Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhan o deulu mawr

Stori Ruth a Naomi, rhan 6

gan Charmian Roberts

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y cysylltiad rhwng stori Ruth a Naomi a choeden deuluol Iesu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dau fag. Fe ddylai'r cyntaf gynnwys cliwiau i awgrymu dathlu’r Nadolig, pethau fel cracer, addurn coeden Nadolig, het parti, seren, a phapur lapio Nadoligaidd. Fe ddylai'r ail gynnwys cliwiau i awgrymu dathlu priodas, pethau fel penwisg neu fêl, conffeti, llun cacen briodas a llun y pâr sydd wedi priodi.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen golygfa o Wyl y Geni. Neu, efallai y byddai'n well gennych ddefnyddio delwedd o olygfa'r Geni, ac os felly, fe fydd angen i chi drefnu’r modd o arddangos y ddelwedd honno yn ystod y gwasanaeth. Mae  enghraifft i’w chael ar: http://excathedra.co.uk/?attachment_id=8352

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod yn mynd i ddangos rhai cliwiau i'r plant am ddathliad enwog yr ydych yn meddwl amdano, a'ch bod eisiau iddyn nhw ddyfalu pa ddathliad sydd dan sylw gennych chi. Gofynnwch i blentyn ddod ymlaen atoch i dynnu eitemau fesul un o'ch bag cyntaf. Dewch i’r canlyniad eich bod yn meddwl am y Nadolig.
    Gofynnwch i'r plant am y math o bethau y maen nhw'n ei wneud gyda'u teuluoedd yn ystod y Nadolig, neu yn ystod dathliadau pwysig eraill. Nodwch y gallai fod yn ymddangos yn beth rhyfedd sôn am y Nadolig yr amser hwn o'r flwyddyn, ond fe fydd y plant yn deall paham eich bod yn gwneud hyn erbyn diwedd y gwasanaeth!

  2. Dewiswch blentyn arall i ddod atoch i dynnu allan yr eitemau sydd gennych yn yr ail fag, a dywedwch eich bod yn meddwl am y briodas, rhywbeth a oedd dan sylw gennych yn y gwasanaeth blaenorol yn y gyfres (‘Mae'r cynllun yn datblygu’). Atgoffwch y plant fod Ruth wedi priodi Boas, a'i bod wedyn wedi cael bachgen bach o'r enw Obed.

  3. Dywedwch wrth y plant bod Obed hefyd, mab Ruth, ar ôl iddo dyfu i fyny, wedi cael mab. Enw’r mab hwnnw oedd Jesse. Tyfodd Jesse i fyny a chafodd saith mab, ac enw'r ieuengaf ohonyn nhw oedd Dafydd. Gor-wyr i Ruth felly oedd Dafydd, a gor-or-wyr i Naomi. Daeth Dafydd yn frenin mawr a deyrnasodd dros Israel am lawer o flynyddoedd. Roedd yn frenin da a oedd yn caru ac yn gwasanaethu Duw.

  4. Ymhen blynyddoedd lawer, cafodd bachgen arall ei eni ym Methlehem, oedd yn ddisgynnydd o Frenin Dafydd (sef gor-or-or-or-or-or- .  .  . wyr). Gofynnwch i'r plant os gallan nhw feddwl am fachgen bach arall a gafodd ei eni ym Methlehem? Mae’n debyg y byddan nhw’n gallu cofio fod Iesu wedi cael ei eni ym Methlehem. Atgoffwch y plant mai genedigaeth Iesu yw'r hyn y mae Cristnogion yn ei ddathlu adeg y Nadolig, ac na fyddai hynny wedi bod yn bosib heb Ruth a’i baban bach hi oedd wedi cael ei eni lawer o flynyddoedd cyn geni Iesu.

    Dangoswch olygfa'r enedigaeth, neu ddelwedd ohono.

    Gwnewch y sylw mai dyna paham yr oeddech yn sôn am y cyswllt â'r Nadolig ar ddechrau'r gwasanaeth. Oherwydd bod Ruth wedi priodi â Boas a chael ei mab Obed, roedd yn bosib i Iesu gael ei eni ym Methlehem flynyddoedd yn ddiweddarach!

  5. Atgoffwch y plant am stori Ruth a Naomi. Atgoffwch nhw fod Ruth wedi ymadael â'i gwlad Moab a gadael popeth ar ôl er mwyn dod i Fethlehem gyda Naomi, ei mam-yng-nghyfraith. Fe arhosodd Ruth gyda Naomi, gan wneud yr addewid y byddai Duw Naomi yn Dduw iddi hi hefyd. Roedd Ruth ar ei phen ei hun, ac yn ddieithryn mewn gwlad estron, ond fe ddaeth yn rhan o goeden deulu Iesu!

  6. Gofynnwch i'r plant feddwl am yr holl bobl a wasanaethodd ym mhriodas Ruth a Boas, a'r modd y bu i bawb ohonyn nhw lawenhau gyda'r newyddion am enedigaeth baban newydd i'r teulu.
    Gofynnwch i'r plant feddwl am eu teuluoedd eu hunain. Pwy yw aelodau eu teulu? Gallai'r atebion gynnwys mam, tad, brodyr, chwiorydd, llysfam, llys-dad, modrybedd, ewythrod, cefndryd a chyfnitherod ac yn y blaen. Nodwch nad y bobl yr ydyn ni'n byw gyda nhw yn unig yw teuluoedd, ond fe allan nhw hefyd gynnwys cylch ehangach o bobl. Weithiau byddwn yn sôn am ‘deulu'r ysgol’ ac weithiau, mae gennym ffrindiau teuluol sydd mor agos atom fel ein bod yn eu hystyried fel teulu. Teuluoedd bach iawn o ran nifer sydd gan rai ohonom, ac mae gan rai eraill deuluoedd mwy o faint, ac mae pob teulu'n wahanol (byddwch yn sensitif yma tuag at blant mewn gwahanol fathau o deuluoedd, neu sydd ddim yn cael eu gwarchod gan eu teuluoedd biolegol). Mae Cristnogion yn credu y gall pawb ohonom fod yn aelod o deulu Duw - lle y gallwn gael ein caru a'n gwarchod.

Amser i feddwl

Mae teuluoedd yn bwysig i bawb. Mae Cristnogion yn credu ei bod hi hefyd yn bwysig i fod yn rhan o deulu Duw. Mae'n beth arbennig i ddathlu yng nghwmni teulu, boed hynny'n ddathlu ar adeg y Nadolig, yn dathlu genedigaeth baban, neu unrhyw ddathliad arall. Fodd bynnag, mae stori Ruth yn ein hatgoffa weithiau nad oes gan rai pobl deuluoedd agos. Mae llawer o bobl oedrannus yn unig - yn union fel yr oedd Naomi yn y stori hon. Yn yr un modd, fe all bod rhai plant sy'n teimlo'n unig yn ein hysgol. Mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw fel y gallwn ni eu cynnwys yn ein cylchoedd cyfeillgar ac yn nheulu ehangach yr ysgol.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dyfod ti wedi gofalu am Ruth a Naomi, a’u bod wedi eu cynnwys yn dy gynllun di i anfon Iesu i’r byd.
Diolch i ti am ein teuluoedd ni ein hunai sy’n gofalu amdanom ac yn ein caru.
Helpa ni gofio’r rhai hynny sy’n unig, ac yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio, ac oherwydd hynny’n teimlo’n drist.
Helpa ni i fod yn gynhwysol yn ein cyfeillgarwch.
A helpa ni i feddwl am bobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon