Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Daliwch ati

Mae ein hagwedd heddiw tuag at bethau’n gwneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried bod ein dyfodol yn dibynnu ar y dewisiadau a wnawn bob dydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen detholiad o offer sy'n addas ar gyfer DIY, fel sgriwdreifer, morthwyl, brws paent a chyn.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch rai cwestiynau i’r plant am waith llaw DIY.

    - Rhieni pwy o’r plant sy’n hoffi gwneud gwaith DIY o gwmpas y ty?
    - Fydd y plant yn helpu gyda’r gwaith DIY?
    - Beth fyddan nhw’n ei atgyweirio neu’n ei adeiladu?
    - Beth yw’r prosiect mwyaf y maen nhw wedi bod yn ymwneud ag o?

    Trafodwch pa mor bwysig yw cynllunio gofalus a bod â’r offer priodol. Dangos rywfaint o’r offer DIY sydd gennych chi, a thrafodwch ar gyfer beth mae pob un yn cael ei ddefnyddio.

  2. Adroddwch y stori ganlynol am saer a oedd ar fin ymddeol.

    Roedd Bili wedi bod yn gweithio fel saer coed ers 50 mlynedd, o’r adeg pan adawodd yr ysgol yn fachgen ifanc 15 oed. Roedd wedi bod yn un da am wneud gwaith llaw, erioed, ac roedd bob amser wedi dymuno cael bod yn saer coed ers pan oedd yn fachgen bach. Pan ddaeth yn ddigon mawr cafodd ei brentisio mewn gweithdy saer lleol, ac ar ôl iddo ddysgu ei grefft roedd wedi treulio ei yrfa gyfan yn y busnes adeiladu tai. Erbyn hyn roedd yn 65 oed ac yn barod i feddwl am ymddeol. Roedd yn cynllunio i ymddeol ymhen ychydig wythnosau.
    ‘Mae’n amser i mi roi’r gorau iddi, fel y galla i dreulio mwy o amser yn yr ardd a chael mwy o amser gyda fy wyrion ag wyresau,’ dywedodd wrth Mr Towers, ei gyflogwr am y 40 mlynedd diwethaf, ac a oedd hefyd yn ffrind da iddo. Roedd Bili’n gwybod y byddai’n gweld eisiau’r cyflog a ddeuai iddo’n rheolaidd bob mis, ond roedd yn gobeithio y byddai ef a’i wraig yn gallu byw ar y pensiwn y byddai’n ei gael wedyn. Roedd yn amser iddo orffen gweithio o ddydd i ddydd, ac ymddeol.
    Roedd Mr Towers yn drist iawn wrth feddwl na fyddai Bili’n dal i weithio iddo. Roedd Bili wedi bod yn weithiwr mor gydwybodol, a phob amser yn gwneud gwaith crefftus. ‘Os gweli di’n dda, Bili, wnei di weithio ar un ty arall i mi cyn i ti orffen, fel ffafr bersonol?’ gofynnodd Mr Towers.
    ‘Iawn,’ meddai Bill, ‘ond hwn fydd yr olaf.’ Ac fe ddechreuodd ar y gwaith. Wnaeth Mr Towers ddim dweud wrth Bili pwy fyddai perchennog y ty yr oedd yn ei adeiladu. Ond doedd fawr o ddiddordeb gan Bili erbyn hynny, roedd yn edrych ymlaen at gael ymddeol.
    Wrth i amser fynd yn ei flaen, roedd hi’n amlwg nad oedd calon Bili yn y gwaith. Doedd o ddim yn mesur yn ofalus, fe wnâi unrhyw beth y tro, gweithiodd yn gyflym i gael gorffen ac fe wnâi’r deunyddiau rhataf y tro rhag iddo orfod mynd i chwilio am ddeunyddiau o ansawdd. Wnaeth Bili ddim cymryd cymaint o ofal gyda’r gwaith hwn ag y byddai’n arfer ei gymryd. Roedd yn ffordd drist i ddyn a oedd yn grefftwr mor dda ddod â’i yrfa i ben.
    Pan oedd Bili wedi gorffen ei waith, fe ddaeth Mr Towers i weld y ty. Ac yna, er mawr syndod i Bili, fe roddodd Mr Towers allweddi’r ty i Bili gan ddweud, ‘I ti a dy wraig y mae’r ty yma, Bili. Mae’n anrheg i ti gen i am dy holl waith caled ar hyd y blynyddoedd. Gobeithio y byddwch chi’ch dau’n hapus iawn yma.’
    Dychmygwch syndod Bili, a’r sioc a gafodd! O, dyna drueni! Pe byddai Bili ddim ond yn gwybod ei fod yn gweithio ar y ty a fyddai’n gartref iddo ef a’i wraig, mae’n siwr y byddai wedi gwneud y cyfan mewn ffordd gymaint yn wahanol! Yn awr, fe fyddai’n rhaid iddo fyw mewn ty a oedd wedi ei adeiladu mewn ffordd sâl, gyda deunyddiau rhad, a chyda gwendidau yn yr adeiladwaith, gwendidau na fyddai neb ond y fo yn gwybod amdanyn nhw.

  3. Eglurwch i’r plant fod y stori hon rywbeth yn debyg i’n bywyd ni. Bob dydd, rydyn ni’n adeiladu rhywbeth pwysig iawn: sef ein bywyd.
    Weithiau, rydyn ni’n rhoi ein hymdrech orau yn yr hyn a wnawn. Mae hyn yn arbennig o hawdd ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd, neu os oes rhywun yn ein gwylio, neu os oes gwobr i’w chael ar y diwedd! Nid yw mor hawdd pan fydd y tymor ysgol yn dod i ben, a’r haul yn tywynnu, ac ar adegau pan fyddai'n well gennym fod allan yn yr awyr agored.
    Ambell dro, fyddwn ni ddim bob amser yn rhoi ein hymdrech orau yn ein gwaith. Fe fyddwn ni’n tueddu i fod yn ddifater, ac yn bodloni ar rywbeth fydd yn gwneud y tro yn hytrach na gwneud ein gorau, yn union fel y gwnaeth Bili.
    Ar ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd hon, gadewch i ni benderfynu adeiladu ein bywydau’n ddoeth, gan gofio mai dyma'r unig fywyd y byddwn ni’n ei adeiladu.

Amser i feddwl

Dychmygwch eich bod yn saer coed a bod eich bywyd yn debyg i dy. Fodd bynnag, ni fyddwch yn adeiladu waliau, gosod lloriau na morthwylio hoelion. Heddiw, fe fyddwch chi’n gweithio yn yr ysgol, yn ymwneud ag athrawon a phlant eraill ac yn gwneud dewisiadau. Meddyliwch ynghylch sut y byddwch yn adeiladu yn ddoeth.

Gweddi
Annwyl Dduw,

Fe hoffwn i fy mywyd i gael ei adeiladu ar sylfeini da a chryf.
Fe hoffwn i gael byw bywyd y gallaf fod yn falch ohono.
Helpa fi heddiw i wneud dewisiadau doeth, i gael yr agwedd iawn, ac i wneud fy ngorau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon