Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydw i eisiau gweld! (Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi’ )

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Defnyddio’r stori o’r Beibl am Bartimeus er mwyn gallu ystyried sut beth yw bod yn ddall.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen mwgwd.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!'

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Roedd Liwsi Jên wedi dod adre o barti pen-blwydd Mali, ac fe redodd i’r stabl i weld Sgryffi. Aeth ati i frwsio cot Sgryffi gan ddweud haned y parti pen-blwydd wrtho.
    ‘Fe wnaethon ni chwarae llawer o gemau parti, Sgryffi,’ meddai a’i llais yn gyffro i gyd.

    Holwch y plant pa gemau y maen nhw’n hoffi eu chwarae mewn partïon.
    Efallai yr hoffech chi sôn wrthyn nhw am rai o’r gemau y byddech chi’n hoffi eu chwarae pan fyddech chi’n mynd i bartïon pan oeddech chi’n blentyn.

    ‘Roedd yn rhaid i ni wisgo mwgwd yn un o’r gemau,’ egluroddLiwsi Jên wrth Sgryffi. ‘Roedd llun o ful bach ar y wal ac, er nad oeddem yn gallu gweld, roedd rhaid i ni geisio gosod cynffon y mul bach yn y lle iawn efo pin!’
    Ysgydwodd Sgryffi ei ben mewn braw. ‘Hi-ho! Hi-ho!’ dywedodd yn uchel.
    Dechreuodd Liwsi Jên chwerthin. ‘Paid â phoeni, Sgryffi,’ meddai. ‘Nid mul bach go iawn oedd o! Ar ôl hynny, fe wnaethon ni chwarae gêm arall lle’r oedd un o’r plant yn gwisgo’r mwgwd eto ac yn ceisio chwilio am ei ffrindiau. Mae’n anodd dodo hyd i dy ffrindiau pan fyddi di’n gwisgo mwgwd, ac yn methu gweld ble maen nhw. Rhaid i ti wrando’n ofalus am swn eu traed yn symud yn dy ymyl.’

    Yn sydyn, aethLiwsi Jên yn dawel iawn. Rhwbiodd Sgryffi ei ben yn ysgafn yn erbyn ei hwyneb.
    ‘Fyddwn i ddim yn hoffi bod yn ddall, yn methu gweld, Sgryffi,'sibrydodd Liwsi Jên.‘Fyddwn i ddim yn gallu gweld y blodau gwyllt, y pili palas, na’r adar, na neb o fy ffrindiau.’
    Nodiodd Sgryffi ei ben fel petai’n cytuno â’r hyn roedd Liwsi Jên wedi ei ddweud.
    ‘Mae pobl sy’n ddall yn bobl ddewr iawn,’ meddai Liwsi Jên. ‘Sgryffi, wyt ti’n gwybod fod yr athrawes yn yr ysgol wedi dweud wrthym ni fod pobl ddall yn gallu darllen llyfrau? Mae llyfrau arbennig ganddyn nhw, gyda’r llythrennau sydd ynddyn nhw ar ffurf yr hyn sy’n cael ei alw’n Braille. Dotiau bach fel lympiau bach ar y papur yw Braille, fel bod pobl sy’n ddall yn gallu eu teimlo a chanfod beth yw’r llythrennau a gallu darllen y geiriau. Gawson ni gyfle i roi cynnig ar wneud hynny yn y dosbarth, ac mae’n anodd iawn!’
    Edrychodd Liwsi Jên ar Sgryffi, a oedd yn ymddangos fel petai’n gwrando’n astud arni. Dechreuodd Liwsi Jên chwerthin eto, a dweud wrth Sgryffi, ‘Edrych arnat ti’n gwrando arna i!’ A dywedodd wedyn, ‘O! Rydw i mor falch fy mod i’n gallu dy weld di, Sgryffi, a gweld dy wyneb annwyl di!’
    Cofleidiodd Liwsi Jên Sgryffi a rhoi moronen fawr iddo i’w bwyta.
    Ac, wrth gwrs, fe ddywedodd Sgryffi ‘Hi-ho! Hi-ho!’

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Gadewch i ni wrando ar stori o’r Beibl am ddyn a oedd yn ddall Enw’r dyn oedd Bartimeus.
    Roedd Iesu a’i ffrindiau’n cerdded trwy dref o’r enw Jericho. Pan glywodd pobl y dref eu bod yn dod yno, fe wnaethon nhw redeg allan o’u tai yn y gobaith o gael gweld Iesu. Roedd torfeydd o bobl ar hyd y strydoedd. Roedd  dyn o’r enw Bartimeus yn y dyrfa. Doedd Bartimeus ddim yn gallu gweld, ond roedd yn gallu clywed y bobl yn y dyrfa’n siarad. Roedd rhai ohonyn nhw’n dweud, ‘Edrychwch, mae Iesu’n dod!’ Roedd rhai yn dweud, ‘Mae Iesu’n athro arbennig iawn.’ Ac roedd eraill yn dweud pethau fel, ‘Maen nhw’n dweud ei fod yn gallu gwella pobl sâl.’
    Roedd Bartimeus yn awyddus iawn i gael cwrdd â Iesu, ond roedd gormod o lawer o swn yn y dyrfa. Roedd swn traed y bobl o’i gwmpas ym mhob man. Doedd Bartimeus ddim yn gwybod ble’r oedd Iesu!

    Holwch y plant beth maen nhw’n feddwl y gallai Bartimeus ei wneud.

    Yn sydyn, dechreuodd Bartimeus weiddi  mor uchel ag y gallai!
    ‘Iesu, helpa fi! Iesu, helpa fi!’
    Dywedodd llawer o’r bobl oedd yn y dyrfa wrth Bartimeus am fod yn ddistaw, ond fe ddaliodd ati i weiddi’n uwch, ‘Iesu, helpa fi!’
    Yn sydyn, fe glywodd Bartimeus swn traed rhywun yn dod tuag ato. Aeth y bobl oedd yn sefyll yn ei ymyl ar y stryd yn dawel, dawel, ac fe glywodd Bartimeus lais yn dweud, ‘Dewch ag ef ataf fi!’
    Aeth dau o bobl i sefyll bob ochr i Bartimeus gan afael yn ei fraich a’i arwain i gyfeiriad Iesu.
    ‘Cwyd dy galon!’ meddai’r ddau wrtho, wrth iddyn nhw fynd ag ef at Iesu. ‘Mae Iesu’n galw amdanat ti.’
    Ac mewn munud, roedd Bartimeus yn sefyll o flaen Iesu.
    ‘Beth wyt ti’n ei geisio gen i?’ gofynnodd Iesu iddo.

    Gofynnwch i’r plant ddyfalu pa ateb y byddai Bartimeus wedi bod yn debygol o fod wedi ei roi i Iesu.

    ‘Iesu, rydw i eisiau gallu gweld,’ dywedodd Bartimeus yn dawel.
    Edrychodd Bartimeusi fyny. Roedd yn gallu gweld wyneb Iesu! Ac roedd yn gallu gweld y blodau hardd, a’r coed, a’r heulwen! Roedd Bartimeus yn hapus iawn.
    Ar ôl hynny, fe wnaeth Bartimeus ddilyn Iesu ar hyd y ffordd. Roedd arno eisiau bod yn agos at ei ffrind newydd.

Amser i feddwl

Caewch eich llygaid a gwrandewch ar synau’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas.
Dychmygwch sut beth yw gweld dim byd ond tywyllwch.
Nawr, agorwch eich llygaid ac edrychwch o’ch cwmpas.
Rydyn ni’n ffodus iawn ein bod ni’n gallu gweld. Mae angen i ni gofio dweud diolch am y rhodd o allu gweld, a chlywed, a gallu symud.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl bethau hardd sydd yn ein byd.
Diolch i ti am ein synhwyrau sy’n ein galluogi ni i fwynhau’r byd.
Diolch i ti’n bennaf am . . .(gofynnwch i’r plant ddweud beth yw tri o’u hoff bethau)
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon