Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae pob gweithred fach yn cyfrif

Mae caredigrwydd yn bwysig

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried gwerth caredigrwydd a sut mae’n cael effaith ar bobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen stori’r Llew a’r Llygoden o Chwedlau Aesop, a lluniau sy’n cyd-fynd â’r stori, neu fe allech chi ddefnyddio’r addasiad hwn o’r stori sydd i’w weld yng Ngham 7 y ‘Gwasanaeth’.
  • Efallai yr hoffech chi ymgyfarwyddo â dameg y Samariad Trugarog, sydd i’w chael yn y Beibl (yn Luc 10.25-37).
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi fod â geiriadur wrth law i’r plant chwilio am ddiffiniad o’r geiriau sy’n cael eu nodi yng Ngham 6 y Gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant beth yw ystyr y gair ‘caredigrwydd’. Holwch a oes rhywun wedi bod yn garedig wrthyn nhw yn ddiweddar.

    Gwrandewch at ymateb rhai o’r plant.

    Holwch pa fath o bethau y gallen nhw eu gwneud a fyddai’n enghraifft o fod yn garedig.

  2. Soniwch mai’r hyn sy’n groes-ystyr i ‘caredig’ yw ‘angharedig’ neu ‘gas’. Er enghraifft, gallai bod yn angharedig olygu dweud rhywbeth cas wrth rywun arall, chwerthin am ben rhywun arall yn y dosbarth os ydyn nhw’n cael yr ateb yn anghywir, neu anwybyddu rhywun ar yr iard amser egwyl a gwrthod gadael iddyn nhw chwarae efo chi.
    Nid yw bod yn angharedig yn golygu bod yr hyn rydych chi’n ei ddweud yn gelwydd, efallai mai’r ffordd rydych chi’n dweud rhywbeth sy’n brifo teimladau rhywun arall. Mae’n bosib dweud y gwir a bod yn garedig ar yr un pryd.

  3. Atgoffwch y plant ein bod weithiau ddim yn sylweddoli bod yr hyn sydd ddim yn ymddangos yn bwysig iawn i ni, yn wirioneddol bwysig i rywun arall. Mae dywediad Saesneg yn dweud fod pob gweithred fach yn cyfri, sef ‘Every little counts’. Ond ambell dro, mae rhywbeth sy’n ymddangos yn fychan iawn yn gallu golygu llawer iawn i’r un sy’n ei dderbyn. Efallai y bydd yn gwneud eu diwrnod yn ddiwrnod hapus iawn!

  4. Mae dywediad Saesneg arall hefyd y gallen ni feddwl amdano, sef ‘Charity begins at home’. Mae hyn yn golygu, er ei fod yn beth da gwneud gweithredoedd da i helpu pobl yn y gymuned ehangach, fel codi arian at elusen ac ati, rhaid i ni beidio ag anghofio bod y ffordd rydyn ni’n trin y rhai sydd agosaf atom ni yn bwysig iawn hefyd.

  5. Mae sawl ffordd y gallwn ni fod yn garedig. Dyma ychydig yn unig o enghreifftiau:

    - bod yn gyfeillgar a chymwynasgar.
    - cadw ein teganau a’n dillad yn daclus.
    - gofalu nad ydyn ni’n gadael unrhyw un allan o’n gemau yn ystod yr amser egwyl.
    - dal y drws ar agor i rywun arall.
    - gwenu!
    - siarad yn gwrtais.
    - dangos parch.

    Gofynnwch i’r plant awgrymu ffyrdd eraill o fod yn garedig.

  6. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu meddwl am eiriau sy’n gysylltiedig â charedigrwydd. Er enghraifft,bod yn ystyriol, cydymdeimlo, empathi, ac ati.
    Gofynnwch i’r plant egluro ystyr rhai o’r geiriau hyn. Efallai yr hoffech chi ofyn iddyn nhw chwilio am y geiriau mewn geiriaduron.

  7. Cafodd stori’r Llew a’r Llygoden ei hadrodd yn y lle cyntaf gan ddyn o’r enw Aesop. Fe gyfansoddodd Aesop lawer o storïau a ddaeth i gael eu hadnabod fel Chwedlau Aesop. Anifeiliaid oedd llawer o gymeriadau storïau Aesop, ac roedd ei storïau’n cynnwys gwersi moesol cryf.

    Dyma arall eiriad o stori’r ‘Llew a’r Llygoden’.

    Anifail mawr gyda dannedd mawr, miniog oedd Llew. Roedd llawer o anifeiliaid yn ofni. Roedd yn anifail ffyrnig ac yr oedd ganddo lais uchel a brawychus iawn pan fyddai’n rhuo.

    Un diwrnod, roedd yn cysgu'n drwm pan redodd llygoden fach ar draws ei wyneb.

    Neidiodd Llew yn sydyn wrth gael ei ddeffro fel hyn. Roedd yn ddig iawn ac fe ddaliodd y llygoden gyda'i bawen enfawr.

    'Arbed fi,' gwaeddodd Llygoden. 'Paid â’m lladd i. Un diwrnod, efallai y byddaf fi yn gallu talu’r gymwynas yn ôl i ti. '

    Dim ond chwerthin wnaeth Llew. Sut yn y byd y gallai llygoden fach fel hon ei helpu ef? Wedi'r cyfan, roedd ef, y llew, yn frenin y jyngl! Fodd bynnag, fe wnaeth Llew adael Llygoden fynd yn rhydd.

    Beth amser yn ddiweddarach, roedd Llew allan yn y jyngl pan ddigwyddodd rhywbeth. SNAP! Cafodd ei ddal yn sownd mewn trap rhaffau yr oedd heliwr wedi ei osod. Wel dyna beth oedd swn pan ddechreuodd y creadur nerthol ruo a rhuo!

    Clywodd y llygoden fach ef ac fe ddaeth i’w achub. Mae hi'n cnoi a chnoi ar y rhaffau nes eu bod yn disgyn yn ddarnau ac roedd Llew wedi cael ei ryddhau.

    'Roeddet ti’n chwerthin pan ddywedais i y byddwn i, un diwrnod, efallai yn gallu talu’r gymwynas yn ôl i ti,' meddai Llygoden. 'Ond yn awr rwyt ti’n gallu gweld bod hyd yn oed llygoden fach fel fi yn gallu helpu llew mawr fel ti.’

  8. Yn y chwedl hon, rydyn ni’n gweld bod Llew wedi bod yn garedig tuag at Llygoden. Yn achos y llew, nid oedd yn golygu llawer ei fod ef, y llew mawr ffyrnig, wedi arbed bywyd creadur bach a diymadferth fel llygoden. Ond fel mae’n digwydd, fe wnaeth y weithred fach hon olygu fod bywyd y llew wedi cael ei achub yn y pen draw! Nid yw’r neges yn y stori’n golygu y dylem fod yn garedig wrth bobl eraill er mwyn cael rhywbeth yn ôl. Mae'n golygu na wyddom ni byth pa wahaniaeth y gall bod yn garedig wrth rywun wneud i'w bywydau nhw, i'n bywyd ni ein hunain hefyd. Mae sut rydym yn ymateb i bobl eraill yn bwysig. Mae bod yn garedig wrth bobl eraill yn gwella’r berthynas sydd gennym ni gyda'r rhai sydd o'n cwmpas. Hefyd, gall bod yn garedig tuag at bobl eraill wneud i ni ein hunain deimlo'n dda hefyd!

  9. Efallai yr hoffech chi atgoffa’r plant am stori’r Samariad Trugarog, sydd i’w chael yn y Beibl, yn Efengyl Luc 10.25-37.

Amser i feddwl

Ambell dro mae’n hawdd anghofio bod yn garedig. Mae bod yn garedig wrth rywun yn golygu meddwl amdanyn nhw a bod yn barod i roi eu hanghenion nhw yn gyntaf.

Meddyliwch am y ffyrdd y mae pobl yn garedig wrthych chi.

Saib i feddwl.

Sut gwnaethoch chi deimlo pan oedd rhywun yn garedig wrthych chi?
Sut gallwch chi ddangos caredigrwydd tuag at rywun heddiw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa fi i fod yn garedig tuag at bobl eraill.
Helpa fi i fod yn gymwynasgar, yn ystyriol, ac i gydymdeimlo â nhw.
Hyd yn oed ar adegau anodd, pan fydda i’n brysur neu wedi blino, helpa fi i ymateb i eraill yn y ffordd yr hoffwn i gael fy nhrin fy hun ganddyn nhw.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Bridge over troubled water’ gan Simon & Garfunkel

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon