Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llawer o afalau!

Y cynhaeaf a delwedd gorfforol

gan Kirstine Davis

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried bod pob un ohonom yn arbennig ar y tu mewn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o afalau o wahanol liwiau a maint, gan gynnwys un sydd wedi cleisio (po fwyaf o olwg sydd ar yr afal, y gorau!). Er enghraifft, afal Granny Smith, afal Pink Lady, afal coginio, a’r afal sydd wedi cleisio.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen bwrdd torri a chyllell fechan - cofiwch am faterion iechyd a diogelwch.
  • Fe fydd arnoch chi angen gwrthrych wedi ei wneud gartref hefyd, fel het wedi ei gwau neu deisen.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant enwi gwahanol dymhorau'r flwyddyn. Gofynnwch iddyn nhw pa dymor ydyn ni’n ei fwynhau ar hyn o bryd. Efallai y bydd rhai o'r plant yn meddwl ei bod yn dal yn dymor yr haf os bydd y tywydd yn dda a'r haul yn tywynnu! Fodd bynnag, yn draddodiadol, mis Medi yw dechrau tymor yr hydref. Gofynnwch i'r plant beth sy'n digwydd yn yr hydref. Gadewch i'r plant siarad am y newidiadau a fydd yn digwydd i ddail y coed, ac ati, cyn gofyn oes unrhyw un yn gallu esbonio beth sy'n digwydd ar y ffermydd yn nhymor yr hydref. Nodwch fod y ffermwyr, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn edrych ymlaen at gynaeafu eu cnydau.

  2. Gofynnwch i'r plant a oes unrhyw un ohonyn nhw â choed yn eu gardd. Gobeithio y bydd un o'r plant yn sôn am goeden afalau. Esboniwch fod y gwasanaeth heddiw’n ymwneud ag afalau.

  3. Dangoswch y gwahanol afalau i’r plant, a holwch a oes rhywun yn gwybod beth yw’r enw sy’n cael ei roi ar y gwahanol fathau. Wrth i chi ddangos yr afalau, dywedwch bethau fel, ‘Hwn yw’r math o afal y byddaf i’n ei hoffi. Mae’n cael ei alw’n Pink Lady. Fe allwch chi weld ei fod yn afal prydferth ac rwy’n gwybod y bydd ei flas yn felys.’
    ‘Afal Granny Smith yw’r afal hwn. Mae’n afal gwyrdd, sgleiniog, ac rwy’n gwybod y bydd yn grensiog wrth i mi frathu i mewn iddo.’
    ‘Dyma i chi afal mawr fydd yn cael ei ddefnyddio i goginio, a dyma afal arall bach, ond rwy’n siwr ei fod yn flasus, mae arogl hyfryd arno . . . ac mae hwn â golwg braidd yn druenus arno. Does dim golwg mor dda ar hwn ag oedd ar y lleill, nagoes?’

  4. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod am y gyfrinach sydd y tu mewn i afal. Gofynnwch iddyn nhw ddyfalu beth allai’r gyfrinach honno fod.

  5. Yn ofalus, torrwch yr afalau da yn eu hanner ar draws y canol, yn llorweddol, nid o’r top i’r gwaelod, a dangoswch y siâp seren sydd i’w weld ar y tu mewn. Gofynnwch i un o’r plant ieuengaf ddweud wrthych chi pa siâp mae’n gallu ei weld yno.

  6. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n meddwl y bydd siâp seren i’w weld yn yr afal sydd wedi cleisio hefyd. Torrwch hwnnw er mwyn dangos y seren.

  7. Esboniwch nad oes ots pa fath o olwg sydd ar yr afalau hyn ar y tu allan, maen nhw i gyd â seren ar y tu mewn. Pwysleisiwch fod hyn yn wir i raddau amdanom ni fel pobl! Rydyn ni i gyd yn edrych ychydig yn wahanol i’n gilydd - mae rhai â llygaid brown ac mae gan rai eraill lygaid glas, mae rhai â gwallt golau ac eraill â gwallt tywyll. Fodd bynnag, rydyn ni i gyd yn yr un fath, mewn sawl ffordd, oherwydd ein bod i gyd yn 'sêr' ar y tu mewn. Mae gennym i gyd ddoniau unigryw ac arbennig sy'n ein gwneud ni pwy ydyn ni. Weithiau, gall pobl edrych yn wahanol iawn ar y tu allan, o bosibl oherwydd bod rhywbeth anffodus wedi digwydd iddyn nhw ryw dro. Mewn ffordd, efallai y byddan nhw’n ymddangos fel yr afal sydd wedi cleisio, ond mae’r bobl hyn yn dal i fod yn arbennig ar y tu mewn.

  8. Dangoswch i’r plant y gwrthrych sydd gennych chi, wedi ei wneud gan rywun gartref. Gofynnwch gwestiynau am y peth, cwestiynau fel: a ydyn nhw’n ei hoffi, a fydden nhw’n hoffi ei wisgo, neu’n hoffi ei fwyta, ac ati - yn ôl y  gwrthrych sydd gennych chi. Esboniwch pwy wnaeth y gwrthrych i chi, a pham eich bod yn ei hoffi. Pwysleisiwch y gallwn ni wneud llawer o bethau. Fe allwn ni osod dodrefnyn gyda’i gilydd dim ond i ni gael y cyfarwyddiadau; fe allwn ni ddilyn rysáit i wneud cacen; ac fe all rhai ddilyn patrwm i wnïo neu wau dilledyn. Fodd bynnag, allen ni byth wneud afal, fel yr afalau hyn rydyn ni wedi bod yn eu trafod heddiw!

  9. Gofynnwch i’r plant sut mae afal yn ffurfio.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

    Eglurwch y ffeithiau, er mwyn tyfu afal, mae angen hadau, pridd, dwr a golau'r haul. Yn yr un modd, mae pobl hefyd angen pethau penodol i dyfu'n iach. Mae arnom angen bwyd, dwr a lloches er mwyn ein helpu ni i dyfu’n gorfforol. Rydyn ni hefyd angen gofal a chariad aelodau ein teulu a’n ffrindiau er mwyn ein helpu ni i dyfu’n emosiynol.

    Mae Cristnogion yn credu bod angen i ni dyfu'n ysbrydol hefyd. Mae hyn yn golygu tyfu i fod yn bobl hardd ac arbennig ar y tu mewn. Yn y Beibl, mae'n sôn am 'ffrwyth yr Ysbryd', sy'n cael ei ddisgrifio fel cariad, llawenydd, tangnefedd, amynedd, daioni, caredigrwydd, addfwynder, ffyddlondeb a hunanreolaeth. Mae'r rhain yn bethau arbennig iawn i ni eu tyfu yn ein bywydau. Gallwn wneud i’r pethau hyn dyfu trwy wneud ffrindiau gyda phlant a phobl eraill sydd eisiau bod yn berchen ar y rhinweddau hyn hefyd. Ac yn ogystal, trwy ddarllen llyfrau da, trwy wylio rhaglenni teledu sy'n briodol ar gyfer ein hoedran, a thrwy fod yn ofalus pa gemau cyfrifiadurol rydyn ni’n eu chwarae.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am y ‘seren’ sydd ym mhob un ohonom – y rhan arbennig honno sy’n ein gwneud ni yr hyn ydyn ni.

Sut byddwn ni’n trin pobl sy’n edrych yn wahanol?

Ydyn ni’n gwneud pethau sy’n ein helpu ni ac eraill i dyfu’n bobl well?

A yw ein gweithredoedd yn ein helpu i dyfu’n gryfach ar y tu mewn?

Ydyn ni’n tyfu mewn cariad, llawenydd, tangnefedd, amynedd, daioni, caredigrwydd, addfwynder, ffyddlondeb a hunanreolaeth?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i weld sut rai yw pobl ar y tu mewn, a pheidio â’u barnu yn ôl eu golwg yn unig.
Helpa ni i sylweddoli bod pawb yn arbennig.
Helpa ni i lenwi ein meddyliau a’n bywydau â phethau da.
Helpa ni i garu eraill ac i ofalu am y byd o’n cwmpas.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon