn bwysicach na'i gilydd.)
    - Yn gyffredinol, a ydych chi'n meddwl fod y plant sy'n gallu delio â gwaith academaidd yn hawdd yn well na'r rhai sy'n gorfod ymdrechu’n galed i wneud eu gwaith? (Ateb: nid yw hynny’n gwneud unrhyw wahaniaeth i ba mor bwysig yw rhywun.)
    - A ydych chi'n meddwl fod plant sy'n dda mewn chwaraeon yn well na phlant sy'n cael mwy o anhawster ym myd chwaraeon? (Ateb: nid yw hynny’n gwneud unrhyw wahaniaeth i ba mor bwysig yw rhywun.)
  5. Nodwch ein bod weithiau yn edrych ar bobl a'u barnu yn ôl eu hoed, eu golwg, eu dillad, ac yn y blaen. Fodd bynnag, nid yr hyn sy'n bwysig yw sut y mae rhywun yn edrych, neu hyd yn oed yr hyn y maen nhw'n gallu ei wneud yn dda. Yr hyn sy'n bwysig yw sut rai ydyn nhw ar y tu mewn - y rhinweddau na fedrwch eu gweld ar unwaith mewn person, nes y byddwch chi wedi dod i'w adnabod yn dda.
  6. Mae stori yn y Beibl am rai o ffrindiau Iesu'n edrych ar grwp o blant a'u gweld mewn ffordd wahanol iawn i Iesu.

    Naill ai darllenwch y stori o Efengyl Mathew 19.13-15 neu darllenwch y stori sy’n ymddangos yma:

    Roedd Iesu wedi bod yn teithio o amgylch y wlad yng nghwmni ei ffrindiau arbennig, y disgyblion, yn dweud am Dduw wrth bobl ac yn eu dysgu sut i fyw bywyd gwell. Daeth llawer o bobl i wrando ar Iesu, yn enwedig pobl oedd yn wael ac yn gwybod y gallai Iesu eu gwella. Un diwrnod, fodd bynnag, daeth grwp gwahanol o bobl i weld Iesu. Fe ddaeth rhai rhieni â'u plant i weld Iesu. Roedden nhw wedi clywed pobl yn sôn amdano ac yn dweud pa mor arbennig oedd Iesu, ac roedden nhw'n awyddus i Iesu ddim ond gosod ei law ar eu plant ac offrymu gweddi o fendith drostyn nhw.

    Pan welodd y disgyblion y rhieni, fe ddechreuodd sawl un ohonyn nhw fynd yn flin.
    ‘Ewch â'r holl blant 'ma oddi yma,’ medden nhw gan ddwrdio. ‘Allwch chi ddim gweld bod Iesu'n brysur yn iacháu'r oedolion? Does ganddo ddim amser i roi sylw i'r holl blant 'ma!’
    Fe glywodd Iesu'r hyn a ddywedodd y disgyblion ac roedd yn ddig iawn â nhw.
    ‘Pam ydych chi'n gwahardd y plant hyn rhag dod ataf fi?’ dywedodd mewn llais pigog.
    Yna gyda gwên fawr ar ei wyneb, trodd Iesu at y plant a dweud wrthyn nhw mewn llais caredig iawn, ‘Deuwch ataf fi, bawb ohonoch, dowch i'm gweld i - mae croeso i bawb ohonoch.’
    Trodd Iesu eto at yr oedolion ac roedd ei lais yn gadarn, ond nid mor ddig yn awr. Dywedodd wrthyn nhw, ‘Peidiwch byth â rhwystro unrhyw un o'r plant hyn rhag dod ataf fi. Maen nhw cyn bwysiced i mi ag unrhyw un arall. Mewn gwirionedd, byddai Duw yn dymuno i bawb ohonom ni fod yn debyg i'r plant hyn, a'i garu ef fel y maen nhw'n ei wneud.’
    Yna estynnodd Iesu ei law ac offrymodd weddi o fendith dros y plant cyn iddyn nhw i gyd redeg yn hapus yn ôl at eu rhieni.

  7. Nodwch, er bod Iesu'n brysur ac yn enwog iawn, roedd ganddo ddigon o amser i'w neilltuo ar gyfer plant. Nid oedd yn eu hystyried yn llai pwysig oherwydd eu bod yn ifanc neu'n fach. Fe welodd eu bod, ar y tu fewn, yn arbennig iawn. Atgoffwch y plant am y ffaith fod pob plentyn yn yr ysgol yn arbennig, ac yn derbyn pob gofal. Mae gan bob plentyn eu doniau a'u rhinweddau sy'n arbennig iddyn nhw. Maen nhw i gyd yn aelodau gwerthfawr o gymuned yr ysgol. Mae pawb yn bwysig

Amser i feddwl

Weithiau, mae’n hawdd edrych ar bobl eraill a'u barnu yn ôl y ffordd maen nhw'n edrych. Gadewch i ni wneud ymdrech arbennig i adnabod pobl yn yr ysgol cyn i ni ffurfio barn amdanyn nhw. Gadewch i ni bob amser roi cyfle i bobl ddod yn ffrindiau â ni, sut bynnag y maen nhw'n edrych ar y tu allan.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti dy fod yn gofalu am blant.
Diolch i ti fod Iesu wedi derbyn y plant a heb fod wedi eu hanfon ymaith.
Diolch i ti fod pob un ohonom yn arbennig mewn rhyw ffordd.
Os gweli di'n dda, helpa ni i neilltuo amser i ddod i adnabod pobl cyn i ni ffurfio barn amdanyn nhw.
Helpa ni bob amser i drin pawb â pharch, hyd yn oed y bobl sy'n wahanol i ni.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Man looks on the outside’ gan Vineyard Kids, ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=yoQwSChEhtU

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon