Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydw i angen y llyfr hwn!

Stori Mary Jones

gan Alan M. Barker (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu’r mwynhad o ddarllen llyfrau, gan gyfeirio at Sul y Beibl ar 23Hydref 2016.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cyn y gwasanaeth, gofynnwch i rai o’r plant ddod â’u hoff lyfr i’w ddangos a bod yn barod i sgwrsio ychydig am y llyfr hwnnw yn ystod y gwasanaeth.
  • Dewisol: mae’n bosib i chi ddefnyddio’r cyfarpar canlynol i’ch helpu chi ddweud y stori sydd i’w chael yng Ngham 3 y Gwasanaeth:

    - Hen Feibl teuluol mawr, neu Feibl mawr o eglwys neu gapel (ambell dro mae hen Feiblau ar gael mewn capel neu eglwys y byddai’r swyddogion yno’n fodlon rhoi eu benthyg i chi ar gyfer y gwasanaeth)
    - bwndel o frigau tewion
    - dau neu dri o wyau
    - pâr o esgidiau bach du hen ffasiwn
    - Beibl personol
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r fideo YouTube sy’n adrodd stori Mary Jones, sydd ar gael ar https://www.youtube.com/watch?v=EP6qFQyzCGA. (Os byddwch chi’n dymuno defnyddio’r fideo trefnwch fod gennych chi’r modd o’i ddangos yn y gwasanaeth.) Mae’n para 7.05 munud. Neu, fe allech chi ddefnyddio’r fideo er mwyn cael gwybodaeth gefndir.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy annog pawb i feddwl am y llyfrau y maen nhw’n mwynhau eu darllen. Pa rai yw eu hoff lyfrau? Gwahoddwch rai o’r plant i sôn am eu hoff lyfr wrth weddill y plant a’r oedolion yn y gwasanaeth. Gall llyfrau fynd â darllenwyr ar daith yn y dychymyg … ar daith i ddarganfod … ar daith i ddeall … a hyd yn oed ar daith o ffydd.

  2. Gofynnwch, pa mor bell y byddai’r plant yn fodlon mynd i ddod o hyd i lyfr? Atgoffwch y plant am y brwdfrydedd oedd ymysg pobl pan gafodd y cyfrolau diweddaraf yng nghyfres Harry Potter eu cyhoeddi: roedd pobl yn ciwio trwy’r nos y tu allan i’r siopau llyfrau! Fel arall, mae’n bosib prynu llyfrau’n rhwydd ar y we, neu o siopau llyfrau lleol. Neu mae’n bosib benthyca llyfrau o’r llyfrgell. Ble mae’r rhain i’w cael yn lleol? Pa mor bell yw’r siop lyfrau agosaf, neu’r llyfrgell?

  3. Soniwch nad oedd cymaint o lyfrau ar gael yn yr oesau a fu ag sydd heddiw. Cyflwynwch stori Mary Jones i’r plant, stori am ferch a oedd yn awyddus iawn i gael llyfr arbennig.

    Stori Mary Jones
    Ychydig dros 200 mlynedd yn ôl , roedd merch ifanc o’r enw Mary Jones yn byw yng Nghymru mewn pentref gwledig o’r enw Llanfihangel-y-Pennant. Roedd hi’n byw mewn bwthyn syml gyda’i mam a’i thad. Doedd dim llyfrau yn ei chartref, gan nad oedd yr un o’i rhieni’n gallu darllen.
    Ond, roedd Mary wrth ei bodd yn gwrando ar bobl yn darllen y Beibl yn yr eglwys, a chyda help eirhieni roedd hi’n gallu dysgu adnodau a rhannau o’r Beibl ar ei chof, yn Gymraeg. Fe fyddai Mary wrth ei bodd hefyd yn ymweld â ffermdy oedd heb fod ymhell o’i chartref. Yno, yr oedd Mr a Mrs Evans yn byw. Roedd ganddyn nhw Feibl, ac fe addawodd Mrs Evans i Mary y byddai hi’n cael dod yno i ddarllen y Beibl pe byddai hi’n gallu dysgu darllen.
    Deg oed oedd Mary pan glywodd hi’r newydd cyffrous fod rhywun yn mynd i agor ysgol ychydig o filltiroedd o’i chartref. Bob dydd, drwy bob tywydd, fe gerddai Mary i’r ysgol ac yn ei hôl wedyn, a chyn hir roedd hi wedi dysgu darllen. Roedd hi’n cael pleser mawr yn darllen Beibl Mrs Evans, ond roedd Mary’n ysu am gael Beibl iddi hi ei hun.
    Roedd hi mor awyddus, fe ddechreuodd gynilo arian er mwyn gallu prynu Beibl, a dechrau gwneud gwaith i bobl eraill, beth bynnag a allai, er mwyn ennill ychydig o geiniogau. Casglai goed tân i bobl, a chadwai ieir er mwyn casglu eu hwyau a’u gwerthu. Gweithiodd yn galed a chynilo am chwe blynedd, nes o’r diwedd roedd ganddi ddigon o arian i brynu Beibl iddi hi ei hun!
    Yn fuan wedyn, fe glywodd bod gan weinidog, yn nhref y Bala, Feiblau ar werth. Roedd y Bala 26 milltir o’i chartref. Felly, fe gychwynnodd Mary, a oedd erbyn hynny’n 15 oed, ar ei thaith dros y bryniau i’r Bala. Cerddodd yn droednoeth gan gario’i harian yn ofalus, a’i hunig bâr o esgidiau hefyd, fel y gallai eu rhoi am ei thraed pan fyddai wedi cyrraedd y dref.
    Pan glywodd pobl y dref y rheswm pam roedd Mary wedi cerdded yr holl ffordd, roedden nhw’n groesawus iawn, ac fe wnaethon nhw ddangos iddi ble roedd y gweinidog, Thomas Charles, yn byw.  Gwrandawodd Thomas Charles ar Mary’n dweud ei hanes. Fe soniodd wrtho pa mor galed roedd hi wedi gweithio i ennill yr arian, a pha mor hir roedd hi wedi gorfod aros cyn iddi gynilo digon, a pha mor bell yr oedd hi wedi cerdded er mwyn gallu prynu ei Beibl. Yn anffodus, roedd Thomas Charles wedi addo’r tri Beibl oedd ganddo ar ôl, i rywun arall. Roedd yn wir ddrwg ganddo, ond doedd dim un arall ar ôl ganddo i’w werthu i Mary.
    Dychmygwch sut roedd Mary’n teimlo!. Roedd hi wedi blino’n ofnadwy ar ôl cerdded mor bell, ac roedd hi mor siomedig fel y dechreuodd grïo. Meddyliodd Thomas Charles eto. Roedd yn gallu gweld pa mor awyddus oedd Mary i gael Beibl i’w ddarllen. Roedd hi eisiau Beibl o ddifrif. Ac fe wyddai y byddai un o’r bobl yr oedd wedi addo un o’r Beiblau oedd ar ôl iddyn nhw, yn deall y sefyllfa. Felly, fe roddodd un o’r Beiblau i Mary. Roedd hi’n ddiolchgar iawn i Thomas Charles.
    Arhosodd Mary yn y Bala dros nos, a’r bore wedyn cychwynnodd am adref, gan fynd yn ôl dros y bryniau, yn cario’i llyfr gwerthfawr yn ofalus!

  4. Eglurwch fod y stori ryfeddol hon wedi cael ei hailadrodd drosodd a throsodd ar hyd y blynyddoedd, ac weithiau mae’r manylion yn amrywio. Ond fewnaethMary Jones weithio’n galed a chynilo’i harian am chwe blynedd, ac fewnaethhi gerdded 26 milltir, oherwydd ei bod hi gymaint o eisiau un llyfr arbennig - y Beibl.

    Ail ofynnwch y cwestiwn y gwnaethoch chi ei ofyn yn gynharach: Felly, pa mor bell y byddech chi’n mynd i ddod o hyd i lyfr? Mae stori Mary Jones yn dangos i ni fod llyfrau, yn wir, yn gallu mynd â darllenwyr ar daith yn y dychymyg … ar daith i ddarganfod … ar daith o ddealltwriaeth … a hyd yn oed ar daith o ffydd!

  5. Os bydd unrhyw eglwysi lleol yn dathlu Sul y Beibl ar 23 Hydref, eglurwch fod yr amser hir y bu Mary Jones yn aros, a’r daith hir y gwnaeth hi ei cherdded, yn adlewyrchu pa mor bwysig yw’r Beibl i’r rhai sy’n dilyn y ffydd Gristnogol. Wrth weld awydd mawr Mary i gael Beibl iddi ei hun, fe ddechreuodd Thomas Charles weithio gyda nifer o bobl eraill er mwyn gofalu bod y Beibl ar gael yn rhwydd i bobl fel Mary Jones. Fe sefydlodd gymdeithas o’r enwBritish and Foreign Bible Society, oedd yn amcanu i helpu cymaint o bobl â phosib i fod yn berchen ar eu Beiblau eu hunain, yn eu hiaith eu hunain. Erbyn heddiw, mae Cymdeithas y Beiblau a’i chefnogwyr yn parhau i ddosbarthu Beiblau y bydd pobl yn gallu eu darllen a’u deall.

Amser i feddwl

Gadewch i ni fod yn dawel am foment neu ddwy tra byddwn ni’n meddwl am lyfrau.

Gadewch i ni feddwl am:

- y llyfrau rydych chi’n mwynhau eu darllen
- yr holl lyfrau sydd yn yr ysgol
- y llyfrau y gallwn ni eu benthyca o’r llyfrgell
- y llyfrau y mae’n bosib i ni eu prynu

Gadewch i ni fod yn ddiolchgar:

- am lyfrau
- am yr her a’r pleser o ddysgu darllen
- am deithiau o ddychmygu a darganfod
-am deithiau o ddeall a theithiau o ffydd.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon