Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Golchwch eich dwylo!

Dathlu Diwrnod Byd-eang Golchi Dwylo

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd golchi ein dwylo gyda sebon er mwyn atal lledaeniad clefydau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen ffedog, bwrdd gwyn (neu ddalen fawr o bapur gwyn), dysglaid o ddwr cynnes, sebon, a thywel bach gwyn a thyweli papur. Gofalwch bod gennych chi ddwylo sy’n amlwg yn ‘fudr’ ar ddechrau’r gwasanaeth hwn.
  • Fe fydd arnoch chi angen aelod arall o’r staff neu wirfoddolwr i gymryd rhan yn y chwarae rôl ac arddangos sut mae golchi dwylo yn iawn.
  • Edrychwch ar y wefanhttp://globalhandwashing.org/global-handwashing-day/er mwyn cael awgrymiadau defnyddiol ynghylch gweithgareddau dilynol.

Gwasanaeth

  1. Yn gyntaf, chwaraewch rôl fel a ganlyn.

    Dewch i mewn i’r gwasanaeth yn gwisgo ffedog, a chyda dwylo sy’n amlwg yn ‘fudr’ iawn. Sychwch eich dwylo ar flaen eich ffedog, yna ewch i ysgrifennu rhywbeth ar y bwrdd gwyn gan adael marciau budr drosto, ac yna dywedwch, ‘O, na!’ Wedyn, rhowch eich llaw ar ochr eich wyneb wrth wneud hyn, gan adael marciau budr ar eich wyneb hefyd.
    Galwch ar yr athro neu’r athrawes arall, neu’r gwirfoddolwr, i ddod â’r  ddysglaid o ddwr cynnes i chi a’r eitemau eraill a nodwyd uchod.
    Yna, fe allwch chi ddweud rhywbeth fel, ‘Esgusodwch fi, blant, tra bydda i’n golchi fy nwylo’n sydyn cyn i ni ddechrau.’
    Trochwch eich dwylo’n sydyn i mewn ac allan o’r dwr a’u sychu gyda’r tywel gwyn glân, gan wneud hwnnw’n fudr hefyd! Dywedwch, ‘O, na!’ eto mewn llais sy’n llawn syndod.

    Bydd yr athro neu’r athrawes arall, neu’r gwirfoddolwr, yn dweud, ‘Na, na, na! Nid dyna’r ffordd i olchi dwylo! Nid dyna sut rydyn ni’n golchi ein dwylo, nage blant?’ Yna bydd y gwirfoddolwr yn mynd ymlaen i ddangos sut mae golchi dwylo yn y ffordd briodol gan ddweud rhywbeth fel ‘Nawr, dyma’r ffordd iawn i olchi dwylo, gyda dwr cynnes a sebon.’ Rydych chithau wedyn yn gwylio hyn ac yn dweud, ‘O ie, iawn, fe gofia i y tro nesaf!’

  2. Gan ymddwyn fel chi eich hunan yn awr, eglurwch i’r plant nad yw trochi’r dwylo’n sydyn mewn ychydig o ddwr yn ddigon da i’w golchi’n lân. Mae arnoch chi angen dwr cynnes a sebon i wneud y gwaith yn iawn.
    Edrychwch o gwmpas ar y plant wrth i chi ddweud, ‘Tybed faint o ddwylo sydd gennym ni yma sydd ddim ond yn cael trochfa sydyn mewn dwr, a ddim yn cael eu golchi’n iawn?’
    Gofynnwch i’r plant feddwl am y gwahanol adegau hynny pan fyddwn ni angen golchi ein dwylo’n iawn gyda dwr cynnes a sebon.

  3. Darllenwch y gerdd fach ganlynol, gan wahodd y plant i ymuno yn y cytgan.

    Cytgan
    Dwr cynnes a sebon,
    Dwr cynnes a sebon,
    Gobeithio’n wir
    Bod dwr cynnes a sebon !

    Mae fy nwylo i’n fudr,
    ar ôl bod yn paentio, welwch chi,
    llun tân gwyllt a rocedi
    yn saethu i’r awyr fry.

    Cytgan
    Dwr cynnes a sebon . . .

    Mae fy nwylo i’n fudr,
    ar ôl bod yn chwarae, welwch chi,
    gyda thractor bach a lori
    a chael lot o hwyl a sbri.

    Cytgan
    Dwr cynnes a sebon . . .

    Mae fy nwylo i’n fudr,
    ar ôl bod yn garddio, welwch chi,
    a chodi tatws blasus
    i wneud pryd o fwyd i ni.

    Cytgan
    Dwr cynnes a sebon . . .

  4. Nodwch yr achlysuron, fel mae’n nodi yn y gerdd, pan fydd ein dwylo ni’n gallu mynd yn fudr iawn, er enghraifft, pan fyddwn ni wedi bod yn paentio, neu’n chwarae ar lawr gyda cheir bach neu dractor a lori, neu pan fyddwch chi wedi bod yn gweithio yn y pridd yn yr ardd. Mae’n bwysig iawn golchi ein dwylo’n lân ar ôl bod yn gwneud pob math o weithgareddau fel hyn.

  5. Eglurwch ei bod hi fel arfer yn ddigon hawdd gweld ‘baw’ felly ar ein dwylo, ond allwn ni ddim gweld germau. Eglurwch hefyd mai pethau bach iawn, iawn, yw germau na allwn ni eu gweld, ond maen nhw’n cuddio o’n cwmpas ym mhob man, a germau sy’n achosi afiechydon a’n gwneud ni’n sâl ac yn achosi poen bol ac ati.
    Ewch ymlaen i egluro  bod un adeg neilltuol arall pryd y gallwn ni godi’r germau hyn ar ein dwylo’n hawdd, a hyd yn oed eu pasio ymlaen i bobl eraill hefyd heb i ni wybod. A’r adeg honno yw pan fyddwn ni’n mynd i’r toiled. Pwysleisiwch i’r plant ei bod hi’n hynod o bwysig golchi’r dwylo’n iawn ar ôl bod yn y toiled.
    Wedyn, darllenwch bennill olaf eich cerdd fach.

    Mae fy nwylo i’n fudr,
    ar ôl bod yn y toiled, welwch chi.
    Efallai eu bod yn edrych yn lân -
    ond mae’r germau’n disgwyl amdanaf i!

Cytgan
Dwr cynnes a sebon . . .

Amser i feddwl

Gofynnwch i un plentyn ddod atoch chi i ddangos sut mae golchi dwylo yn y ffordd gywir. Yna helpwch eich cynulleidfa i ystyried pa mor bwysig yw’r weithred syml hon.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am ddwr glân a sebon i ni allu golchi ein dwylo.
Helpa ni i gofio sut gallwn ni gadw’n ddiogel rhag germau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon