Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae anifeiliaid yn arbennig

Mae anifeiliaid yn arbennig – Dydd Sant Ffransis, 4 Hydref

gan Alan M. Barker (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2007)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am ofalu am anifeiliaid anwes wrth ystyried Dydd Sant Ffransis ar 4 Hydref.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r llyfr stori i blant,Ginger Finds a Homegan Charlotte Voake (Walker Books,2003). Neu, fe allech chi ddefnyddio unrhyw lyfr arall sy’n sôn am ofalu am anifeiliaid anwes.
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi arddangos rhai lluniau o gathod yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ofyn faint o'r plant sydd â chath (neu gathod) fel anifail anwes yn eu cartref, neu sydd â chath yn eu cymdogaeth. Beth yw eu henwau? Beth maen nhw'n ei fwyta? Sut maen nhw’n ymddwyn pan fyddan nhw eisiau bwyd. . . a phan fyddan nhw wedi cael digon o fwyd? A oes unrhyw un o'r plant yn helpu i ofalu am gath?

  2. Meddyliwch am y ffaith bod llawer o gathod yn ffodus ac yn cael gofal da. Mae rhai, fodd bynnag, sydd ddim yn cael gofal ac yn dod yn gathod 'strae', Mae hynny’n golygu nad oes ganddyn nhw unrhyw un i ofalu amdanyn nhw nac unrhyw le i fyw ynddo. Oes unrhyw un wedi rhoi cartref i gath goll neu gath sy’n crwydro?

  3. Cyflwynwch y stori,Ginger Finds a Home.

  4. Gofynnwch i'r plant ystyried sut mae ymddygiad Ginger yn newid yn raddol ar ôl cyfarfod y ferch fach. Gwahoddwch nhw i sylwi ar sut y daeth Ginger yn fwy dof wedyn. Ar y dechrau, fe redodd i ffwrdd pan oedd y ferch fach yn ceisio rhoi mwythau iddi, ond ar ôl ychydig, roedd y gath fach yn dod ati pan oedd yn galw arni, a phan roedd hi’n ei hanwesu, roedd y gath yn canu grwndi. Gwahoddwch y plant i ddisgrifio sut y gallai Ginger fod wedi teimlo wrth fynd i mewn i'r ty. Doedd Ginger erioed wedi bod mewn ty cyn hynny!

  5. Roedd y ferch fach yn pryderu ei bod wedi codi ofn ar Ginger a’i bod wedi rhedeg i ffwrdd mewn braw. Beth wnaeth i Ginger ddod yn ôl? Pwysleisiwch sut mae'r ferch fach yn trin Ginger, gyda charedigrwydd a addfwynder.

  6. Adroddwch yr gerdd fach syml hon gan wneud symudiadau priodol i gyd-fynd â’r geiriau (addasiad o eiriau Alan M. Barker, 2007).

    O gath fach annwyl!
    Wyt ti’n cuddio dan y bwrdd?
    Dyma fwyd i ti,
    paid â rhedeg i ffwrdd.

    O gath fach annwyl!
    cei dy fwytho’n dyner.
    Pan fyddi di’n hapus,
    byddi’n canu grwndi drwy’r amser.

    O gath fach annwyl!
    Pam rwyt ti’n mynnu crwydro?
    Mae yma le i un fach fel ti,
    cei yma ddigon o groeso.

  7. Meddyliwch am y ffaith, er y byddai llawer o bobl yn hoffi rhoi cartref i gath strae neu anifail arall, mae'n gyfrifoldeb mawr gwneud hynny. Mae angen gofal priodol ar anifeiliaid. Mae’n ofynnol eu bwydo a rhoi sylw iddyn nhw bob dydd, yn enwedig pan fyddan nhw’n tyfu hen. Weithiau mae angen iddyn nhw fynd at y milfeddyg i gael eu brechu neu gael meddyginiaeth. Gall cathod fyw am dros 15 mlynedd! Mae'n bwysig iawn cofio hyn cyn rhoi cartref i unrhyw anifail. Fe fyddai peidio ag ystyried y pethau hyn yn greulon.

  8. Dewch â’r gwasanaeth i ben drwy esbonio bod sant Cristnogol enwog iawn yn cael ei gofio am ei addfwynder a’i garedigrwydd tuag at anifeiliaid. Ei enw yw Sant Ffransis. Galwodd y creaduriaid yn frodyr a chwiorydd iddo. Roedd yn ffordd o ddangos ei fod yn eu parchu. Fel y ferch fach yn y stori, ac fel Sant Ffransis, fe allwn ninnau ddangos ein parch tuag at gathod a chreaduriaid eraill drwy fod yn addfwyn ac yn garedig wrthyn nhw. Mae Dydd Sant Ffransis ar 4 Hydref. Mae'n amser arbennig i gofio pa mor bwysig yw gofalu am anifeiliaid.

    Adroddwch y pennill yma i gloi'r gerdd fach sydd i’w gweld yng Ngham 6.

    O gath fach annwyl!
    Mae’n cysgu’n braf, welwch chi.
    Rwyt ti’n arbennig gan Dduw,
    ac yn arbennig i mi!

Amser i feddwl

Meddyliwch am unrhyw anifeiliaid rydych chi’n gwybod amdanyn nhw: anifeiliaid anwes, anifeiliaid gwyllt, anifeiliaid fferm neu anifeiliaid mewn sw.

- Ydych chi bob amser yn garedig tuag atyn nhw?
-Ydych chi’n rhoi’r sylw a’r gofal sydd ei angen i’ch anifeiliaid anwes?
-Allwch chi wneud mwy i’r anifeiliaid sydd o’ch cwmpas chi ac sy’n rhannu eich byd?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am ein hanifeiliaid anwes ac am eu cwmni a’u cyfeillgarwch.
Helpa ni i ofalu amdanyn nhw’n dda a’u trin yn ofalus a charedig,
Heddiw a phob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon