Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diolch am amser gwely

Mae’r Diolchgarwch am y Cynhaeaf yn golygu cyfrif ein bendithion bob dydd

gan Revd Richard Lamey

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y gallwn fod yn ddiolchgar bob dydd - hyd yn oed am y pethau nad ydym yn ei hoffi yn fawr iawn!

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen gwn wisgo, rhai madarch bwytadwy (fydd y plant ddim yn bwyta’r rhain, ond efallai y byddai’n dda i chi wirio ynghylch alergeddau), a llyfr gwaith cartref.
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ymgyfarwyddo â’r stori am y deg dyn a oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf, sydd i’w chael yn Luc 17.11-19.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant beth yw ystyr y term ‘cynhaeaf ‘.

    Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion.

  2. Adeg Diolchgarwch am y Cynhaeaf yw’r adeg o'r flwyddyn pan fyddwn yn cael ein hatgoffa am ba mor ffodus ydyn ni i gael digon o fwyd i’w fwyta, a llawer iawn o bethau materol eraill. Mae'n adeg pan fydd pobl yn dangos haelioni a charedigrwydd, gan eu bod yn rhoi i bobl eraill sydd mewn angen.

  3. Adeg Diolchgarwch am y Cynhaeaf yw’r adeg o'r flwyddyn pan fyddwn yn cael ein hatgoffa i fod yn ddiolchgar am y cyfan sydd gennym ni.Ond, a ydyn ni o ddifrif yn ddiolchgar am bopeth rydyn ni’n ei gael?

    Dangoswch yr wn wisgo i’r plant a gofynnwch,‘Pwy sy’n hoffi mynd i’r gwely?’

    Dangoswch y madarch i’r plant a gofynnwch,‘Pwy sy’n hoffi madarch?’(Mae’n debyg y cewch chi ymateb amrywiol gan wahanol blant!)

    Dangoswch y llyfr gwaith cartref i’r plant a gofynnwch,‘Pwy sy’n hoffi gwneud gwaith cartref?’

    Felly, ydyn ni o ddifrif eisiau dweud diolch am bopeth?

  4. Efallai mai’r allwedd i fod yn ddiolchgar am bopeth yw i ni atgoffa ein hunain yn ddyddiol o'r holl bethau da sy'n digwydd yn ein bywydau ddydd ar ôl dydd. Mae’r Diolchgarwch am y Cynhaeaf yn ddigwyddiad sy'n digwydd unwaith y flwyddyn, ond gall bod yn ddiolchgar ddigwydd drwy'r amser!

  5. Weithiau, mae angen i ni aros a meddwl am bethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol. Er enghraifft, gall gorfod mynd i'r gwely ymddangos yn ddiflas ar adegau, ond mae mewn gwirionedd yn dweud wrthym fod gennym ni rieni neu ofalwyr sy'n gofalu digon amdanom ni i wybod ein bod angen digon o gwsg i fod yn hapus ac yn iach. Felly, pan fydd rhywun yn dweud wrthym ei bod yn bryd diffodd y teledu a mynd i fyny'r grisiau i'r gwely, mewn gwirionedd mae'n arwydd bod rhywun y ein caru ac yn gofalu amdanom. Fe allwn ni fod yn ddiolchgar iawn am hynny!

  6. Efallai y bydd rhai ohonoch chi ddim yn hoffi madarch neu rhai bwydydd eraill. Fodd bynnag, gall unrhyw fwyd fod yn ein hatgoffa bod gennym ddigon i'w fwyta yn y wlad hon, tra bydd plant mewn rhannau eraill o'r byd yn mynd i gysgu’n teimlo'n newynog heno. Gall bwydydd felly, hyd yn oed y bwydydd nad ydym yn eu hoffi’n fawr iawn, ein helpu i fod yn ddiolchgar bod gennym ddigon i'w fwyta a’i yfed, ac i fod yn ddiolchgar bod gennym rywfaint o ddewis ynghylch beth i'w fwyta.

  7. Efallai y bydd rhai ohonoch chi ddim yn hoffi gwneud gwaith cartref! Efallai y byddai'n well gennych chwarae allan gyda'ch ffrindiau. Fodd bynnag, mae miliynau o bobl yn y byd heddiw sy'n dal i fethu darllen ac ysgrifennu. Mae hyn yn eu hatal rhag cael swyddi ac yn eu cadw mewn cylch o dlodi na allan nhw ddianc rhagddo. Felly, gall hyd yn oed ein gwaith cartref ein hatgoffa ni ein bod yn ffodus i gael addysg dda a fydd yn ein helpu ni yn y dyfodol. Gallwn fod yn ddiolchgar iawn am hynny!

  8. Gosodwch 'her cynhaeaf' i’r plant. Yr her yw dod o hyd un peth i fod yn ddiolchgar amdano bob dydd. Byddai'n dda pe byddai’r her hon yn para yn hwy na dim ond yn ystod adeg Diolchgarwch am y Cynhaeaf - byddai'n wych pe byddai'n parhau bob dydd am flwyddyn gyfan! Mae bywyd yn rhodd ac mae angen i ni wneud y mwyaf ohono drwy fod yn ddiolchgar bob dydd o’n bywyd.

  9. Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio stori'r deg o ddynion a oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf, stori sydd i’w chael yn Luc 17.11-19. Pwysleisiwch mai dim ond un dyn oedd yn ddigon diolchgar i ddod yn ei ôl i ddweud ‘diolch’.

Amser i feddwl

Mae adeg Diolchgarwch am y Cynhaeaf yn ymwneud â rhannu’r hyn sydd gennym ag eraill, a hefyd ynghylch dweud ‘diolch’ wrth Dduw ac wrth aelodau ein teulu.

Pan fyddwch chi’n mynd adref heddiw, wrth bwy y gallech chi ddweud ‘diolch’ am y ffordd maen nhw’n gofalu amdanoch chi?

Yn yr ysgol heddiw, wrth bwy y gallech chi ddweud ‘diolch’ am y ffordd maen nhw’n gofalu amdanoch chi? Eich athrawon? Eich ffrindiau?

Gadewch i ni i gyd gofio dweud ‘diolch’.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am bopeth rwyt ti’n ei roi i ni, hyd yn oed y pethau dydyn ni ddim yn eu mwynhau’n fawr iawn!
Helpa ni i fod yn bobl ddiolchgar sy’n dweud ‘diolch’ bob dydd.
Helpa ni i ddweud ‘diolch’ wrth y rhai sy’n rhoi’r lle blaenaf i ni ac yn gofalu cymaint amdanom.
Helpa ni i ddweud ‘diolch’ trwy rannu gyda rhai sydd â llai o bethau nag sydd gennym ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon