Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Fe wnawn ni eu cofio nhw

Gwasanaeth ar gyfer Dydd y Cofio

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pwysigrwydd Dydd y Cofio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen casgliad o 20 o eitemau ar gyfer Gêm Kim yng ngham 1 y ‘Gwasanaeth'. Fe ddylai’r eitemau hyn gynnwys gwrthrychau sy'n gysylltiedig â Dydd y Cofio mewn rhyw ffordd. Er enghraifft, milwr tegan, gwn tegan neu wn dwr, pabi, biwgl neu utgorn, arwydd sy'n dweud 'Distawrwydd', pecyn cymorth cyntaf, medal, dyddiadur neu galendr wedi ei agor i ddangos 11 Tachwedd, a channwyll.
  • Fe fydd arnoch chi angen delwedd o'r casgliad pabi coch oddi amgylch Twr Llundain, a'r modd o arddangos y ddelwedd honno, sydd ar gael ar:http://tinyurl.com/zxb28cx

Dewisol: trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gerddoriaeth Last Post a’r modd o chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y gwasanaeth. Mae’n para am 5.06 munud, ac mae ar gael ar:  https://www.youtube.com/watch?v=99tCg596QSc

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant ydyn nhw wedi clywed am y gêm a elwir yn Gêm Kim. Esboniwch eich bod yn mynd i ddangos 20 o wrthrychau iddyn nhw ac yna, ar ôl munud, fe fyddwch yn gorchuddio’r cyfan o'r gwrthrychau ac yn holi’r plant faint o’r pethau sydd yno maen nhw’n gallu eu cofio. Ar ôl chwarae'r gêm i ddechrau, gofynnwch i'r plant siarad â'r person nesaf atyn nhw er mwyn gweld faint o wrthrychau y gallan nhw eu cofio. Yna, lluniwch restr drwy ofyn i bawb am awgrymiadau.

  2. Gofynnwch i'r plant pa wrthrychau sydd â rhywbeth i'w wneud â Dydd y Cofio a gofyn iddyn nhw pam eu bod yn credu bod hynny.

  3. Eglurwch fod y gwrthrychau wedi cael eu defnyddio am y rhesymau canlynol.

    - Milwr tegan: mae milwyr yn ymladd mewn rhyfeloedd, ac mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu lladd wrth wneud hynny.
    - Gwn tegan: caiff gynau eu defnyddio mewn rhyfeloedd.
    - Pabi coch:  yn y wlad hon, mae pobl yn gwisgo pabi coch yr adeg hon o'r flwyddyn i ddangos eu bod yn meddwl am y rhai sydd wedi cael eu lladd neu wedi cael eu hanafu yn ystod rhyfeloedd ac adegau o wrthdaro. Mae'r pabi yn symbol o gofio am fod llawer o’r pabi coch yn tyfu yn y caeau o amgylch Fflandrys yng Ngwlad Belg, a dyna ble y digwyddodd yr achosion gwaethaf o ymladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
    - Biwgl neu utgorn: mewn llawer o wasanaethau coffa fe fydd rhywun chwarae'r gerddoriaeth ‘Last Post’ ar y biwgl neu’r utgorn. Ym mywyd y fyddin, mae cerddoriaeth y ‘Last Post’ yn nodi diwedd y dydd, neu ffarwel olaf, felly mae'n symbol priodol i gofio am y bobl hynny sydd wedi marw.
    - Yr arwydd sydd â’r gair ‘Distawrwydd’: mewn llawer o wledydd, gofynnir i bobl gadw'n dawel am ddau funud ar Ddydd y Cofio. Yn ystod y cyfnod hwn, gofynnir iddyn nhw feddwl am y rhai a fu'n ymladd, neu’r rhai sy’n parhau i ymladd, ar eu rhan.
    - Pecyn cymorth cyntaf: mae llawr o bobl yn cael eu hanafu mewn rhyfeloedd.
    - Medal: roedd llawer o filwyr yn derbyn medalau am eu dewrder yn ystod rhyfeloedd ac, mewn rhai achosion, mae rhai yn dal i gael eu gwobrwyo â medal hyd heddiw.
    - Dyddiadur neu galendr: mae hwn yn ein hatgoffa am Ddydd y Cofio.
    - Cannwyll: symbol o goffadwriaeth sy’n cael ei ddefnyddio mewn llawer o eglwysi ar Sul y Cofio.

  4. Eglurwch fod Sul y Cofio yn digwydd bob mis Tachwedd. Sul y Cofio yw'r diwrnod pan fyddwn yn cofio'r holl filwyr a gafodd eu lladd neu eu hanafu yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, a'r rhai sydd wedi cael eu lladd neu eu hanafu mewn rhyfeloedd a gwrthdaro mwy diweddar. Mae Dydd y Cofio ei hun ar 11 Tachwedd, ond yn y wlad hon, mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau coffau yn cael eu cynnal ar Sul y Cofio, sef y dydd Sul agosaf at 11 Tachwedd.

    Holwch oes rhywun yn gwybod pam mae Dydd y Cofio yn digwydd ar 11 Tachwedd. Eglurwch ei fod yn digwydd bryd hynny oherwydd ar yr unfed awr ar ddeg (11:00) ar y unfed diwrnod ar ddeg, o'r unfed mis ar ddeg (Tachwedd), y daeth y cadoediad i roi terfyn ar y Rhyfel Byd Cyntaf i rym. Yr enw ar y diwrnod yn wreiddiol oedd 'Ddydd y Cadoediad', ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei ail-enwi’n 'Ddydd y Cofio’.

  5. Eglurwch fod llawer o filwyr a phobl eraill wedi ysgrifennu cerddi am eu profiadau yn y ddau Ryfel Byd. Mae rhan o un o’r cerddi hyn, sef cerdd o'r enw ‘For the fallen’, a ysgrifennwyd gan ddyn o'r enw Laurence Binyon, wedi dod yn enwog iawn. Mae’r rhan hon o'r gerdd yn cael ei darllen mewn llawer o wasanaethau a gorymdeithiau Dydd y Cofio, ac yn cael ei hadnabod fel yr ‘Ode of Remembrance’:

    They shall grow not old, as we that are left grow old:
    Age shall not weary them, nor the years condemn.
    At the going down of the sun and in the morning
    We will remember them
    .

    A dyma fersiwn Gymraeg o’r rhan neilltuol honno o’r gerdd:

    Ni heneiddiant hwy, fel ni a adawyd.
    Ni ddwg oed iddynt ludded, na’r blynyddoedd gollfarn mwy.
    Pan elo’r haul i lawr, ac ar wawr y bore
    Ni â’u cofiwn hwy.

  6. Dewisol: Gofynnwch a oes unrhyw un wedi clywed am y mudiad o’r enw Byddin yr Iachawdwriaeth? Eglurwch ei bod yn eglwys ac yn elusen Gristnogol sy'n hyrwyddo heddwch, nid rhyfel. Ymhlith llawer o swyddogaethau eraill, mae hefyd yn ceisio cefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfel. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, helpodd Byddin yr Iachawdwriaeth i drefnu rhedeg ambiwlansys ar gyfer y rhai oedd wedi eu hanafu. Heddiw, mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn rhedeg canolfannau lle gall milwyr fynd iddyn nhw, lle i ymlacio ac i gynnig cefnogaeth i’r rhai sydd angen cefnogaeth. Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn mynd i gefnogi milwyr lle bynnag y maen nhw’n cael eu hanfon yn y byd, ac mae bellach wedi gwneud hyn ers dros 100 mlynedd. Yn ystod y bomio yn y ddau Ryfel Byd, roedd Byddin yr Iachawdwriaeth yn cynnig cymorth a lloches i bobl a gafodd eu heffeithio.

Amser i feddwl

Mae'n bwysig cofio beth ddigwyddodd yn y ddau Ryfel Byd ac mewn rhyfeloedd eraill. Mae hefyd yn dda ystyried bod llawer o bobl yn y byd – fel aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth – yn gwneud cyfraniadau cadarnhaol tuag at heddwch a gofalu am eraill. Un peth bach y gallech chi ei wneud i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfel yw prynu pabi coch. Mae’r cyfan o'r arian sy’n cael ei gasglu wrth werthu’r pabi yn mynd i gefnogi'r milwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfel, a'u teuluoedd.

Dangoswch y ddelwedd o’r casgliad pabi coch oddi amgylch Twr Llundain.

Efallai yr hoffech chi oleuo cannwyll a gofyn i’r plant eistedd yn dawel gan feddwl am rai o’r pethau rydyn ni wedi bod yn eu trafod yn y gwasanaeth heddiw.

Efallai yr hoffech chi hefyd chwarae’r recordiad o’r gerddoriaeth Last Post, ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=99tCg596QSc

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon