Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diolch tymhorol

Cardiau diolch

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pwysigrwydd bod yn ddiolchgar.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o gardiau sy'n dathlu digwyddiadau arbennig fel pen-blwydd, dyfodiad baban newydd, y Nadolig, y Pasg (neu wyl grefyddol arall), a cherdyn gwellhad buan. Dylai'r rhain gael eu hysgrifennu a'u cyfeirio naill ai atoch chi eich hunan neu at wahanol bobl yn yr ystafell.
    Nodwch: mae nodiadau’r gwasanaeth yn awgrymu cwestiynau sy'n benodol ar gyfer y cardiau hyn, ond byddai’n bosib defnyddio unrhyw fath o gardiau gyda'r cwestiynau’n cael eu newid ychydig yn ôl yr angen.
  • Dewisol: os bydd hynny’n bosib, trefnwch fod gennych chi gerdyn diolch ar gael sy’n waith llaw un o’r plant.

Gwasanaeth

  1. Mae sawl ffordd o anfon negeseuon.

    Gofynnwch i’r plant awgrymu gwahanol fathau o enghreifftiau. Gallai’r enghreifftiau gynnwys neges destun, ffôn, e-bost ac ati.

    Un o'r ffyrdd mwyaf cyffrous o dderbyn neges yw pan gaiff ei dosbarthu i chi gan y postmon! Tybed a ydych chi’n hoffi cael pethau drwy'r post?

    Gofynnwch i'r plant ydyn nhw'n cofio cael rhywbeth drwy’r post. Sut roedden nhw'n teimlo ar y pryd?

    Gwrandech ar amrywiaeth o ymatebion.

    Mae bob amser yn gyffrous gweld rhywbeth sydd â’ch enw chi arno. Yn achos oedolion, mae'r llythyrau a’r taflenni sy’n cael eu hanfon trwy’r post yn aml yn bethau anniddorol iawn - fe allen nhw fod yn llythyrau sothach, cyfriflenni o’r banc neu hyd yn oed yn filiau. Ond ar adegau penodol o'r flwyddyn, efallai y bydd ambell beth mwy diddorol yn dod trwy’r post i ni i gyd.

    Gadewch i ni edrych ar rai pethau a allai fod yn dod trwy’r post

  2. Codwch y cerdyn pen-blwydd a darllenwch yr enw ar yr amlen. (Gall yn enw fod eich enw chi eich hunan neu enw rhywun arall sy’n bresennol. Os oes plentyn sydd â phen-blwydd ar ddiwrnod y gwasanaeth, byddai'n dda ei ddewis ef neu hi.)

    Agorwch y cerdyn pen-blwydd.Darllenwch y datganiadau a’r cwestiynau canlynol a rhowch gyfle i’r plant ymateb ar ôl pob un.

    - Dwylo i fyny os ydych chi’n hoffi derbyn cerdyn fel hwn.
    - Sut byddech chi’n teimlo pe byddech chi ddim yn cael cerdyn pen-blwydd, byth?
    - Codwch ar eich traed os ydych chi wedi cael cerdyn pen-blwydd yn ystod y mis hwn.

    Gadewch i ni gymryd golwg o gwmpas ar y rhai hynny o bob oedran sy’n dathlu eu pen-blwydd yn ystod y mis hwn, a dymuno pen-blwydd hapus iawn i bob un ohonyn nhw.

  3. Agorwch y cerdyn llongyfarchiadau ar enedigaeth babi bach.Darllenwch y datganiadau a’r cwestiynau canlynol a rhowch gyfle i’r plant ymateb ar ôl pob un.

    -Dwylo i fyny os oes rhywun yn eich teulu wedi derbyn cerdyn fel hwn yn ddiweddar.
    -A oes yma rywun wedi gweld babi bach newydd yn ddiweddar?

    (Rhowch gyfle i rai o’r plant sgwrsio am achlysur genedigaeth babi bach yn eu teulu neu i deulu ffrindiau iddyn nhw.)

  4. Agorwch y cerdyn Nadolig. Darllenwch y datganiadau a’r cwestiynau canlynol a rhowch gyfle i’r plant ymateb ar ôl pob un.

    -Dwylo i fyny os ydych chi’n hoffi derbyn cerdyn fel hwn.
    -Pa adeg ar y flwyddyn y bydd cardiau fel rhain yn cael eu gwthio drwy ddrws y ty, neu eu rhoi yn eich blwch llythyrau?
    -Pa fath o ddarluniau a fyddai ar y cardiau hynny?
    -Beth yw’r neges sydd ar y cerdyn fel arfer?
    -Pwy fyddai’n debygol o anfon un o’r rhain i chi?

  5. Agorwch y cerdyn Pasg (neu gerdyn sy’n dathlu gwyl arall y mae’r plant yn gyfarwydd â hi).Darllenwch y datganiadau a’r cwestiynau canlynol a rhowch gyfle i’r plant ymateb ar ôl pob un.

    -Pa adeg ar y flwyddyn y bydd cardiau fel rhain yn cael eu gwthio drwy ddrws y ty neu eu rhoi yn eich blwch llythyrau?
    -Pa fath o ddarluniau a fyddai ar y cardiau hynny?
    -Beth yw’r neges sydd ar y cerdyn fel arfer?
    - Pwy fyddai’n debygol o anfon un o’r rhain i chi?

  6. Agorwch y cerdyn gwellhad buan. Darllenwch y datganiadau a’r cwestiynau canlynol a rhowch gyfle i’r plant ymateb ar ôl pob un.

    -Dwylo i fyny os ydych chi wedi derbyn cerdyn fel hwn ryw dro.
    -Beth oedd o’i le arnoch chi bryd hynny?
    -Dwylo i fyny os ydych chi wedi anfon cerdyn fel hwn i rywun ryw dro. At bwy y gwnaethoch chi ei anfon?
    -Pam mae pobl yn anfon cardiau gwellhad buan?

  7. Eglurwch fod gennych chi hoff fath o gerdyn cyfarch. Cerdyn diolch yw hwnnw.

    Os bydd hynny’n bosib, dangoswch gerdyn diolch sydd wedi ei wneud â llaw gan un o’r plant, a siaradwch am y llun ac am y neges. Darllenwch y datganiadau a’r cwestiynau canlynol a rhowch gyfle i’r plant ymateb ar ôl pob un.

    - Pam rydych chi’n meddwl fy mod i’n hoffi’r math hwn o gerdyn?
    - Sut rydych chi’n meddwl maen nhw’n gwneud i mi deimlo?
    - Ydych chi ryw dro wedi anfon cerdyn diolch?

    (Rhowch gyfle i’r plant ymateb i’r cwestiwn hwn gan nodi at bwy y gwnaethon nhw anfon y cerdyn, a sôn am y rheswm pam y gwnaethon nhw ei anfon.)

    Awgrymwch fod diolch syml yn gallu dod â llawenydd mawr i bobl.

  8. Gwnewch sylw o’r ffaith fod pobl, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn cael eu hatgoffa i ddiolch yn arbennig am amser y cynhaeaf. Gofynnwch i'r plant feddwl a oes unrhyw un y gallen nhw ddweud diolch wrtho ef neu hi am rywbeth, neu ar gyfer pwy y gallen nhw wneud cerdyn diolch arbennig.

Amser i feddwl

Mae llawer o bobl yn defnyddio adeg y cynhaeaf fel amser i ddweud diolch wrth Dduw am y byd hardd y mae wedi ei greu i ni fyw ynddo. Mae pobl yn diolch i Dduw am yr haul, ac am y glaw, sy'n helpu planhigion i dyfu fel bydd gennym lysiau a ffrwythau a grawnfwydydd i’w bwyta.

Am beth rydych chi’n ddiolchgar?
Oes rhywun arbennig y gallech chi lunio cerdyn diolch iddo ef neu iddi hi?
Pa neges fyddech chi’n ei hysgrifennu ar y cerdyn?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am adeg y cynhaeaf.
Diolch dy fod ti wedi anfon yr heulwen a’r glaw.
Diolch bod y ffermwyr yn brysur yn y caeau yn casglu’r cynhaeaf i gyd.
Diolch i ti am yr holl fwydydd hyfryd y gallwn ni eu bwyta a’u mwynhau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon