Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae’n fy ngwneud i’n benwan!

Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi’

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Cyflwyno’r stori Feiblaidd am Joseff, ac ystyried pam y gwnaeth Joseff ei frodyr yn ddig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
  • Dewisol: trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Any dream will do’ o’r sioe gerdd Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, a’r modd o’i chwarae ar ddechrau neu ar ddiwedd y gwasanaeth. Mae ar gael ar : https://www.youtube.com/watch?v=Wpuc2-RUf4s ac mae’n para am 3.51 munud.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol..

    Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Mae Liwsi Jên wedi bod yn dysgu canu’r trwmped.

    Holwch y plant oes unrhyw un ohonyn nhw’n dysgu chwarae offeryn cerdd.

    O’i stabl, roedd Sgryffi’n gallu clywed Liwsi Jênyn ymarfer canu’r trwmped. Weithiau, roedd hi’n gwneud llawer o gamgymeriadau, ac roedd Sgryffi’n meddwl mor braf y byddai pe gallai gau ei glustiau!

    Ar fore Sadwrn, pan fyddai Liwsi Jênyn rhoi ei frecwast i Sgryffi, roedd hi’n cwyno wrtho ei bod yn gorfod ymarfer.
    ‘Mae Mam yn dweud fod yn rhaid i mi fynd yn ôl i’r ty yn syth i ymarfer canu’r trwmped cyn i ni fynd am dro heddiw,’ cwynodd. ‘Pam rydw i’n gorfod ymarfer bob dydd, Sgryffi?

    Holwch y plant pam maen nhw’n meddwl bod angen i Liwsi Jên ymarfer bob dydd.

    Y bore yma, pan ddaeth Liwsi Jên i mewn i'r stabl, roedd hi’n hapus iawn. 'Fe gefais i freuddwyd wych neithiwr, Sgryffi,' meddai hi. 'Roeddwn i’n gallu canu fy nhrwmped yn wych. Roeddwn i’n teithio dros y byd i gyd. Roeddwn i’n perfformio mewn llawer o gyngherddau, a phobl yn curo dwylo ac yn cymeradwyo. Roeddwn i’n dod yn gyfoethog ac yn enwog. Pan ddeffrais i, fe wnes i ddweud wrth Mam am fy mreuddwyd, a gofyn iddi a oedd hi'n meddwl y byddai fy mreuddwyd yn dod yn wir. Ond wyt ti'n gwybod beth, Sgryffi? Dyma hi’n chwerthin a dweud, "Na – fyddi di ddim yn gyfoethog nac yn enwog os byddi di’n parhau i gwyno bob dydd pan mae'n amser i ti ymarfer!”’

    Rhoddodd Liwsi Jên fwythau i Sgryffi a rhwbio’i got. ‘Bosib fod Mam yn iawn, wyt ti’n meddwl Sgryffi?’ sibrydodd yn ei glust. ‘Fe fydd yn rhaid i mi weithio’n galetach!’

    Nodiodd Sgryffi ei ben a dweud, ‘Hi - ho, hi-ho!’ yn uchel iawn.

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Tybed a fyddech chi’n hoffi bod yn gyfoethog ac yn enwog ryw ddiwrnod. Gadewch i ni wrando ar stori o'r Beibl am fachgen o'r enw Joseff. Efallai eich bod wedi clywed am Joseff o'r blaen – mae sioe gerdd enwog sy’n adrodd ei stori, sefJoseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat.

    Roedd Joseff yn byw ar fferm gyda'i dad, Jacob, ei fam, Rachel, a'i ddeg brawd. Yn aml, byddai'r brodyr yn aros oddi cartref am ddyddiau ar y tro, yn gyrru'r defaid ymlaen ar hyd y tir er mwyn dod o hyd i borfa ffres iddyn nhw i'w fwyta. Roedd Joseff yn hoffi cysgu allan yn y nos o dan yr awyr serennog. Roedd yn cael breuddwydion rhyfeddol, ac roedd yn methu aros i gael sôn am ei freuddwydion wrth ei frodyr wrth iddyn nhw fwyta eu brecwast y bore wedyn.

    ‘Gwrandewch ar hyn!’ dywedodd un bore. ‘Dyna lle’r oedden ni, yn rhwymo ysgubau o yd yn y maes. Yn sydyn, dyma fy ysgub i yn sefyll i fyny’n syth, ac fe wnaeth eich holl ysgubau chi ymgrymu i fy ysgub i.’

    Roedd y brodyr yn ddig iawn gyda Joseff am iddo feddwl ei fod gymaint yn bwysicach na nhw, ac yntau’n iau na nhw!

    ‘O, ie, y brawd bach?’ fydden nhw wedi ei ddweud wrtho’n gas. ‘Felly, rwyt ti’n meddwl dy fod ti’n bwysicach na’r gweddill ohonom ni, wyt ti?’

    Cafodd Joseff ail freuddwyd, ond fe arhosodd Joseff nes byddai pawb wedi dod yn ôl i’r cartref gyda’r nos cyn sôn wrth ei frodyr am ei freuddwyd, oherwydd roedd arno eisiau i’w fam a’i dad glywed am y freuddwyd arbennig hefyd.

    Gofynnwch i’r plant pam maen nhw’n meddwl fod Joseff yn awyddus i sôn am ei freuddwydion.Ai oherwydd mai fo, Joseff, oedd bob amser y cymeriad mwyaf arbennig a phwysicaf yn ei freuddwydion?

    ‘Gwrandewch ar hyn, bawb!’ cyhoeddodd Joseff. ‘Yn fy mreuddwyd y tro hwn, roedd yr haul, y lleuad, ac un ar ddeg o sêr i gyd yn ymgrymu i mi.’

    ‘Beth?’llefodd ei dad. ‘Wyt ti o ddifrif yn meddwl y byddaf i a dy fam a dy frodyr, ryw ddiwrnod, yn penlinio o dy flaen di?’

    Doedd Jacob ddim yn gallu dychmygu, o ddifrif, y byddai breuddwyd Joseff yn dod yn wir ryw ddiwrnod!

Amser i feddwl

A ydyn ni, weithiau, yn ei chael hi’n anodd hoffi rhywun?
Beth maen nhw'n ei wneud sy'n gwneud i ni fod yn ddig?
A ydyn ni, weithiau, yn gwneud pobl eraill yn ddig oherwydd y pethau yr ydyn ni’n eu gwneud neu eu dweud?
Onid yw'n well i ni geisio bod yn ffrindiau gyda phawb?
Onid yw'n well i beidio â bod ymffrostgar, ond yn hytrach i edrych am y nodweddion da mewn pobl eraill a’u canmol am y pethau hynny?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae’n ddrwg gennym am yr adegau pan fyddwn ni’n cweryla â’n gilydd.
Mae’n ddrwg gennym ein bod yn gallu digio pan fydd rhywun arall yn cael ei ddewis yn arweinydd y gêm neu’n ennill y wobr roedden ni ei heisiau.
Helpa ni i gyd-chwarae ac i gyd-weithio.
Helpa ni i fod yn hapus pan fydd rhywbeth da yn digwydd i bobl eraill.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Any dream will do’ o’r sioe gerdd Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=Wpuc2-RUf4s

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon