Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwysigrwydd bys bach y droed

Mae pob rhan o’r corff yn bwysig

gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried, yn union fel y mae gan bob rhan o'r corff rôl i'w chwarae, mae pob aelod o grwp yn bwysig, hefyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau o flaen llaw.

Gwasanaeth

  1. Pa ran yw rhan bwysicaf eich corff?

    Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion.

    Ai eich ymennydd? Mae’n dweud yn union wrth eich corff beth i’w wneud.
    Ai eich calon? Mae’n pwmpio gwaed oddi amgylch eich corff.
    Ai eich ysgyfaint? Mae’r ysgyfaint yn darparu’r ocsigen y mae ar y corff ei angen.

    Ond sut byddech chi’n gallu cau carrai eich esgidiau heb eich bysedd?
    Sut byddech chi’n gallu gwrando ar gerddoriaeth heb eich clustiau?
    Sut byddech chi’n gallu blasu siocled heb eich tafod?
    Sut byddech chi’n gallu cicio pêl heb eich troed?

    Mae pob rhan o’ch corff yn bwysig.Mae gan bob rhan o’ch corff rôl arbennig.

  2. Fe allai rhywun feddwl nad yw bys bach y droed yn bwysig iawn. Mae mor fach, ac nid yw’n ymddangos fel pe bai’n gwneud unrhyw swyddogaeth. Wedi’r cyfan, mae wedi cael ei guddio yn eich hosan y rhan fwyaf o’r amser.

    Pa mor aml y byddwch chi’n meddwl am fys bach eich troed? Dim ond pan fydd rhywun yn ei sathru’n ddamweiniol? Aw! Fe allai rhai pobl ddweud nad oes angen bys bach arnom ni, ac y byddem yn well hebddo!

    Ond beth fyddai’n digwydd pe bydden ni heb fys bach ar ein troed? Mae pobl sydd, am ryw reswm, wedi gorfod colli ei bys bach yn dweud eu bod yn dueddol o syrthio’n hawdd. Maen nhw’n ei chael hi’n anodd cerdded heb eu bysedd bach.

    Mae’r bysedd bach yn ein helpu i gadw ein cydbwysedd yn iawn. Maen nhw’n ein helpu ni i ddosbarthu ein pwysau’n gyfartal dros y droed gyfan a thrwy hynny ein gwneud ni’n fwy sefydlog.

    Efallai nad yw’r bys bach ar y droed yn ymddangos yn bwysig, ond mae ganddo ran hanfodol yn ffordd y mae’r corff yn gweithio.

  3. Yn y Beibl, mae un awdur o’r enw Paul, yn disgrifio’r Eglwys fel corff (yn 1 Corinthiaid 12.12–26). Roedd Cristnogion Corinth wedi bod yn dadlau ymysg ei gilydd ynghylch pwy oedd â’r rôl bwysicaf. Mae Paul yn pwysleisio fod pob rhan o’r corff â swyddogaeth bwysig, ond swyddogaeth wahanol, i’w gwneud. Mae’n ysgrifennu, ‘Petai’r holl gorff yn llygad, lle byddai’r clyw? Petai’r cwbl yn glyw, lle byddai’r arogli?’

  4. Mae pob un ohonom yn perthyn i nifer o wahanol grwpiau. Mae pob un ohonom yn perthyn i deulu. Mae pob un ohonom yn aelod o ddosbarth. Efallai ein bod yn rhan o dîm pêl-droed, neu ddosbarth Ysgol Sul, neu grwp cyfrifiaduron.

    Mae pob un o’r grwpiau hyn fel corff. Ac mae gan bob aelod o’r grwp ran arbennig i’w chyflawni.

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am lunio ein corff.
Diolch i ti fod pob rhan yn gwneud rhywbeth gwahanol.
Diolch i ti fod pob rhan yn bwysig.
Ambell dro, fe fyddwn ni’n meddwl nad ydyn ni’n bwysig iawn.
Ambell dro, fe fyddwn ni’n meddwl na allwn ni wneud llawer o ddim byd.
Ambell dro, fe fyddwn ni’n meddwl ein bod yn dda i ddim.
Helpa ni i wneud ein rhan yn y grwpiau rydyn ni’n  perthyn iddyn nhw.
Helpa ni i weld fod pob aelod yn bwysig.
Helpa ni i weithio gyda’n gilydd fel un corff.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon